Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

PURFA OLEW AMOCO

CYFEIRNOD GRID: SM 883084
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 163

Cefndir Hanesyddol
Ar wahân i nifer o gaeau a leolir y tu mewn i’r ffens allanol, mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys purfa olew. Fe’i lleolir o fewn plwyfi Herbrandston a Robeston West. Gellir cysylltu’r mwyafrif o’r ffermydd a’r daliadau presennol â maenorau canoloesol. Bu’r maenorau hyn yn destun proses gymhleth o rannu ac is-enffeodaeth ar ôl i Iarllaeth Penfro gael ei rhannu i fyny ym 1247. Lleolid rhan ogleddol yr ardal o fewn Maenor ganoloesol Robeston, a oedd yn aelod o Arglwyddiaeth Hwlffordd nas sefydlwyd yn ôl pob tebyg tan y 14eg ganrif. Cynhwysai Trericert, sy’n ymestyn i mewn i ran orllewinol yr ardal, ¼ ffi marchog ac fe’i delid yn uniongyrchol o Ieirll Penfro fel eu cyfran o’r arglwyddiaeth. Cynrychiolai hanner deheuol yr ardal gyfran Barwniaeth Castell Gwalchmai o Herbrandston, a gynhwysai 2 ¾ gweddgyfair a ddelid o’r farwniaeth ‘trwy wrogaeth’. Fodd bynnag, nid ymddangosai fod y gwahanol berchenogaethau yn cael eu hadlewyrchu mewn unrhyw drefniadau deiliadol gwahanol, ac mai patrwm amgáu unffurf oedd y canlyniad. Cyn adeiladu’r burfa tirwedd amaethyddol o gaeau rheolaidd oedd yn yr ardal. Yn ôl mapiau hwyr o’r ystad ni newidiodd y caeau hyn fawr ddim rhwng diwedd y 18fed ganrif a’r adeg yr adeiladwyd y burfa. Dechreuwyd adeiladu’r burfa ym 1971 ac fe’i hagorwyd ym 1973.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Dim ond purfa olew a’i seilwaith, megis ffyrdd mynediad a rheilffordd fynediad, a geir yn yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon. Mae i’r ardal hon ffiniau pendant iawn ac mae’n dra gwahanol i’r tir ffermio oddi amgylch.

Ffynonellau: Map Degwm Plwyf Herbrandston 1839; McKay 1993; Owen 1911; PRO D/RKL/1191/1; PRO D/RKL/1194/2; PRO D/RKL/1194/6; PRO D/RKL/1194/9