|
209 ABERMARLAIS
CYFEIRNOD GRID: SN 687298
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 128.60
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach i'r gogledd-orllewin o orlifdir Afon Tywi sy'n cyfateb i gyn-barcdir
a demên tþ Abermarlais. Ar un adeg lleolid yr ardal hon o fewn Cwmwd Canoloesol
Maenordeilo, a ddelid o arglwyddiaeth Gymreig annibynnol Cantref Mawr
nes i Sir Gaerfyrddin gael ei sefydlu ym 1284. Mae'n bosibl i annedd o
statws uchel gael ei sefydlu yn Abermarlais mor gynnar â'r 14eg ganrif
(Rees 1932), pan oedd yn gartref i Syr Rhys ap Gruffydd a fu'n bennaeth
ar y Cymry yn Crécy (Jones 1987, 4). Yn ystod yr 16eg ganrif bu Syr Rhys
ap Thomas (ibid.), a oedd yn un o benaethiaid mawr yr oes Duduraidd, yn
byw yno a phan fu farw fe'i hetifeddwyd gan ei ðyr, oedd hefyd yn dwyn
yr enw Syr Rhys ap Thomas. Fe'i dienyddiwyd gan Henry VIII fel bradwr
a throsglwyddwyd yr ystad, ac 'arglwyddiaeth Llansadwrn' a oedd yn agos
ati, i'r goron (Sambrook and Page 1995, 21). Bu Abermarlais yn destun
cerdd fawl gan Lewis Glyn Cothi ac fe'i disgrifiwyd gan Leland yn y 1530au
fel 'lle golygus o gerrig' (Smith 1906), a oedd o bosibl yn adeilad lled-gaerog
ond a oedd 'newydd ei atgyweirio a'i ymestyn' gan Syr Rhys ap Thomas (Jones
1987, 4). Ystyrid bod Abermarlais yn faenor, a chofnodwyd ei fod yn safle
ffair flynyddol gan George Owen ym 1601 (Sambrook and Page 1995, 22) ac
ym 1670 aseswyd bod ganddo 21 o aelwydydd (Jones 1987, 4). Mae hyn oll
yn awgrymu efallai bod rhyw fath o anheddiad maenorol ynghlwm wrth y tþ.
Rhoddwyd y gorau i fyw y tþ yn ddiweddarach, a lleolir llwyfannau cytiau
a thomenni clustog sy'n dyddio o'r cyfnod Canoloesol yn ôl pob tebyg i'r
gogledd-orllewin o safle'r tþ. Gwnaed newidiadau i'r tþ yn ystod y canrifoedd
dilynol pan grëwyd y parc yn yr ardal oddi amgylch. Âi'r ffordd Rufeinig
o Gaerfyrddin i Lanymddyfri trwy'r ardal gymeriad hon ond ymddengys fod
pobl wedi rhoi'r gorau i'w defnyddio erbyn y cyfnod Canoloesol ac nis
dilynir gan yr un o ffiniau'r ystad. Yn ystod y cyfnod hwn, a hyd nes
i'r ffordd Rufeinig gael ei throi'n ffordd dyrpeg yn y 18fed ganrif (sef
ffordd bresennol yr A40(T)), rhedai'r llwybr o Landeilo i Lanymddyfri
ar hyd y tir uwch trwy ganol yr ardal gymeriad hon (Ludlow 1999, 24).
Dymchwelwyd yr hen blasty ym 1803 a chodwyd tþ newydd yn ei le, a ddymchwelwyd
ei hun yn y 1970au. Erbyn hyn mae rhan o'r ystad yn barc carafanau.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae'r ardal gymeriad gymharol fach hon yn ymestyn dros gyn-ddemên
a pharc Abermarlais. Mae'n ymestyn o orlifdir Afon Tywi tua 40 m i fyny
llethr ogleddol y dyffryn i ychydig dros 180 m ar ei huchaf. Mae Tþ Abermarlais
wedi'i ddymchwel erbyn hyn ac mae'r parc a'r ardd wedi dirywio, ond mae
rhan o wal derfyn yr ystad wedi goroesi a hefyd mae ganddo ddigon o gymeriad
parcdir i gyfiawnhau gwahanu Abermarlais yn ardal gymeriad ar ei phen
ei hun. Er bod yr ardal wedi'i rhannol rannu'n glostiroedd mawr gan gloddiau
â gwrychoedd ar eu pennau, mae i'r ardal gymeriad agored, am fod llawer
o'r gwrychoedd wedi'u hesgeuluso a rhennir y clostiroedd gan ffensys gwifrau
yn bennaf. O amgylch safle'r hen dþ ceir coetir collddail, ac ar lefelau
uwch cafodd planhigfa gonifferau gyfan yn dyddio o'r 20fed ganrif ei thorri
i lawr yn ddiweddar. Rhwng yr ardaloedd hyn o goetir, defnyddir y tir
ar gyfer porfa wedi'i gwella a phorfa arw. Mae'r ardd â wal o'i hamgylch
sy'n agos at yr hen dþ wedi goroesi; erbyn hyn lleolir parc carafanau
teithio yn y fan hon. Mae o leiaf un porthordy wedi goroesi mewn cyflwr
sydd wedi'i addasu gryn dipyn.
Mae llawer o'r archeoleg a gofnodwyd yn ymwneud â'r tþ
a'r parc ac mae'n cynnwys gardd addurnol, ond cofnodwyd llwyfannau cytiau
a thomenni clustog sydd efallai'n dyddio o'r cyfnod Canoloesol. Ar ben
hynny mae maen hir o'r Oes Efydd ac ôl cnwd anhysbys, tra cynigiwyd bod
ail safle tebyg yn safle caeran Rufeinig, a leolir mewn cysylltiad â llinell
y ffordd Rufeinig.
Mae'r adeiladau sydd wedi goroesi yn cynnwys porthordy
a phont.
Erbyn hyn nid yw'n hawdd gwahaniaethu rhwng cyn-barc yr
ardal hon a'r ardaloedd cyfagos lle y ceir ffermydd gwasgaredig a chaeau
afreolaidd. Mae digon o wahaniaethau, fodd bynnag, i gyfiawnhau ymdrin
â'r ardal hon ar wahân.
|