![](../../shim.gif) |
![Jameston](images/jameston1.jpg)
JAMESTON
CYFEIRNOD GRID: SS 056990
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 13
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern sir Benfro, yn cynnwys
pentref adeiledig Jameston. Yn ystod y cyfnod canoloesol, gorweddai o
fewn y faenor Eingl-Normanaidd, Maenorbyr (a Phenalun) a oedd yn arglwyddiaeth
fên neu farwniaeth freiniol a ddaliwyd, drwy wasanaeth 5 marchog,
o dan Arglwyddiaeth ac Iarllaeth Penfro, sef rhanbarth wedi’i Seisnigeiddio’n
helaeth a ddygwyd o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid cyn 1100, a ad-drefnwyd
ar hyd llinellau maenorau Seisnig ac nas ail-gipiwyd gan y Cymry byth
eto. Daliasid y farwniaeth gan y teulu de Barri, ers dechrau’r 12fed
ganrif ac, ar ôl i’r llinach honno ddod i ben yn 1392, fe’i
gwerthwyd i Ddugoedd Caerwysg cyn mynd yn ôl i’r goron yn
1461. O hynny ymlaen cafodd ei phrydlesu i nifer o unigolion cyn cael
ei hewyllysio i’r teulu Philipps o Gastell Pictwn a bu ym meddiant
y teulu hwnnw tan yr 20fed ganrif. Mae nifer o awduron wedi ceisio diffinio
a dyddio topograffi Jameston. Awgrymodd Roberts mai anheddiad cyn-Normanaidd
o fewn system caeau Eingl-Normanaidd ddiweddarach ydoedd. Fodd bynnag,
fel y nododd awduron eraill, mae’n debyg bod i’r system caeau
o’i hamgylch darddiad cynhanesyddol (yr oes efydd fwy na thebyg),
yn seiliedig ar y ‘gefnen’ gynhanesyddol. (gweler ardal gymeriad
llain-gaeau Manorbier Newton), ac ymddengys bod y pentref yn gorwedd dros
y system caeau hon. Dadl Kissock oedd bod gan y pentref gynllun rheiddiol,
sy’n awgrymu tarddiad cyn-Normanaidd. Fodd bynnag, nid yw elfennau
ei gynllun ‘rheiddiol’ yn argyhoeddi; at hynny, cydnabu Kissock
ei hun y bu’r anheddiad gynt yn gorwedd o amgylch lawnt betryalog
ffurfiol pentref (sydd wedi’i lenwi erbyn hyn). Mae’n fwy
tebygol iddo gael ei sefydlu yn y cyfnod Eingl-Normanaidd. Nid oes fawr
ddim hanes canoloesol cofnodedig i Jameston. Nodwyd capel yn y pentref
ar fap Saxton yn 1578, capel anwes plwyf Maenorbyr fwy na thebyg, ond
nid yw ei ddyddiad yn hysbys. Efallai iddo gael ei adeiladu’n ddiweddarach.
Mae’n bosibl bod enw’r lle, a gofnodwyd fel ‘apud Sanctu
Jacob’ yn 1295, ac unwaith eto fel ‘Saint Jameston’
yn 1331, yn deillio o ffair yn hytrach nag o’r capel - cofnododd
George Owen, sef ffynhonnell o ddiwedd yr 16eg ganrif y câi ffair
flynyddol wedi’i chysegru i Sant Iago ei chynnal yn y pentref. Wedyn
ymddengys bod Jameston wedi’i sefydlu fel pentrefan maenorol, a
oedd yn manteisio ar y tir âr da yn yr ardal leol. Fe’i cofnodwyd
yn eithaf manwl mewn tri arolwg diweddarach o Faenor Maenorbyr, yn 1601,
1609 a 1618. Roedd yn un o dri rhanbarth y faenor, gyda maer yn gyfrifol
am gasglu rhent, ac o ddiwedd yr 17eg ganrif cynhelid llysoedd maenorol
yno. Hwn oedd y pentrefan mwyaf ond un yn y faenor, ac roedd ganddo saith
fferm fawr, deg ty ac un bwthyn. Cadarnhawyd yn yr arolygon fod y d yn
cael ei dyfu yn yr ardal o amgylch y pentref, ond cofnodwyd i 22 erw o
dir âr gael ei golli rhwng 1609 a 1618. Mae’n amlwg o’r
cyfeiriad at ‘four closes’ yn yr arolygon bod y broses o amgáu’r
llain-gaeau o’i hamgylch eisoes wedi dechrau erbyn dechrau’r
17eg ganrif. Byddai tenantiaid yn dal tir drwy rydd-ddaliad, a thrwy ddau
fath o ddaliadaeth gopihowld o’r enw ‘daliadaeth hwsmonaeth’
a ‘daliad sensori’, yr ymddengys eu bod wedi goroesi o hen
ddeiliadaeth ffiwdal gynharach. Yn Jameston, rhoddodd 5 tenant rhydd-ddaliadol
