|
258 MYNACHLOG-DDU
CYFEIRNOD GRID: SN 110307
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 941.8
Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr afreolaidd wasgaredig o dir wedi ei gau yn y Sir Benfro fodern,
wedi ei dorri'n ddwfn i fewn iddo gan dir corsiog ardal gymeriad y Gors
Fawr-Waun Cleddau sy'n gorwedd ar asgell ddeheuol Mynydd Preseli. Gorweddai
o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Nodwyd Caermeini, yng ngogledd yr ardal
fel un o safleoedd posibl Brwydr Mynydd Carn a sicrhaodd, yn 1081, orsedd
Dyfed i Rys ap Tewdwr o dí brenhinol y Deheubarth - ond er hynny dim ond
am 20 mlynedd. Dygwyd Cemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan deulu
Fitzmartin tua 1100, a'i daliodd fel Barwniaeth Cemaes hyd 1326 pan gawsant
eu dilyn gan deulu Audley. Fel gyda'r rhan fwyaf o ran dde-ddwyreiniol
y Farwniaeth o fewn i Fynydd Preseli, parhaodd yr ardal i gael ei dal
o dan gyfundrefnau tenantiaeth Gymreig. Yn 1118 cyflwynodd William Fitzmartin
yr ardal gyfan fel rhan o faenor Nigra Grangia, i Deironiaid Abaty Llandudoch.
Roedd y faenor yn un helaeth yn cynnwys 5 gwedd gyfair a oedd yn werth
£8 15s 6ch yn 1535. Fodd bynnag, roedd ei asesiad yn hanner ffi marchog
yn unig yn awgrymu bod llawer ohono mwy na thebyg yn dir pori gweundir
agored yn ystod y cyfnod canoloesol. Nid yw safleoedd y pedair melin a
gofnodwyd yn 1535 yn hysbys, ond efallai fod gan Felin Dyrch darddiad
cynnar. Ar Ddiddymiad y mynachlogydd daeth y faenor i feddiant John Bradshaw
o Lanandras, ynghyd â Abaty Llandudoch ac ar ôl hynny fe'i daliwyd ar
wahân i Farwniaeth Cemaes. Mae'r Llys Ychwanegiadau yn cofnodi bod tiroedd
y cyn faenor wedi eu dal yn 1538 -9 wedi eu dal drwy gopiddaliad hy. dodwyd
enwau'r tenantiaid mewn llyfr rhent, y gallai eiddo gael ei adnabod fel
ffermydd presennol Pantyrhug a Plasdwbwl, a Chwm Cerwyn a Phentre Ithel
a oedd yn dai bonedd o ryw gymaint o statws. Mae eu nodi a'u disgrifio
fel 'tenamentau' yn awgrymu bod rhywfaint o amgáu ffurfiol ar y faenor
wedi digwydd yn barod, a bod y patrwm presennol o ffiniau o fewn yr ardal
yn nodweddiadol o amgáu ôl-Ganoloesol. Fodd bynnag mae clwstwr o enwau
ffermydd 'lleini' i ogledd orllewin yr ardal yn dangos cyfundrefn stribed
tir neu gae agored yn dyddio o bosibl o'r cyfnod canoloesol. Mae'r patrwm
amgáu yn hanner dwyreiniol yr ardal gymeriad hon yn debyg ac hefyd yn
fwy na thebyg yn ganoloesol ddiweddar i'r 16eg ganrif o ran tarddiad.Nodwyd
Blaen-banon ar ben gogleddol eithaf yr ardal fel terfyn comin ffurfiol
Mynydd Preseli mewn arolwg yn 1594. Mae'r ffermydd o'r ail ganrif ar bymtheg
yn cynnwys Dolaumaen i ogledd?ddwyrain yr ardal (a oedd yn ganolbwynt
stad fechan a sefydlwyd erbyn 1786 ac yn cynnwys 655 erw erbyn 1840),
Glynsaithmaen a Dyffryn Ffilbro. Mae patrwm presennol aneddiadau gwasgarog
