Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

263 CARN WEN

CYFEIRNOD GRID : SN166283
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 17.5

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fechan yn y Sir Gaerfyrddin fodern yn cynnwys Carn Wen, bryn i dde-ddwyrain Mynydd Preseli. Gorwedd o fewn Cwmwd Amgoed, cwmwd yng Nghantref Gwarthaf a ad-drefnwyd fel Arglwyddiaeth Eingl-Normanaidd San ClLr erbyn 1130. Fodd bynnag parhaodd yr ardal i gael ei dal o dan gyfundrefnau tenantiaeth Cymreig ar hyd yr amser i fewn i'r cyfnod ôl-ganoloesol ac erbyn yr oesoedd canol diweddar fe'i rhennid i dri bloc o ddaliadau gwasgaredig - Traean Morgan, Traean Clinton, a Traean March y gorweddai Carn Wen o'i mewn. Mae'r bryn, ac mae'n debyg mae felly y bu o hyd, yn agored ond mae yn awr bron i gyd yn cynnwys chwarel fawr sydd bellach yn segur. Hwyrach bod y chwarel wedi cynhyrchu peth llechi ond mae unrhyw dystiolaeth o hynny wedi diflannu o ganlyniad i gloddio mwy diweddar am gerrig

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Ardal gymeriad hanesyddol fechan iawn yw hon. Mae'n cynnwys bryn bychan - Carnwen - sy'n codi o'r ffermdir a amgaewyd sy'n ei amgylchynu ar 250m i uchafswm o 289m. Mae'n agored ac wedi ei orchuddio a rhedyn a phrysgwydd eithin. Nid yw'n cael ei bori. Bu chwarel fawr yn gweithio yma tan ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae olion diwydiannol y chwarel hon yn un o brif elfennau tirwedd hanesyddol yr ardal. Ni cheir aneddiadau a'r unig adeiladau yw'r rheini sy'n gysylltiedig a'r chwarel sydd bellach yn segur. Rhed yr A478 ar hyd ffin orllewinol yr ardal.

Cyfyngir yr archaeoleg a gofnodwyd i fan darganfod o'r oes efydd, ond mae enw'r lle yn awgrymu bod tomen neu domenni o'r oes efydd ar gopa'r bryn, a gafodd eu symud gan y chwareli ^l-ganoloesol.

Mae'r bryn bychan agored yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol a ddiffynir yn dda. Fe'i hamgylchynir gan ffermdir ardal gymeriad Pentre Galar a amgaewyd.

Ffynonellau: Map Degwm a rhaniad Llanglydwen, 1846; Rees 1932; Richards 1998