Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

222 CARN GOCH

CYFEIRNOD GRID: SN 690245
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 129.70

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach i'r de-ddwyrain i Afon Tywi sydd yng nghysgod Carn Goch, sef bryn creigiog y lleolir olion sylweddol bryngaer fwyaf Sir Gaerfyrddin o'r Oes Haearn arno. Gydag arwynebedd o 15 ha, ac yn gysylltiedig ag isgaer, mae'n bosibl bod Carn Goch yn nesáu at statws oppidum a'i bod yn ganolbwynt i diriogaeth fawr a gynhwysai'r rhan fwyaf o'r ardal i'r de o Afon Tywi. Mae tystiolaeth bod pobl yn byw ar y safle yn ystod y cyfnod cynharaf, i mewn i'r cyfnod Neolithig efallai, ac mae'n bosibl bod y safle wedi cadw ei arwyddocâd ar ôl iddo gael ei adael o dan reolaeth y Rhufeiniaid - lleolir y safle mwyaf credadwy ar gyfer fila yn ne-orllewin Cymru, sef Llys Brychan (Jarrett 1962) 1.6 km i'r gogledd-ddwyrain yn unig (Ardal 225). Yn ystod y cyfnod hanesyddol lleolid yr ardal hon o fewn Cwmwd Perfedd, Maenor Fabon yn benodol, yng Nghantref Bychan, a oresgynnwyd, ar wahân i Iscennen, gan yr Eingl-Normaniaid wrth iddynt ymledu o'r dwyrain o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees d.d.). Yn fuan ar ôl hynny fe'i trosglwyddwyd i arglwyddi Clifford Aberhonddu, fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri. Fodd bynnag bu llawer o adegau pan oedd yr ardal dan reolaeth y Cymry a chadwodd arferion deiliadol brodorol dan ddiwedd y cyfnod Ôl-Ganoloesol pan gafodd ei hymgorffori o fewn ffiniau modern Sir Gaerfyrddin. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw dystiolaeth bod pobl wedi parhau i fyw yn y fryngaer (bryngeyrydd) ac ymddengys mai tir comin agored ydoedd yn ystod y cyfnod Canoloesol ac i mewn i'r cyfnod Ôl-Ganoloesol; fodd bynnag mae'n cynnwys olion cytiau hir a chlostiroedd cysylltiedig, sy'n nodweddiadol o aneddiadau Ôl-Ganoloesol cynnar yn yr ucheldiroedd yn ne-orllewin Cymru (Sambrook and Ramsey 1999). Mae'n bosibl bod yr aneddiadau hyn yn deillio o bobl yn sgwatio ar y tir, fodd bynnag, ac ymddengys na fu fawr ddim anheddu ar ôl hynny; ar wahân i rai enghreifftiau o bobl yn tresmasu ar yr ardal hon ar hyd ei hymyl ogleddol yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, mae'r ardal i raddau helaeth yn un agored o hyd, fel y mae ar fapiau hanesyddol.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Bryn crwn yw Carn Goch wedi'i orchuddio â rhedyn ar ochr ddeheuol Dyffryn Tywi. O lawr dyffryn Nant Geidrych i'r gogledd ar tua 100m, mae llethrau sgri creigiog yn codi'n uwch na 230m. Nid yw'r llethrau deheuol, gorllewinol a gogleddol yn codi cymaint, ac maent yn llai serth a chreigiog. Amgaewyd rhannau o'r llethrau llai serth tua'r gogledd ddwyrain yn flaenorol gan wrthgloddiau daear a waliau cerrig sych, a oedd yn gysylltiedig â'r cytiau hir ond mae'r rhain wedi'u dymchwel. Cynhaliwyd gwelliannau yn ddiweddar i'r tir yn ardal yr hen amgaeadau. Prif elfen ddiffiniol tirlun hanesyddol yr ardal nodwedd hon yw gweddillion caer ac isgaer Oes Haearn Carn Goch. Ceir llawer iawn o weddillion sy'n cynnwys gwrthgloddiau wedi'u hadeiladu o gerrig llanw, sawl metr o uchder a channoedd o fetrau o hyd.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn ymwneud yn bennaf â'r fryngaer o'r Oes Haearn a'i hisgaer a gynrychiolir gan ragfuriau, ffosydd a llwyfannau cytiau. Mae darganfyddiadau yn perthyn i'r Oes Efydd, crug crwn a thwmpath llosg posibl, yn ogystal â safle Neolithig posibl, yn awgrymu bod pobl yn byw yn yr ardal yn gynnar. Ceir hefyd gytiau hir a systemau caeau Ôl-Ganoloesol cynnar. Mae'r mwyafrif o'r safleoedd hyn yn rhestredig.

Nid oes unrhyw adeiladau sy'n sefyll.

Mae ardal gymeriad Carn Goch yn nodweddiadol iawn ac mae'n gwrthgyferbynnu'n gryf â'r tir ffermio oddi amgylch.