naill ai arian parod neu’r rhosod cochion traddodiadol. Dros y tri
arolwg, cofnodwyd bod 22 o denantiaid hwsmonaeth yn meddu ar ffermydd
mawr - cyfanswm o 8 ysgubor, 10 ysgubor wair a 7 beudy. Ymddengys mai
yn y saith daliad sensori yr oedd y tir gwaethaf a dim ond un ysgubor,
a 2 feudy a gofnodwyd. Ymddengys felly nad yw pentref Jameston yn llawer
mwy heddiw nag yr oedd yn yr 17eg ganrif. Yn wir, mae’n bosibl ei
fod wedi crebachu; nid oes dim tystiolaeth faes o hyn, ond dengys map
degwm oddeutu 1840 anheddiad cnewyllol sydd ychydig yn llai na’r
anheddiad presennol. Erbyn 1840 roedd adeiladau eisoes wedi cael eu codi
ar lawnt y pentref. Mae’r rhan fwyaf o adeiladau’r pentref
presennol yn dyddio o’r 18fed a’r 19eg ganrif, gan gynnwys
yr eglwys, nas sefydlwyd tan y 19eg ganrif. Adeiladwyd capel anghydffurfiol
yn 1820 a sefydlwyd ty cwrdd a mynwent gan y Crynwyr yn ystod y 18fed
ganrif. Erys un fferm weithredol yn Jameston, a thafarn, ond natur breswyl
sydd iddi yn bennaf, gyda dwy res o adeiladau o’r 20fed ganrif.
Mae’r ffair flynyddol wedi cael ei hailgychwyn.
![Jameston](images/jameston2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae Jameston yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach
yn cynnwys pentref ar dir gwastad tua 60m uwchben lefel y môr, ar
gyffordd rhwng ffordd yr A4139 o’r dwyrain i’r gorllewin a
sawl isffordd. Mae’n cynnwys cnewyllyn bach o adeiladau o’r
18fed a’r 19eg ganrif ynghyd ag anheddau modern. Arferai fod yn
bentref amaethyddol, ond erbyn hyn dim ond un fferm o faint sy’n
dal yn weithredol, gyda rhesi mawr o adeiladau amaethyddol modern, ar
ymyl ddeheuol y pentref. Mae waliau cerrig uchel o amgylch Tafarn Swan
Lake sef adeilad deulawr a godwyd yn y 19eg ganrif yn gwneud y brif ffordd
yng nghraidd y pentref yn gyfyng. Yma mae clwstwr o anheddau ac arnynt
doeau llechi wedi’u hadeiladu o galchfaen lleol sy’n dyddio
o ganol i ddiwedd 19eg ganrif yn bennaf. Ceir enghreifftiau unllawr neu
ddeulawr, gyda’r rhan fwyaf wedi’u hadeiladu yn y traddodiad
brodorol, er bod maint y ffenestri a’u cymesuredd yn awgrymu tueddiadau
tuag at y traddodiad ‘Sioraidd’ cain. Mae rhesi bach o adeiladau
amaethyddol cerrig a arferai fod yn rhan o fferm yng nghanol y pentref
wedi’u haddasu’n bennaf at ddefnydd nad yw’n ymwneud
ag amaethyddiaeth. Saif y Neuadd Genhadol, sef eglwys fach mewn arddull
gothig ddiraddedig hefyd yng nghraidd y pentref. Gorwedda dwy hen fferm
fawr o bensaernïaeth eithaf soffistigedig ar gyrion y pentref. Mae’r
rhesi mawr o dai allan cerrig, wedi’u gosod yn anffurfiol o amgylch
buarth y ddwy fferm wedi’u haddasu at ddefnydd preswyl. Mae’r
ddau dy yn dyddio o’r 18fed ganrif yn wreiddiol. Mae’r naill
yn dy tri llawr, yn y traddodiad Sioraidd gyda drychiad blaen wedi’i
blastro, a’r llall yn dy neo-gothig o ddiwedd y 18fed ganrif sydd
wedi cael ei newid gryn dipyn. Rhwng yr adeiladau hyn ceir tai modern,
mewn ystadau bach neu’n anheddau unigol, mewn amrywiaeth o arddulliau
a defnyddiau, sy’n cadw cnewyllyn clwm y pentref. Mae maes carafanau
bach ym mhen dwyreiniol y pentref.
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Jameston yn gwrthgyferbynnu
â’r dirwedd o gaeau a ffermydd o’i hamgylch.
Ffynonellau: Austin 1988; King a Perks 1970; Kissock
1997; map degwm Plwyf Maenorbyr 1842; Milne 2001; Owen 1892; Roberts 1987;
Walker 1992
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |