Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

196 YSTRAD TYWI: LLANDEILO - LLANGADOG

CYFEIRNOD GRID: SN 662250
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 769.40

Cefndir Hanesyddol
Ardal gul, hir sy'n ymestyn o Landeilo yn y gorllewin i Langadog i'r dwyrain, a leolir yng ngorlifdir llifwaddodol ffrwythlon Afon Tywi ac sy'n cynnwys hyd byr o un o'i hisafonydd, sef Afon Dulais. Y dyffryn oedd prif goridor y llwybr hanesyddol i mewn i Orllewin Cymru ac adeiladwyd y ffordd Rufeinig o Gaerfyrddin i Lanymddyfri, sy'n ffurfio ymyl ogledd-orllewinol yr ardal gymeriad hon, ar hyd y rhyngwyneb rhwng y llifwaddod a daeareg solet ochr ogleddol Afon Tywi. Dilynwyd y ffordd Rufeinig hon fwy neu lai gan ffordd dyrpeg ddiweddarach a ffordd bresennol yr A40(T) - gweler hefyd Ardal 182. Mae Afon Tywi yn yr ardal hon yn arbennig o fywiog a cheir newidiadau cyson a sylweddol yng nghwrs yr afon ar draws llawr y dyffryn; mae'n torri ac yn aildorri ei ffordd trwy'r llifwaddod gan adael rhwydwaith o ystumiau ac ystumllynnoedd (Ludlow 1999, 21). Mae tystiolaeth o fapiau, dogfennau a ffotograffau a dynnwyd o'r awyr yn awgrymu bod y cwrs wedi newid yn fawr ers y cyfnod Ôl-Ganoloesol hyd yn oed. Felly roedd y ffordd Rufeinig wedi'i chyfeirio ar hyd y tir uwch ychydig oddi ar lawr y dyffryn, ac ychydig iawn o anheddu a fu ar y gorlifdir ei hun.; erbyn hyn nid oes unrhyw ffermydd nac anheddau o fewn yr ardal. Fodd bynnag, roedd y dirwedd wedi'i hamgáu, gan greu'r patrwm presennol o gaeau rheolaidd, erbyn i'r arolygon degwm gael eu cynnal yn ail chwarter y 19eg ganrif; dechreuwyd ar y broses yn ystod y 18fed ganrif. Mae'r amgylcheddau a'r patrymau anheddu cynharach a chynhanesyddol a fu yn Nyffryn Tywi ymhlith y rhai 'lleiaf hysbys' (Cadw/ICOMOS 1998, 28), ond byddai'r rhyngwyneb rhwng y gorlifdir a'r tir uwch wedi bod yn ardal bwysig o weithgarwch ar gyfer cymunedau cynnar o bobl yn yr ardal, a byddai wedi darparu mynediad hawdd i adnoddau'r môr a'i gorstiroedd cysylltiedig tra'n darparu safle sych i fyw arno. Awgrymodd gwaith archeolegol ad hoc fod yna ardaloedd uchel o dir ar lawr y dyffryn sy'n ddyddodion rhewlif (ibid.) a nodwyd dyddodion mawn rhwng y llifwaddod a'r ddaeareg waelodol mewn mannau eraill o fewn Dyffryn Tywi, er enghraifft yn Abergwili a Phensarn, gerllaw Caerfyrddin (Page 1994, 4,9). Yn y fan hon credid eu bod yn cynrychioli naill ai 'ynysoedd' yn y gorlifdir, neu ddarnau o'r gorlifdir oedd wedi sychu, tra bod safleoedd darganfyddiadau digyswllt o'r Oes Efydd, a chrugiau crynion posibl, yn tystio i weithgarwch cynhanesyddol yn yr ardal hon. Yn ystod y cyfnod Canoloesol roedd yr afon yn un o brif ffiniau Sir Gaerfyrddin, a gwahanai Cantref Mawr ar y lan ogleddol oddi wrth Gantref Bychan ar y lan ddeheuol. (Rees, 1932). O ganlyniad, mae i'r ardal dirwedd hon hanes brith o ran deiliadaeth, a phrofodd gyfnod cythryblus o ryfela hyd at ddiwedd y 13eg ganrif. Parhaodd Cantref Mawr, yn wahanol i Gantref Bychan a gafodd ei oresgyn a'i ailoresgyn yn y 12fed ganrif, i fod yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol tan 1284 (Rees 1953, xv). Ymddengys na fu pont erioed dros Afon Tywi rhwng Llandeilo a Llangadog, ond awgrymir bod yna ryd bosibl, ac efallai safle brwydr Canoloesol, gan yr enw Rhyd-y-Saeson gerllaw Llangadog. Dilynai ffordd dyrpeg, a sefydlwyd ym 1763-71 (Lewis, 1971, 43) linell y ffordd Rufeinig fwy neu lai er i'r cwrs trwy Gwm-Ifor gael ei sythu o dan Thomas Telford yn y 1820au (Archifdy Sir Gaerfyrddin, Mapiau Cawdor 172) gyda'r pentref yn cael ei ddatblygu ar ôl hynny. Croesir yr ardal gyfan gan brif linell reilffordd Gorllewin Cymru y cyn LNWR a agorwyd, fel 'Llinell Dyffryn Tywi', gan Gwmni Rheilffordd a Dociau Llanelli ym 1858 (Gabb, 1977, 76).

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae gorlifdir Afon Tywi rhwng Llandeilo a Llangadog yn codi ychydig dros 20 m dros 9 km. Ar gyfartaledd mae'n 1.5 km o led. Mae gan y rhan hon o Afon Tywi, yn wahanol i'r rhan isaf rhwng Caerfyrddin a Llandeilo (Ardal 182), gylch erydu a dyddodi gweithredol dros rannau hir o'i chwrs, ac ystumiau sy'n symud. Yn y mannau hyn ceir tir corslyd, prysglog a garw. Mewn mannau eraill mae'r gorlifdir wedi'i rannu'n batrwm braidd yn llac o gaeau afreolaidd a rheolaidd canolig-i-fawr eu maint o borfa wedi'i gwella gan wrychoedd heb gloddiau a chloddiau â gwrychoedd ar eu pennau. Mae'r gwrychoedd heb gloddiau wedi'u plannu ar lawr y dyffryn i hwyluso draenio llifddwr yn ôl pob tebyg. Mae cyflwr y caeau hyn yn amrywio gryn dipyn. Mewn rhai mannau, yn enwedig yn agos at yr afon, prin bod angen y gwrychoedd a cheir ffensys gwifrau'n rhedeg ar hyd y cloddiau. Mewn ardaloedd eraill mae'r gwrychoedd yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda ac maent mewn cyflwr da. Mae gan lawer o wrychoedd goed gwrych nodweddiadol.

Nid oes unrhyw goetir nac anheddiad yn yr ardal gymeriad hon. Fodd bynnag tynnwyd sylw at natur goediog y dyffryn gan ysgrifenwyr cynnar gan gynnwys Leland yn y 1530au (Smith 1906), yr ymddengys ei fod yn disgrifio'r gorlifdir. Mae'r llinell reilffordd sy'n rhedeg ar hyd y gorlifdir ar arglawdd isel yn elfen dirwedd nodweddiadol.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfyngedig ond mae'n cynnwys darganfyddiadau o'r Oes Efydd a safleoedd crugiau crynion posibl gerllaw Llandeilo a Chwm-Ifor. Ymhlith nodweddion diweddarach eraill mae pontydd ffyrdd a rheilffyrdd, gorsafoedd ac offer rheilffordd eraill. Fodd bynnag, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y dyddodion cloddedig o fewn y gorlifdir. Nid oes unrhyw adeiladau nodweddiadol.

Mae'r systemau caeau llac a'r diffyg aneddiadau a choetir ar orlifdir Afon Tywi yn creu ardal gymeriad hynod ac mae'n gwrthgyferbynnu â'r ardal o dir cyfannedd oddi amgylch (Ardaloedd 191, 201, 202, 204, 205 a 225).