yn perthyn i'r amgáu hwn ac amgáu diweddarach ar gyn weundir, y mae peth
ohono i ogledd yr ardal o bosib yn ddiweddar iawn. Mae cofnod Charles
Hasall yn 179, am y 'gwastraff helaeth' a ddaliai i fod ym Mynachlog-ddu
yn cael ei atgynhyrchu yn Hanes y Sir, ac mae dau ddarn o gae ar dir yn
yr adran hon yn ymddangos fel pe baent yn gallu cael eu tadogi i sgwatio
o'r 18fed a'r 19eg ganrif . Roedd y patrwm amgáu presennol wedi'i gwblhau
erbyn adeg arolygon y degwm yn 1840au. Roedd chwarel lechi Tyrch Isaf
yng nghanol yr ardal-o ble y cafwyd llechi i doi Neuadd y Sir, Caerfyrddin
- yn gweithio o'r 18fed ganrif hyd 1939, ac roedd codi tai i'r chwarelwyr
fwy na thebyg wedi cyfrannu at ddatblygu'r cnewylliad yn Mynachlog-ddu
yn y 19eg a'r 20fed ganrif. Hwn oedd cartref un o arweinwyr Terfysgwyr
Beca o'r 1840au ac mae iddo gapel yn dyddio o 1794. Mae hanes diweddarach
yr ardal fodd bynnag yn parhau i fod yn amaethyddol drom.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae'r ardal hon yn cynnwys sawl bloc ar ffurf clust o dir caeëdig
yn gorwedd ar lethrau deheuol Mynydd Preseli a llethrau Foel Dyrch, wedi
eu gwahanu gan gorsdir is a thir pori heb ei amgáu. Gorwedd rhwng 190m
a 300m. Mae'r defnydd tir yn bennaf yn dir pori wedi ei wella gyda ychydig
o dir âr er bod darnau o dir brwynog a chorsdir mewn hafnau isel, a thir
pori garw heb ei wella ar lefelau uwch ar ymylon Mynydd Preseli a Foel
Dyrch. Rhennir y tir ffermio i gaeau afreolaidd cymharol fychan, er bod
clostiroedd hir cul yn agos at ffermydd Carnmeini yn awgrymu presenoldeb
cyfundrefn caeau stribed blaenorol nas cyfeirir ato yn rhentiad yr 16eg
ganrif. Gwrychoedd cerrig a phridd yn gymysg yw'r ffurf fwyaf cyffredin
ar ffiniau i'r caeau, ond ceir hefyd wrychoedd wyneb carreg, a gwrychoedd
pridd ac ar uchderau mwy ar gyrion Mynydd Preseli waliau cerrig lled ddadfeiliedig.
Ar y lefelau is mae cloddiau'n gorchuddio'r gwrychoedd. Yn gyffredinol
nid yw'r cloddiau hyn mewn cyflwr da ar wahân i'r rhai ar hyd ffyrdd a
lonydd; mae llawer yn fylchog ac mae'r lleill yn tyfu'n wyllt. Ar draws
y rhan fwyaf o'r ardal mae'r cloddiau yn llinellau o lwyni gwasgarog neu
wedi diflannu'n llwyr yn enwedig ar y lefelau uchaf. Ffensys gwifren yw'r
rhan fwyaf o'r ffensys terfyn i gadw da byw rhag crwydro. Ar wahân i blanhigfa
goniffer 20fed ganrif yn agos at ffarm Llwyn-drain, ychydig o goed sydd
yn y dirwedd, er bod coed bach wedi tyfu o rai o'r cloddiau a esgeuluswyd,
a phlannwyd coed o amgylch y rhan fwyaf o'r ffermydd fel cysgod. Mae clystyrau
o goed o amgylch ffermydd gwag ar y lefelau uwch yn nodwedd o'r dirwedd
hon. Mae'r ffyrdd cyhoeddus yn cynnwys ffyrdd troellog gyda gwrychoedd
uchel a chloddiau o boptu. Patrwm yr anheddiad yw un o ddaliadau amaethyddol
gwasgaredig gyda chlystyrau llac o adeiladau ym mhentref Mynachlog-ddu.
