![](../../shim.gif) |
BWLCHYDOMEN - PENTRECAGAL
![BWLCHYDOMEN - PENTRECAGAL](images/bwlchydomen1.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN334381
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1049
Cefndir Hanesyddol
Ardal weddol fawr o fewn ffiniau modern sir Gaerfyrddin
sy’n cynnwys ffermydd gwasgaredig, caeau a chlystyrau gwasgaredig
o goetir.
Gorwedda o fewn cantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd
Emlyn Uwch-Cych. Dygwyd Cantref Emlyn yn rhannol o dan reolaeth Eingl-Normanaidd
tua 1100 pan ad-drefnwyd cwmwd Emlyn Is-Cych, i’r gorllewin, i greu
Arglwyddiaeth Cilgerran. Sefydlwyd nifer o gestyll yng nghwmwd Uwch-Cych
- nad oes gan yr un ohonynt unrhyw hanes cofnodedig - ond roedd y cwmwd
yn ôl o dan reolaeth y Cymry erbyn y 1130au, ac arhosodd felly trwy
gydol y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Sefydlwyd castell mwnt a beili,
sef Tomen Seba, o fewn yr ardal gymeriad hon. Nid oes ganddo unrhyw hanes
cofnodedig ac ni wyddom a gafodd ei sefydlu yn ystod y cyfnod byr pan
fu Uwch-Cych o dan reolaeth Eingl-Normanaidd, neu yn ddiweddarach yn ystod
y 12fed ganrif gan y Cymry. Os cafodd ei sefydlu gan yr Eingl-Normaniaid,
mae’n debyg iddo gael ei adael yn gynnar, ac ni ddaeth erioed yn
ganolbwynt i unrhyw anheddiad cnewyllol nac unrhyw anheddiad arall.
Cymerodd Ieirll Marshall Eingl-Normanaidd Penfro feddiant
ar gwmwd Uwch-Cych yn 1223, ond fe’i rhoddwyd i Maredudd ap Rhys,
ac arhosodd ym meddiant ei deulu yntau nes cael ei gyfeddiannu yn y diwedd
gan goron Lloegr yn 1283. Roedd yn rhan o Gantref Elfed yn sir Gaerfyrddin
yn 1536, pan ymunodd Is-Cych â sir Benfro. Rhoddwyd Uwch-Cych i
Syr Rhys ap Thomas, ffefryn yn y llys brenhinol, ar ddiwedd y 15fed ganrif.
Dychwelodd i’r goron yn 1525 a’i rhoddodd i Syr Thomas Jones
o Haroldston, sir Benfro, yn 1546. Arhosodd ym meddiant y teulu hwn am
nifer o genedlaethau cyn cael ei drosglwyddo yn y diwedd trwy briodas
i Ystad Gelli Aur y teulu Vaughan, a oedd yn dal i fod yn berchen ar bron
yr holl dir ar ochr ddeheuol Aofn Teifi o Bentre-cwrt yn y dwyrain i Genarth
yn y gorllewin yn y 19eg ganrif. Y patrwm tirddaliadaeth canoloesol Cymreig
- na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchog - a fu’n
bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth.
Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif
rai llain-gaeau cymsyg, agored ar rai daliadau. Fodd bynnag, nid yw’n
debyg eu bod yn perthyn i’r cyfnod canoloesol, ac yn ddiau nid y
lleiniau maes agored ffurfiol o dir âr sy’n nodweddiadol o
systemau tirddaliadaeth Eingl-Normanaidd mohonynt. Yn lle hynny, ymddengys
fod y lleiniau yn cynrychioli hawliau pori a roddwyd i ffermydd cyfagos
ac ymddengys fod o leiaf ran o’r ardal hon yn cynnwys tir pori agored
a oedd yn eiddo i nifer o berchenogion, ac a amgaewyd ar ddiwedd y 18fed
ganrif. Mae’r dirwedd bresennol, ledled yr ardal gymeriad, yn cynnwys
yn bennaf gaeau gweddol fawr, eithaf rheolaidd eu siâp sy’n
nodweddiadol, o ran eu ffurf a’u maint, o ddechrau’r cyfnod
ôl-ganoloesol. Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif
dirwedd sy’n debyg i’r un a welir heddiw, ar wahân i’r
llain-gaeau gweddilliol. Erbyn i’r map degwm gael ei lunio yn 1840
roedd pob un o’r lleiniau hyn wedi diflannu. Mae’r map degwm
hefyd yn dangos dwy boced fach o dir agored, sef Tir Comin Waungilwen
a Thir Comin Cwmhiraeth. Mae’n debyg mai gweddillion tir pori agored
oedd y rhain. Mae’n debyg bod y tir comin hwn yn helaeth mewn canrifoedd
cynharach, ond roedd wedi’i amgáu bob yn dipyn ac erbyn canol
y 19eg ganrif prin oedd y tir comin a oedd yn weddill. Amgaeodd y Senedd
y darnau olaf hyn o dir comin yn 1866. Mae’r unig glwstwr o aneddiadau
ym Mhentrecagal, ar hyd yr A484 wrth ei chyffordd â’r ffordd
annosbarthedig i Dre-fach Felindre. Ymddengys iddo gael ei sefydlu yn
y 19eg ganrif, a datblygodd ar ôl i’r A484 gael ei hadeiladu
fel ffordd dyrpeg, ar ddiwedd y 18fed ganrif, mewn ymateb i lefelau cynyddol
o draffig yn teithio i felinau gwlân ac oddi yno. Mae’r ardal
wedi’i lleoli y tu hwnt i’r brif ardal cynhyrchu brethyn yn
y 19eg ganrif, ond mae gwehyddion wedi’u cofnodi mewn nifer o leoliadau,
a redai ddiwydiant cartref yn ôl pob tebyg mewn bythynnod a gweithdai
bach. Roedd y diwydiant hwn wedi dod i ben erbyn canol yr 20fed ganrif.
![BWLCHYDOMEN - PENTRECAGAL](images/bwlchydomen2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Nodweddir yr ardal gymeriad dirwedd hanesyddol amaethyddol
hon gan ffermydd gwasgaredig, caeau a rennir gan wrychoedd a phocedi bach
o goetir collddail. Mae’n ymestyn ar draws llethr dyffryn afon Teifi
sy’n wynebu’r gogledd ac yn graddol ddisgyn. Yn ei phen gogleddol
mae’n ymdoddi i orlifdir yr afon tua 30m uwchben lefel y môr,
ond yn ei chyrion deheuol pellaf mae’n codi i dros 260m uwchben
lefel y môr. Tir pori wedi’i wella yw’r defnydd a wneir
o’r tir bron yn gyfan gwbl, ac ni cheir fawr ddim tir âr na
thir garw. Mae’r caeau yn weddol fawr ac yn rheolaidd eu siâp
ac fe’u rhennir gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. At ei gilydd mae’r
gwrychoedd mewn cyflwr da, ond maent yn tueddu i fod yn anniben ac mae
llawer wedi tyfu’n wyllt ar hyd ffin ddeheuol fwy agored yr ardal,
ac yn fwy toreithiog gyda mwy o goed a llwyni mwy o faint ar lefelau is,
mwy cysgodol. Mae’r coetir wedi’i gyfyngu yn bennaf i lethrau
mwy serth nentydd bach. Mae’r ychydig bach o goetir ynghyd â’r
gwrychoedd sydd wedi tyfu’n wyllt yn rhoi golwg goediog i rannau
o’r dirwedd. Cerrig yw’r prif ddeunydd adeiladu, naill ai
wedi’u rendro â sment neu wedi’u gadael yn foel. Ym
mhen deheuol yr ardal, i ffwrdd o afon Teifi, mae cerrig o ffynonellau
lleol wedi’u defnyddio. Mae’r cerrig hyn yn aml wedi’u
rendro lle y maent wedi’u defnyddio i adeiladu tai, ond maent wedi’u
gadael yn foel ar adeiladau allan amaethyddol. Yn agosach at yr afon llechi
dyffryn Teifi yw’r prif ddeunydd adeiladu. Llechi masnachol o’r
Gogledd yw’r deunydd toi ym mhob man. Mae’r brif stoc adeiladau
yn dyddio o’r 19eg ganrif, ac mae’r mwyafrif o’r ffermdai
yn dyddio yn ôl pob tebyg o ail hanner y ganrif. Maent yn fach ac
wedi’u codi yn arddull nodweddiadol y De-orllewin - sef adeiladau
deulawr a chanddynt dri bae, drws ffrynt canolog a phum ffenestr wedi’u
trefnu’n gymesur - arddull sy’n deillio’n fwy o’r
traddodiad Sioraidd ‘cain’ na’r traddodiad brodorol.
