![](../../shim.gif) |
![Norchard-Tarr](images/norchardtarr1.jpg)
NORCHARD - TARR
CYFEIRNOD GRID: SS 086991
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 685
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymharol fawr o fewn ffiniau modern sir Benfro,
yn gorwedd ym mlwyf Maenorbyr a phlwyf Penalun. Yn ystod y cyfnod canoloesol,
gorweddai ym maenor Eingl-Normanaidd Maenorbyr (a Phenalun) a oedd yn
arglwyddiaeth fên neu farwniaeth freiniol a ddaliwyd, drwy wasanaeth
5 marchog, o dan Arglwyddiaeth ac Iarllaeth Penfro, sef rhanbarth wedi’i
Seisnigeiddio’n helaeth a ddygwyd o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid
cyn 1100, a ad-drefnwyd ar hyd llinellau maenorau Seisnig ac nas ail-gipiwyd
gan y Cymry byth eto. Daliasid y farwniaeth gan y teulu de Barri, ers
dechrau’r 12fed ganrif ac, ar ôl i’r llinach honno ddod
i ben yn 1392, fe’i gwerthwyd i Ddugoedd Caerwysg cyn mynd yn ôl
i’r goron yn 1461. O hynny ymlaen cafodd ei phrydlesu i nifer o
unigolion cyn cael ei hewyllysio i’r teulu Philipps o Gastell Pictwn
a bu ym meddiant y teulu hwnnw tan yr 20fed ganrif. Yn yr ardal ceir tirwedd
o gaeau mawr, rheolaidd, sy’n eithaf gwahanol i’r llain-gaeau
yn ardal gymeriad Manorbier Newton i’r gorllewin. Fodd bynnag, mae’r
system caeau bresennol, yn rhedeg o’r gogleedd i’r de, yn
awgrymu y gallai fod wedi datblygu o lain-gaeau tebyg, sy’n deillio
o’r oes efydd o bosibl, a ymestynai i mewn i’r ardal hon gynt.
Erbyn y cyfnod canoloesol diweddar roedd yr ardal yn glwstwr o ffermydd
preifat mawr. Er enghraifft, dywedwyd bod daliad pwysig cynnar Norchard
yn werth hanner ffi marchog ynddo’i hun. Ceir cofnod amheus o Norchard
yn y 13eg ganrif pan oedd ym meddiant Thomas Luny fe ymddengys, ond mae
dogfennaeth well ohoni fel eiddo i’r teulu Marichurch o 1452 tan
1673. Aseswyd ar gyfer saith aelwyd yn 1670. Yn ddiweddarach bu’n
rhan o Ystad Bush y teulu Meyrick, lle y gelwid yn ‘Demesne and
Lordship’ Norchard. Ceir elfennau canoloesol yn y ty o hyd. Yn yr
un modd, aseswyd y daliadau pwysig yn Tarr a Carswell yn 1326 fel degfed
ran o ffi marchog, a ddelid yn uniongyrchol oddi wrth Ieirll Penfro, ac
mae twr ‘pele’ yn y naill a’r llall. Ymddengys bod Whitewell
hefyd yn rhydd-ddaliad o’r cyfnod canoloesol diweddar ymlaen, gydag
elfennau canoloesol yn y ffermdy presennol. Fodd bynnag, nid oes fawr
ddim arwydd o’u statws annibynnol yn y tri arolwg manwl o Faenor
Maenorbyˆ r a wnaed yn 1601, 1609 a 1618, ond efallai ei bod yn arwyddocaol
na chynhwyswyd rhai o’r daliadau, a llawer o’u manylion. Er
enghraifft, nid oe cyfeiriad at Carswell na fferm sylweddol Roberts Walls.
I’r gwrthwyneb, fodd bynnag, cofnodir Bubbleton fel daliad o’r
faenor yn ôl y ddefod. Cyfeirir at ei ‘chaeau’ - efallai,
y tro hwn, fel cyfeiriad at gaeau agored, o bosibl wedi’u cynrychioli
gan y ffiniau creiriol cyfochrog o’r gogledd i’r de o amgylch
y fferm. Sut bynnag, ni chofnodir unrhyw ddemên barnwrol ym Mhenalun.
Mae statws preifat y daliadau yn awgrymu bod y caeau presennol eisoes
wedi’u hamgáu erbyn yr 17eg ganrif, a ategir gan eu morffoleg
sy’n awgrymu dyddiad canoloesol diweddar neu fodern cynnar. Mae’r
ardal yn union i’r gogledd o Lydstep yn cynnwys cae o’r enw’r
Langstone, a allai fod yn fan cyfarfod posibl lle y cyfarfyddai rhydd-ddeiliaid
y faenor i dalu eu rhenti cyn adeiladu Plas Lydstep ar ddiwedd y 14eg
ganrif a’r 15fed ganrif (gweler ardal gymeriad Lydstep). Roedd tenantiaid
Penalun yn ôl y ddefod yn cynnal eu llys yn Bubbleton. Erbyn diwedd
y 18fed ganrif, roedd rhan helaeth o’r ardal hon ym meddiant Ystad
Castell Pictwn, gan gynnwys ‘The Demesne and Lordship of Norchard’.
O ganlyniad ceir nifer dda o fapiau hanesyddol o’r cyfnod hwn. Dengys
y mapiau dirwedd sydd bron yr un peth â’r dirwedd heddiw.
