Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Drefach-Felindre >

BWLCH-CLAWDD - CWMBACH

BWLCH-CLAWDD - CWMBACH

CYFEIRNOD GRID: SN378345
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 270

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o fewn ffiniau modern sir Gaerfyrddin sy’n cynnwys llain gul ar lethr ogleddol esgair sy’n ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin. Arferai gynnwys rhostir agored a amgaewyd yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Yn debyg i dirweddau tebyg mewn mannau eraill yn y De-orllewin, henebion cynhanesyddol yw prif elfen y dirwedd hanesyddol. Mae Crugyddalfa a Chructarw, dwy domen gladdu yn dyddio o’r Oes Efydd ar ei chwr deheuol - yr oedd y ddwy ohonynt, o fwriad, yn dra amlwg - yn rhoi cymeriad gweledol a dyfnder amser i dirwedd yr ardal gymeriad. Ni nodwyd unrhyw systemau caeau cyfoes hyd yma. Yn ystod y cyfnod hanesyddol, gorweddai’r ardal hon ar gwr deheuol cantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Uwch-Cych. Dygwyd Cantref Emlyn yn rhannol o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100 pan ad-drefnwyd cwmwd Emlyn Is-Cych, i’r gorllewin, i greu Arglwyddiaeth Cilgerran. Sefydlwyd nifer o gestyll yng nghwmwd Uwch-Cych - nad oes gan yr un ohonynt unrhyw hanes cofnodedig - ond roedd y cwmwd yn ôl o dan reolaeth y Cymry erbyn y 1130au, ac arhosodd felly trwy gydol y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Cymerodd Ieirll Marshall Eingl-Normanaidd Penfro feddiant ar gwmwd Uwch-Cych yn 1223, ond fe’i rhoddwyd i Maredudd ap Rhys, ac arhosodd ym meddiant ei deulu yntau nes cael ei gyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr yn 1283. Roedd yn rhan o Gantref Elfed yn sir Gaerfyrddin yn 1536, pan ymunodd Is-Cych â sir Benfro. Rhoddwyd Uwch-Cych i Syr Rhys ap Thomas, ffefryn yn y llys brenhinol, ar ddiwedd y 15fed ganrif. Dychwelodd i’r goron yn 1525 a’i rhoddodd i Syr Thomas Jones o Haroldston, sir Benfro, yn 1546. Arhosodd ym meddiant y teulu hwn am nifer o genedlaethau cyn cael ei drosglwyddo yn y diwedd trwy briodas i Ystad Gelli Aur y teulu Vaughan, a oedd yn dal i fod yn berchen ar bron yr holl dir ar ochr ddeheuol Aofn Teifi o Bentre-cwrt yn y dwyrain i Genarth yn y gorllewin yn y 19eg ganrif. Y patrwm tirddaliadaeth canoloesol Cymreig - na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchog - a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth. Yn wir, mae’n debyg bod yr ardal gymeriad hon yn cynnwys rhostir agored tan ganol y 18fed ganrif. Mae gennym ddealltwriaeth eithaf da o’i hanes ers hynny. Dengys mapiau ystad o 1778 rostir sydd wedi’i rannol amgáu. I’r gogledd lleolid ffermydd a chaeau fel heddiw, ac i’r de rhostir uchel, agored. Gwladychwyd yr ardal. Er enghraifft, ym Mhenclawdd Uchaf yn 1778 lleolid dau fwthyn ar rostir agored, ond erbyn 1839 roedd caeau wedi’u creu o amgylch y bythynnod hyn. Mae amheuaeth ynghylch cyfreithlondeb y broses hon o feddiannu tir comin, ar ffurf aneddiadau sgwatwyr neu dai unnos, ond fe’u goddefwyd yn aml. Pan amgaewyd yr hyn a oedd yn weddill o dir comin Llangeler a Phenboyr gan Ddeddf Seneddol yn 1866 nodir bod rhai o’r aneddiadau hyn yn dresmasiadau. Ers y dyddiad hwnnw mae nifer yr aneddiadau yn yr ardal wedi gostwng rywfaint.

BWLCH-CLAWDD - CWMBACH

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Bwlch-Clawdd – Cwmbach yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol linellol sy’n ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin ar draws llethrau sy’n wynebu’r gogledd rhwng 210m a 270m yn union islaw copa esgair. Ardal gymeriad amaethyddol ydyw a nodweddir gan gaeau bach, afreolaidd eu siâp, gwrychoedd ar gloddiau a ffermydd gwasgaredig. Tir pori wedi’i wella yw’r defnydd a wneir o’r tir bron yn gyfan gwbl, ac nid oes fawr ddim tir âr na thir o ansawdd gwael. At ei gilydd mae’r gwrychoedd ar y cloddiau pridd a’r cloddiau o bridd a cherrig wedi tyfu’n wyllt ac maent ar chwâl, ac mae’r nifer fawr o lwyni mawr a choed bach sy’n tyfu ynddynt, ar y cyd â choetir collddail ar rai o’r llethrau serth, yn rhoi golwg goediog i rannau o’r dirwedd. Mae daliadau amaethyddol yn fach iawn. Disodlwyd y mwyafrif o’r ffermdai cynharach gan fyngalos a thai deulawr yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif sydd mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau, a cheir rhai tai modern gwasgaredig ar draws yr ardal. Mae ambell annedd ddeulawr wedi’i rendro â sment a adeiladwyd yn yr arddull frodorol ar ddiwedd y 19eg ganrif wedi goroesi, ond maent yn brin. Yn yr un modd mae adeiladau fferm wedi’u hadeiladu o gerrig sy’n dyddio o’r 19eg ganrif yn anarferol, ond lle y’u ceir maent yn fach. Mae’r mwyafrif o adeiladau allan fferm yn fodern ac yn gymharol fach, er bod gan un fferm adeiladau amaethyddol sylweddol o goncrid, dur ac asbestos sy’n dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif. Nid oes unrhyw adeiladau rhestredig. Mae tri safle archeolegol ar ddeg wedi’u cofnodi. Mae’r mwyafrif o’r rhain naill ai’n chwareli ac yn byllau tywod yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif neu adeiladau y cyfeiriwyd atynt uchod. Mae dwy domen gladdu yn dyddio o’r Oes Efydd yn dynodi gweithgarwch dynol yn yr ardal cyn y 19eg ganrif, ac felly hefyd pen gogleddol Clawdd-Mawr, cloddwaith amddiffynnol llinellol yn dyddio o ddechrau’r cyfnod canoloesol.

Mae i’r ardal gymeriad dirwedd hanesyddol hon ffiniau eithaf pendant. Ceir caeau rheolaidd eu siâp a grëwyd gan ddyfarniad cau tiroedd yn y 19eg ganrif i’r de a cheir ffermydd cyfoethocach, mwy o faint ar y tir is i’r gogledd.

Ffynonellau: Archifdy Caerfyrddin c/v 5885 Ystad Castellnewydd Emlyn – Eiddo John Vaughan 1778, mapiau 70, 85, 89, 92; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Craster, O E, 1957, Cilgerran Castle, Llundain; Jones, D E, 1899, Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr, Llandysul; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Lloyd, J E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol I, Caerdydd; Llawysgrifau Amgueddfa Genedlaethol Cymru Cyfrol 84 (PE965) Cynllun Cau Tiroedd yn Llangeler, Penboyr a Chilrhedyn 1866; Map degwm plwyf Llangeler 1839; Map degwm plwyf Penboyr 1840; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain

MAP BWLCH-CLAWDD - CWMBACH

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221