![](../../shim.gif) |
COED MAWR
![COED MAWR](images/coedmawr1.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN363392
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 140
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern sir Gaerfyrddin sy’n
cynnwys darn o dir a amgaewyd trwy ddeddf Seneddol yn y 19eg ganrif, a
nodweddir gan gaeau hirsgwar, rheolaidd eu siâp, sydd bellach yn
goediog ar y cyfan. Gorweddai’r ardal o fewn cantref canoloesol
Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Uwch-Cych. Dygwyd Cantref Emlyn yn rhannol o
dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100. Sefydlwyd nifer o gestyll yng
nghwmwd Uwch-Cych - nad oes gan yr un ohonynt unrhyw hanes cofnodedig
- ond roedd y cwmwd yn ôl o dan reolaeth y Cymry erbyn y 1130au,
ac arhosodd felly trwy gydol y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Cymerodd
Ieirll Marshall Eingl-Normanaidd Penfro feddiant ar gwmwd Uwch-Cych yn
1223, ond fe’i rhoddwyd i Maredudd ap Rhys, ac arhosodd ym meddiant
ei deulu yntau nes cael ei gyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr yn
1283. Yn y diwedd daeth yn rhan o Gantref Elfed yn sir Gaerfyrddin yn
1536. Rhoddwyd Uwch-Cych i Syr Rhys ap Thomas, ffefryn yn y llys brenhinol,
ar ddiwedd y 15fed ganrif. Dychwelodd i’r goron yn 1525 a’i
rhoddodd i Syr Thomas Jones o Haroldston, sir Benfro, yn 1546. Arhosodd
ym meddiant y teulu hwn am nifer o genedlaethau cyn cael ei drosglwyddo
yn y diwedd trwy briodas i Ystad Gelli Aur y teulu Vaughan, a oedd yn
dal i fod yn berchen ar bron yr holl dir ar ochr ddeheuol afon Teifi o
Bentre-cwrt yn y dwyrain i Genarth yn y gorllewin yn y 19eg ganrif. Y
patrwm tirddaliadaeth canoloesol Cymreig - na chynhwysai na threflannau
na ffïoedd marchog - a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu
gwasgaredig yn y rhanbarth. Yn wir ni chafwyd fawr ddim anheddu yn yr
ardal hon, a oedd yn dir comin yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol,
a chyn hynny yn ôl pob tebyg. Ar fap degwm 1839 nodir bod yr ardal
yn cynnwys tir agored, ac ar y dyraniad cysylltiedig fe’i henwir
yn Dir Comin Waun Fawr, a nodir ei fod yn eiddo i Iarll Cawdor. Mae tystiolaeth
y map degwm yn awgrymu bod pobl wedi bod yn tresmasu ar gyrion y tir comin
hwn yn ddiweddar a’u bod wedi’i amgáu. Yn 1855, rhoddwyd
Dyfarniad Cau Seneddol i amgáu 138 o erwau o dir comin a thir diffaith,
a elwid bryd hynny yn Waunmeiros. Dangosir canlyniad y dyfarniad hwn -
sef caeau rheolaidd eu siâp a darn syth o ffordd - ar Argraffiad
Cyntaf Map yr Arolwg Ordnans a luniwyd yn 1887. Y patrwm caeau a sefydlwyd
yn 1855 yw’r un a welir heddiw. Sefydlwyd planhigfa fach o goetir
erbyn 1887, a heddiw mae’r ardal yn cynnwys cymysgedd o goetir a
thir pori.
![COED MAWR](images/coedmawr2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Erbyn hyn nid oes llawer o wahaniaeth rhwng yr ardal
gymeriad dirwedd hanesyddol gymharol fach hon, sy’n ymestyn ar draws
tir gweddol donnog rhwng 60m a 89m o uchder, a thirweddau’r ardaloedd
sy’n ffinio â hi, ond mae ganddi hanes tirwedd diweddar ar
wahân y mae cryn dystiolaeth ddogfennol iddo. Mae’r patrwm
presennol o gaeau cymharol fach, rheolaidd eu siâp a rennir gan
wrychoedd ar gloddiau yn dyddio o 1855, pan y’i sefydlwyd o ganlyniad
i Ddeddf Cau Tiroedd Seneddol. Mae darn syth o ffordd sy’n croesi’r
ardal yn nodweddiadol o weithgarwch amgáu tir Seneddol. Sefydlwyd
planhigfa fach o goed collddail erbyn 1887 ac ers hynny mae coetir collddail
wedi aildyfu dros lawer o gaeau eraill neu maent wedi’u plannu â
choetir collddail. Mae’r coetir hwn a’r ffaith bod y gwrychoedd
wedi tyfu’n wyllt yn rhoi golwg dra choediog i’r dirwedd.
Ymddengys nad yw ansawdd y tir cystal â’r tir mewn ardaloedd
cyfagos am y ceir llawer o dir pori heb ei wella a thir brwynog gwlyb.
Ni cheir unrhyw anheddau nac unrhyw adeiladau eraill, ac nid oes unrhyw
safleoedd archeolegol a gofnodwyd.
Mae caeau rheolaidd eu siâp, coetir a’r ffaith
nas oes unrhyw adeiladau yn gwahaniaethu rhwng yr ardal hon a’r
ardaloedd sy’n ffinio â hi. Ar wahân i’r elfennau
hyn, nid yw cymeriad cyffredinol y dirwedd yn annhebyg i weddill y rhan
hon o gefn gwlad gogledd sir Gaerfyrddin.
Ffynonellau: Argraffiad Cyntaf Map 1:2500 yr Arolwg
Ordnans, tua 1880; Chapman, J, 1992, A Guide to Parliamentary Enclosures
in Wales, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol
Rhanbarthol a gedwir gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Craster, O E, 1957, Cilgerran
Castle, Llundain; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales
1 a 2, Llundain; Lloyd, J E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol
I, Caerdydd; map degwm plwyf Llangeler, 1839; Rees, W, 1932, ‘Map
of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951,
An Historical Atlas of Wales, Llundain
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |