Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

UZMASTON A BOULSTON

CYFEIRNOD GRID: SM 973138
ARDAL MEWN HECTARAU: 1663

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fawr wedi’i lleol ar rannau uchaf y Cleddau Wen. Mae wedi’i lleoli ym mhlwyfi Haroldston St Issell’s, Uzmaston (y ddau yn Arglwyddiaeth ganoloesol Haverford), Boulston a Slebets (ill dau ym Marwniaeth Daugleddau). Rhoddwyd eglwysi Boulston ac Uzmaston i Eglwys Gadeiriol Caerwrangon, ac yna i Farchogion Sant Ioan yn Slebets, cyn 1130, tra roedd eglwys Haroldston yn eiddo i’r Priordy Awstinaidd yn Hwlffordd. Roedd proses gymhleth o rannu ac is-enffeodaeth yn gysylltiedig â’r ardal hon yn dilyn rhannu Iarllaeth Penfro ym 1247 – ym 1324 daliai Arglwyddiaeth Penfro un ran o ddeg o ffi marchog yn Uzmaston tra daliwyd un ffi gan Arglwyddiaeth Haverford. Bu Boulston a Maenor Pictwn (yng ngorllewin Slebets, gyda’i chapwt yng Nghastell Pictwn) yn rhan o Faenor fwy Cas-wis, ond daethant yn ddaliadaethau ar wahân o dan deulu lleol y Wogans, a oedd yn gyn denantiaid i Ieirll Penfro, erbyn y 13eg ganrif. Roedd Haroldston, gan gynnwys Haylett, a gofnodwyd ym 1346, yn cynrychioli un ffi marchog o Arglwyddiaeth Haverford gan William Harold. Fe’i prynwyd yn ddiweddarach gan deulu dylanwadol y Perrots i ffurfio cnewyllyn eu hystadau anferth. Fodd bynnag, nid ymddengys i’r newid o ran perchenogaeth arwain at drefniadau daliadaeth gwahanol, ac roedd patrwm unffurf o amgáu yn bodoli ar draws yr ardal gymeriad hon erbyn y 18fed ganrif. Mae hwn, fel y patrwm anheddu cyffredinol, yn ymddangos yn ôl-ganoloesol ei ffurf. Mae’n cynnwys clostiroedd mawr, cymharol reolaidd sy’n ymddangos yn fugeiliol eu natur yn hytrach na’n dir âr ac a oedd, fwy na thebyg, yn gyfoes i weddill y ffermydd a’r daliadaethau. Ni chofnodwyd yr un o’r rhain cyn canol y 16eg ganrif a gallant fod yn fwy diweddar byth. Mae’n glir o’r mapiau cyntaf ar raddfa fawr bod y patrwm presennol o gaeau, coetir ac anheddiad wedi’i hen sefydlu erbyn canol y 18fed ganrif. Mae’n syndod nad yw mapiau hanesyddol yn dangos olion hen systemau caeau agored, dull ffermio a oedd yn gyffredin yn y rhan hon o Sir Benfro, a dull o ffermio y byddai rhywun yn disgwyl iddo gael ei ddefnyddio yn yr ardal hon yn yr oesoedd canol.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal gymeriad hanesyddol gymharol fawr hon wedi’i lleoli ar draws glannau dwyreiniol a gorllewinol rhannau llanwol uchaf y Cleddau Wen, i lawr yr afon yn uniongyrchol o Hwlffordd. Mae’r bryniau tonnog, sy’n codi i 50m a mwy ac sy’n syrthio’n serth i’r ddyfrffordd, wedi’u gorchuddio â chaeau, gyda choetir collddail ar hyd glannau’r afon a’i llednentydd ac ar rai o’r llethrau mwy serth. Cynhwysir rhannau uchaf y ddyfrffordd ei hun yn yr ardal hon, sy’n cynnwys sianel lanwol gul â chors, llaid a morfa heli yn y fan hon. Mae’n dirwedd amaethyddol a nodweddir gan ffermydd gwasgarog a chaeau canolig i fawr o ran eu maint ag iddynt siâp rheolaidd. Mae’r caeau o amgylch Boulston a Norchard i’r dwyrain o’r afon yn fwy o ran maint. Mae cloddiau â gwrychoedd yn nodi ffiniau. Maent wedi’u cynnal yn dda, ond mae