|
221 CRAIG Y BWCH
CYFEIRNOD GRID: SN 791468
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 731.60
Cefndir Hanesyddol
Ardal yn nhroedfryniau Mynyddoedd Cambria i'r dwyrain o flaenddyfroedd
Afon Tywi, a leolid gynt o fewn Cwmwd Hirfryn yng Nghantref Bychan, a
oresgynnwyd gan yr Eingl-Normaniaid o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd
caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees d.d.). Yn fuan ar ôl hynny fe'i
trosglwyddwyd i arglwyddi Clifford Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri.
Fodd bynnag, cadwodd arferion deiliadol brodorol dan ddiwedd y cyfnod
Canoloesol. Lleolid Ardal 221 o fewn Maenor Nant-y-bai, a roddasid fel
maenor i Sistersiaid Ystrad Fflur, yn ôl pob tebyg gan Gruffydd ap Rhys
tua 1200. Maenor uwchdirol ydoedd, a redid yn ôl pob tebyg gan ffermwyr-denantiaid
yr ymwnâi eu gwaith yn bennaf â rhoi anifeiliaid ar borfa mynydd (Sambrook
and Page 1995, 18). Arhosodd Maenor Nant-y-bai yn un uned ar ôl y Diddymiad
fel ystad Ystrad-ffin (Archifdy Sir Gaerfyrddin, Hawlysgrifau Lort 17/678).
Ymddengys mai ardal o dir agored ydoedd yn ystod y cyfnod hanesyddol,
fel y mae heddiw, ac fe'i dangosir fel porfa agored ar y mapiau hanesyddol
cynharaf. Ceir tystiolaeth ffisegol o'r defnydd a wneid ohoni o'r blaen,
fodd bynnag; mae crugiau crwn o'r Oes Efydd yn dangos bod hanes hir i'r
ardal hon ac yn darparu tystiolaeth bod pobl wedi byw yn yr ardal ucheldirol
hon gynt. Ceir hefyd nifer o gyn-gytiau hir, sy'n nodweddiadol o aneddiadau
ucheldirol yn ne-orllewin Cymru yn ystod y cyfnod trawsnewidiol rhwng
diwedd y cyfnod Ôl-Ganoloesol a'r cyfnod modern, a chyn-fythynnod yn dyddio
o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif (Sambrook and Ramsey, 1999). Nodweddir
yr ardal hefyd gan dystiolaeth bod pobl wedi cloddio am blwm gynt. Mae'n
bosibl i'r cloddio hwn ddechrau o dan y Sistersiaid (Williams 1990, 58).
Yn ddiau roedd pobl yn cloddio am blwm yn yr ardal hon erbyn diwedd y
13eg ganrif, gyda'r goron yn cymryd yr 'unfed droedfedd ar ddeg' o'r mwyn
fel treth (Rees 1668); daeth y cloddio i ben o ganol y 19eg ganrif. Mae'r
enw lle 'Nant-y-glo' yn dangos bod glo i'w gael yn yr ardal a cheir chwareli
hefyd. Nid oes unrhyw ddatblygiadau diweddar yn yr ardal, ond mae argae
a gorlif Llyn Brianne, a adeiladwyd ar gwr gogleddol yr ardal yn ystod
y 1960au, wedi cael effaith fawr ar y dirwedd.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir ardal gymeriad Craig y Bwch ar ochr ddwyreiniol dyffryn Tywi
uchaf. O lawr y dyffryn ar lefel o 200 m fwy neu lai, mae llethrau'r dyffryn
yn codi'n serth i dros 400 m, ac yna'n parhau i godi i lwyfandir tonnog
ar lefel o dros 470 m. Mae'r ardal yn un agored. Mae llethrau'r dyffryn
yn greigiog, ac mae'r llwyfandir yn wlyb ac yn gorslyd. Ceir rhedyn ar
y llethrau serth. Mae chwareli a mwyngloddiau, a thramffyrdd sy'n arwain
ar letraws i lawr ochr y dyffryn, yn darparu un o'r ychydig nodweddion
nodweddiadol yn y dirwedd a wnaed gan ddyn.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd, a gynrychiolir gan grugiau
crwn o'r Oes Efydd, yn dangos bod i'r ardal hon hanes hir, tra bod cytiau
hir, cyn-fythynnod ac anheddau, a nodweddion mwyngloddiau plwm o'r cyfnod
Ôl-Ganoloesol.
Yr unig strwythur sy'n sefyll sy'n haeddu sylw yw cored
Llyn Brianne sy'n dyddio i ddiwedd yr 20fed ganrif
Mae Craig y Bwch yn ardal gymeriad nodweddiadol. Yn ffinio
â hi i'r gorllewin ac i'r de ceir tir ffermio amgaeëdig llawr dyffryn
Tywi, i'r dwyrain ac i'r gogledd-ddwyrain ceir planhigfa goed ucheldirol
helaeth, ac i'r gogledd ceir cronfa ddðr Llyn Brianne.
|