Ceir dau gapel - Capel Bach a Chapel Bethel, sefydlwyd yr olaf yn 1794
- ac ysgol. Fel y nodwyd uchod mae ffermydd a bythynnod gwag yn nodwedd
o'r dirwedd yn arbennig ar y llethrau uwch mwy agored. Mae'r tai hín sy'n
bodoli bron i gyd o'r 19fed ganrif yn yr arddull frodorol, wedi eu codi'n
bennaf o gerrig gyda llechi ar y toeau ac yn un llawr, un a hanner neu
ddeulawr a thri bae, wedi'u rendro â sment a charreg lan. Mae'r rhan fwyaf
wedi'u moderneiddio. Mae'n debyg fod y rendr sment ar rai anheddau yn
cuddio adeiladweithiau o bridd. Ceir hefyd lawer o dai ffrâm pren o'r
20fed ganrif wedi eu gorchuddio â haearn rhychog. Mae datblygiad yn ystod
cyfnod diweddarach yr 20fed ganrif yn gyfyngedig ac wedi ei ganoli'n bennaf
ym mhentref Mynachlog-ddu. Mae'n cynnwys tai deulawr a byngalos mewn amrywiaeth
o arddulliau a deunyddiau. Mae'r adeiladau amaethyddol yn fach, yn adlewyrchu
maint y daliad. Yr arddulliau mwyaf cyffredin yw: cyfres o dai sengl bychan
o'r 19eg ganrif wedi eu codi o gerrig;ysgubor haearn rhychog o'r 20fed
ganrif ac adeiladau eraill; a llawer o adeiladau bychain o ddiwedd yr
20fed ganrif o ddur, concrid ac asbestos. Nid oes adeiladau rhestredig
yn yr ardal.
Mae'r archaeoleg a gofnodwyd yn amrywiol gyda chanran uchel
o safleoedd cynhanesyddol. Mae'r rhan ogleddol, uwch yn cynnwys beddfaen
siambr neolithig a restrwyd a strwythur megalithig arall, ac o'r oes efydd,
pedair maen hir bendant a dwy arall bosibl, un pâr garreg bendant ac un
arall bosibl, a thomen gron bosibl. Ynddi hefyd ceir un safle bosibl i
frwydr Mynydd Carn yn yr 11eg ganrif. Ceir hefyd un safle capel pererindod
ganoloesol ac un posibl, a dwy sadle ffynnon sanctaidd. Gae'n bosibl fod
gan Felin Dyrch darddiadcanoloesol. Mae'r safleoedd ôl?Ganoloesol yn cynnwys
nodweddion chwareli a chorlan.
Mae Mynachlog-ddu, er gwaethaf ei natur wasgarog, yn ardal
gymeriad dirwedd hanesyddol gydlynol. Fe'i rhennir, ei gwahanu a'i chwmpasu
i'r de a'r gorllewin gan barseli is o gorsdir a gweundir ardal gymeriad
Cors Fawr-Waun Cleddau. I'r gogledd ceir ffin glir rhwng yr ardal hon
a thir agored Mynydd Preseli. Rhydd gweundir agored a rhannol agored ardaloedd
cymeriad Foel Dyrch a Chrugiau Dwy hefyd ffin glir i'r dwyrain. Dim ond
i'r de-orllewin lle mae ardal gymeriad Mynachlog-ddu yn cwrdd â Llangolman
y ceir diffyg ffin glir. Yma ceir ardal o newid yn hytrach na ffin ymyl
glir.
Ffynonellau: Charles 1992; YmddiriedolaethArchaeolegol
Dyfed 1997; Howells 1987; Jones 1996; Lewis 1969; Map y degwm a rhaniad
Llangolman 1841; Map degwm a rhaniad Monachlogddu 1846; Pritchard 1907;
Rees 1932; Richards 1998.
|