rhai ohonynt wedi tyfu’n wyllt ac eraill wedi’u hesgeuluso a rhai wedi mynd rhwng y cwn a’r brain. Caiff y rhain eu disodli gan ffensys gwifren. Tuag at ffin ddwyreiniol yr ardal hon mae lleiniau cysgodi yn rhedeg wrth ymyl y ffyrdd, ac mae’r rhain, ynghyd â’r gwrychoedd sydd wedi tyfu’n wyllt a choed collddail ar y llethrau mwy serth yn rhoi naws goediog i rannau o’r dirwedd. Defnydd amaethyddol a wneir o’r tir sef tir pori wedi’i wella ac ychydig o gaeau âr a rhai o dir mwy garw. Ceir amrywiaeth helaeth iawn o ran maint y ffermydd a math y ffermydd ar draws y dirwedd, gan amrywio o adeiladau mawr iawn megis Maenor Boulston gyda’i fferm, i dai brodorol un-a-hanner llawr wedi’u codi o garreg gyda chyfres fach o adeiladau allan yn tarddu o ganol y 19eg ganrif. Fodd bynnag mae rhan fwyaf y ffermydd yn yr ardal hon yn sylweddol o ran eu maint gyda ffermdai wedi’u codi yn y traddodiad Sioraidd sy’n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, ffermdai brodorol o’r 19eg ganrif a ffermdai yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif. Wedi’u lleoli’n agos at y ffermdai mwy, weithiau mewn trefniant ffurfiol o amgylch buarth, ceir cyfres o adeiladau allan wedi’u codi o garreg a thoeau llechi sy’n dyddio o’r 19eg ganrif. Nodwedd arall o nifer o’r ffermydd mawr yw casgliadau mawr o adeiladau amaethyddol modern o ddur a choncrid. Mewn rhai enghreifftiau mae adeiladau fferm o friciau a/neu haearn gwrymiog sy’n dyddio o ganol y 20fed ganrif yn goroesi. Mae Lodj Boulston, sy’n dyddio o 1798 yn adeilad rhestredig Gradd II. Mae adeiladau eraill yn cynnwys sawl lodj i’r ffermydd mwy, eglwys ganoloesol St Issell, eglwys adfeiliedig Boulston, capel sy’n dyddio o ganol y 19eg ganrif a thai sy’n dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif. Nid yw’r tai hyn yn elfennau cyffredin yn y dirwedd. Uzmaston yw’r unig bentref yn yr ardal hon. Mae wedi’i ganoli ar yr eglwys blwyf ganoloesol ac yn cynnwys clwstwr bras o dai o gwmpas llain y pentref. Ceir anheddau o amrywiol arddulliau ac maent yn cynnwys tai cyngor sy’n dyddio o ganol yr 20fed ganrif, tai brodorol wedi’u hadeiladu o garreg yn dyddio o’r 19eg ganrif a thai sy’n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a godwyd yn y traddodiad Sioraidd. Mae safleoedd archeolegol niferus ac amrywiol yn yr ardal hon. Maent yn cynnwys: sawl crug crwn o’r oes efydd, meini hirion a thomenni wedi llosgi, tair bryngaer o’r oes haearn, safle capel, safleoedd melinau, cwningar, safle maenordy, gerddi a phlasty anghyfannedd Haroldston a sawl odyn galch ar lan yr afon.

Ar hyd ei ffin ogleddol â thref Hwlffordd, mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon wedi’i diffinio’n dda, gan nad yw nifer fawr o’r elfennau tirwedd wedi’u gadael i ddirywio. Ar yr ochrau eraill mae’r ffin yn cyffinio ag ardaloedd amaethyddol eraill; yma, nid oes ffin galed, dim ond parth newid.

Ffynonellau: map degwm Plwyf Boulston 1844; Davies 19946; Jones 1996: LlGC CASTELL PICTWN CYFROL 1; LlGC MAP 7524; LlGC CYFROL 88; Owen 1911; Ludlow 1998; mapiau degwm Plwyfi Slebets, Mynwar a Newton 1847; map degwm Plwyf Uzmaston 1841; Walker 1950