Yn yr un modd mae adeiladau allan fferm yn dyddio o’r 19eg ganrif
yn eithaf bach, ac maent yn ffurfio un neu ddwy res, a cheir beudai, stablau
ac ysguboriau ar y mwyafrif o ffermydd. At ei gilydd nid yw’r adeiladau
allan modern yn fawr er y ceir rhai enghreifftiau mawr iawn. Mae rhai
tai gweithwyr unllawr a deulawr yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif wedi’u
gwasgaru gerllaw ffin ardal ddiwydiannol Dre-fach Felindre a gysylltir
â’r diwydiant gwlân. Mae Pentrecagal, yr unig glwstwr
o anheddu, yn cynnwys nifer o dai gweithwyr yn dyddio o ddiwedd y 19eg
ganrif a thai yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif sy’n ymestyn ar
hyd yr A484. Saif tai gweithwyr, tafarn, gorsaf betrol a mân ddatblygiadau
masnachol eraill ar hyd y briffordd hon i’r gorllewin o Bentrecagal.
Plasty Dolhaidd, adeiladau ‘Sioraidd’ rhestredig yn dyddio
o’r 19eg ganrif sy’n cynnwys elfennau cynharach, yw’r
adeilad mwyaf yn yr ardal hon. Saif fferm y plas, lle yr addaswyd rhai
o’r adeiladau i’w defnyddio fel llety gwyliau, nid nepell
o’r plasty. Mae’r mwyafrif o’r 63 o safleoedd archeolegol
yn cofnodi’r defnydd a wnaed o fwthyn neu annedd at ddibenion gwehyddu
neu ar gyfer rhyw ddefnydd arall ar raddfa fach a oedd yn gysylltiedig
â diwydiant gwlân y 19eg ganrif. Yr unig safleoedd archeolegol,
cynharach eraill o bwys yw Tomen Seba - castell mwnt a beili yn dyddio
o’r cyfnod canoloesol - a bryngaer yn dyddio o’r Oes Efydd.
Mae i ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Bwlchydomen –
Pentrecagal ffiniau pendant i’r gogledd lle y mae’n ffinio
â gorlifdir afon Teifi, i’r dwyrain lle y mae’n cyferbynnu
â phentrefi diwydiannol Dre-fach Felindre, ac i’r de lle y
mae’n ffinio â’r tir uwch a arferai fod yn agored. Mae’r
ffin yn llai pendant i’r gorllewin lle y mae’r dirwedd a thirwedd
Bwlchydomen – Pentrecagal yn rhannu llawer o elfennau tebyg.
Ffynonellau: Archifdy Caerfyrddin c/v 5885 Ystad Castellnewydd
Emlyn – Eiddo John Vaughan 1778, mapiau 43, 47, 51, 54, 58, 62,
64; Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol
neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir
gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Craster, O E, 1957, Cilgerran Castle, Llundain;
Jones, D E, 1899, Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr, Llandysul; King,
D J C, 1988, Castellarium Anglicanum, Efrog Newydd; Lewis, S, 1833, A
Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Lloyd, J E, 1935, A
History of Carmarthenshire, Cyfrol I, Caerdydd; Ludlow, N, 2002, ‘The
Cadw Early Medieval Ecclesiastical Sites Project, Stage 1: Carmarthenshire’,
adroddiad nas cyhoeddwyd gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Llawysgrifau Llyfrgell
Genedlaethol Cymru Cyf 84 (PE965) Cynllun Cau Tiroedd yn Llangeler, Penboyr
a Chilrhedyn 1866; Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyf 84 Ramsey,
R a Ludlow, N, 1999, ‘Blaen Bowi, Cenarth: proposed windfarm site,
archaeological assessment’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Archeoleg
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Llyfr Mapiau’r Parch J C Davies
1793-1815; Map degwm plwyf Penboyr 1840; Rees, W, 1932, ‘Map of
South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951,
An Historical Atlas of Wales, Llundain
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |