Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

204 FELINDRE

CYFEIRNOD GRID: SN 699275
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 69.86

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach i'r de-ddwyrain o Afon Tywi a leolir yn union i'r gorllewin o Gomin Carreg-Sawdde (Ardal 205). Ar un adeg bu'n rhan o gwmwd Perfedd yng Nghantref Bychan, a oresgynnwyd, ac eithrio Iscennen, gan yr Eingl-Normaniaid wrth iddynt ymledu o'r dwyrain o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees d.d.). Yn fuan ar ôl hynny fe'i trosglwyddwyd i arglwyddi Clifford Aberhonddu, fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri. Fodd bynnag, cafwyd cyfnodau pan fu Cantref Bychan dan reolaeth y Cymry hyd at 1276 pan roddwyd ef - i gael ei ailgyfuno ag Iscennen - i'r marchog o Swydd Gaerloyw John Giffard (Rees 1953, xv) ac arddelwyd arferion deiliadol brodorol tan ddiwedd y cyfnod Canoloesol. Ardal o dir comin gweddilliol yw Carreg-Sawdde ac mae'n bosibl bod llain helaeth o dir pori agored y tu mewn i'r ardal hon ers llawer dydd. Fodd bynnag, erbyn y 14eg ganrif roedd Felindre yn ystad demên yn perthyn i Arglwyddiaeth Llanymddyfri (Rees 1924, 100), wedi'i henwi yn ôl pob tebyg ar ôl melin þd a fodolai gynt, lle y buwyd yn amaethu; ffermiai 15 o daeogion - sef unig daeog neu - denantiaid yr arglwyddiaeth - 18 o erwau ym 1317 (ibid). Fel y faerdref yn Ferdre, Carreg Cennen (Ardal 198), roedd gan Felindre ei chwrt ei hun ac fe'i gweinyddid gan faer. Ym 1383 rhoddodd olynydd Arglwyddi Gifford Llanymddyfri, sef Nicholas d'Audley (ibid), ganiatâd i Felindre gynnal ffair flynyddol a oedd yn dal i gael ei chynnal ym 1601 (Sambrook and Page 1995, 22). Fodd bynnag, mae'n bosibl bod y system o gaeau hirsgwar rheolaidd echelinol bach sy'n ffurfio bloc nodweddiadol i'r gorllewin o'r pentref, yn hytrach na bod yn llain-gaeau Canoloesol wedi'u ffosileiddio, yn deillio o bobl yn sgwatio ar ymyl y comin yn y 18fed ganrif; ar ben hynny mae'r caeau'n ymestyn dros gyfanswm o 172.60 o erwau. Roedd y system yn ei lle - ac roedd Felindre'n anheddiad cnewyllol - erbyn 1839 pan ddengys map degwm plwyf Llangadog dirwedd sydd yn union yr un fath â heddiw

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Ardal gymeriad fach yw Felindre a leolir ar deras ar ochr ddeheuol Afon Tywi ac i'r gorllewin o Afon Sawdde tua 45 m OD, ychydig o fetrau uwchben gorlifdiroedd yr afonydd. Mae'n cynnwys anheddiad cnewyllol bach yn Felindre, a nifer o dyddynnod/ffermydd gwasgaredig. Mae Felindre'n gymysgedd o anheddau yn dyddio o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. Mae nifer o dyddynnod o gerrig, yn y traddodiad brodorol, wedi'u gwasgaru y tu allan i'r anheddiad cnewyllol ac mae gan y mwyafrif ohonynt res fach o dai allan ynghlwm wrthynt. Mae system o lain-gaeau amgaeëdig bach yn gysylltiedig â'r anheddiad. Nodir ffiniau'r caeau gan gloddiau â gwrychoedd. At ei gilydd mae'r gwrychoedd mewn cyflwr da. Mae gan rai gwrychoedd goed nodweddiadol, ond mae gan ambell un fylchau'n agor ynddynt. Ategir pob gwrych gan ffens wifrau. Nid oes unrhyw goetir yn yr ardal hon, ac mae'r tir cyfan bron yn borfa wedi'i gwella.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn ymwneud â'r anheddiad ac mae'n cynnwys y felin ddðr bresennol sy'n perthyn i'r cyfnod Ôl-Ganoloesol a'r pentref lle y mae twlc mochyn a gefail.

Nid oes unrhyw adeiladau nodweddiadol. Mae gan Felindre ei hun anheddau o gerrig a adeiladwyd yn y 19eg ganrif yn y traddodiad brodorol, sydd wedi'u cymysgu ag anheddau mewn amrywiaeth o ddulliau a deunyddiau a godwyd yn yr 20fed ganrif.

Mae'r ffermdai a geir ar y nifer o dyddynnod sydd wedi'u gwasgaru y tu allan i'r anheddiad cnewyllol wedi'u hadeiladu o gerrig ac maent yn dyddio o'r 19eg ganrif. Maent yn y traddodiad brodorol ac fel arfer mae ganddynt ddau lawr a thoeau llechi.

Mae'r system o lain-gaeau a'r anheddiad cnewyllol yn gwneud yr ardal hon yn ardal gymeriad nodweddiadol iawn. Mae'n gwrthgyferbynnu â'r tir comin agored i'r dwyrain, gorlifdir Afon Tywi i'r gogledd, ac ardaloedd o ffermydd gwasgaredig a chaeau afreolaidd i'r de ac i'r gorllewin.