Mae llinel reilffordd yn croesi’r ardal, a agorwyd gan Reilffordd
Penfro a Dinbych-y-pysgod yn 1864 ac a brynwyd gan GWR yn 1896.
![Norchard-Tarr](images/norchardtarr2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol gymharol
fawr sy’n rhedeg o wastadedd arfordirol de sir Benfro tua 50m uwchben
lefel y môr, dros grib y Ridgeway i’r gogledd dros 90m uwchben
lefel y môr ac i lawr tuag at ddyffryn Ritec i oddeutu 30m uwchben
lefel y môr. Mae’n dirwedd amaethyddol, a nodweddir gan ffermydd
cymharol fawr gwasgaredig a chaeau mawr, rheolaidd eu siâp. Mae
gogwydd gyffredinol y caeau hyn o’r gogledd i’r de yn awgrymu
y gallent fod wedi datblygu o’r llain-gaeau ymochrol yn rhedeg o’r
gogledd i’r de sy’n nodwedd gref o’r ardal gymeriad
tirwedd i’r gorllewin. Y defnydd tir amaethyddol yw tua 85% tir
pori wedi’i wella a 15% tir âr. Nid oes fawr ddim tir garw.
I’r de o’r Ridgeway mae tymhestloedd Môr Iwerydd wedi
troi’r gwrychoedd ar dir uwch sy’n fwy agored i’r tywydd
yn llinellau anniben o lwyni, ond ar y tir is ac yn y rhan ogleddol fwy
cysgodol mae gwrychoedd yn tyfu’n drwchus ac maent wedi’u
cadw’n dda. Ar wahân i’r clystyrau bach o goed collddail
prysgog mewn pantiau cysgodol a choed wedi’u plannu wrth ymyl ffermydd,
nid yw coetir yn elfen gref o’r dirwedd hon. Cloddiau â wyneb
cerrig a gwrychoedd yn tyfu arnynt yw’r prif fath o derfyn, ond
yma a thraw gwelir waliau o galchfaen a morter, yn enwedig ar hyd ffyrdd
a llwybrau ac wrth ymyl ffermydd. Rwbl calchfaen lleol yw’r prif
ddefnydd adeiladu (wedi’i rendro â sment neu wedi’i
adael yn noeth), gyda llechi wedi’u torri â pheiriant ar y
toeau, er bod ychydig o enghreifftiau o adeiladau fferm lle mae teils
cerrig lleol wedi goroesi. Ceir tai sylweddol, gan gynnwys rhai ac iddynt
elfennau canoloesol diweddar megis Norchard, a’r adfeilion cromennog
cerrig yn Whitewell, Carswell a Tarr, gydag eraill yn y traddodiad Sioraidd
o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Er mai’r tai hyn
yn yr arddull Sioraidd gain yw’r rhai mwyaf cyffredin, ceir enghreifftiau
o ffermdai llai o ail hanner y 19eg ganrif ac iddynt elfennau brodorol
yn ogystal â bythynnod unllawr â ffryntiad dwbl. Mae gan y
rhan fwyaf o’r ffermydd mwy sawl rhes o adeiladau allan cerrig,
a adeiladwyd yng nghanol neu ar ddiwedd y 19eg ganrif yn bennaf, y mae
rhai ohonynt wedi’u trefnu o amgylch cwrt. Mae sawl grwp o adeiladau
fferm traddodiadol wedi cael eu haddasu at ddefnydd nad yw’n ymwneud
ag amaethyddiaeth. Mae gan y rhan fwyaf o ffermydd gweithredol adeiladau
amaethyddol mawr modern o ddur, concrit ac asbestos. Oherwydd agosrwydd
Dinbych-y-pysgod, yn enwedig i ochr ddwyreiniol yr ardal hon, hybwyd y
twf mewn cyfleusterau i dwristiaid, gan gynnwys meysydd gwersylla, meysydd
carafanau, cwrs golff a llwybr bygi. Mae’r tri phrif lwybr o’r
dwyrain i’r gorllewin yn mynd drwy’r ardal: y Ridgeway, ffordd
yr A4139 a’r llinell reilffordd rhwng Dinbych-y-pysgod a Phenfro.
Yn ogystal â’r tai canoloesol adfeiliedig, mae cyfoeth o archeoleg
gofnodedig gan gynnwys: lloriau cloddio fflint cynhanesyddol, crug crwn
o’r oes efydd, anheddiad amddiffynedig o’r oes haearn, melin
yd a sawl hen chwarel calchfaen ac odynnau calch.
Er nad yw’n annhebyg i rai ardaloedd cyfagos, mae’r
ffermdai mawr, rhai ohonynt yn deillio o’r cyfnod canoloesol, a’r
caeau mawr, rheolaidd eu siâp yn nodweddu’r dirwedd hon. Fodd
bynnag, nid yw bob amser yn bosibl pennu ei ffiniau’n fanwl gywir,
ac eithrio i’r gorllewin yn erbyn llain-gaeau ac i’r de lle
mae’n cyd-ffinio â’r parth arfordirol.
Ffynonellau: Charles 1992; Jones 1996; King a Perks 1970;
Ludlow 1996; map degwm Plwyf Maenorbyr 1842; Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Map Pictwn 14, LlGC Cyf 88; Swyddfa Gofnodion Sir Benfro D/Bush/26/6;
Page 1999; map degwm Penalun 1842; RCAHMW 1925; Rees 1932; Turner 1991;
Walker 1992
![Map Norchard-Tarr](images/mapnorchardtarr.jpg)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |