Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

186 ABERGWILI

CYFEIRNOD GRID: SN 438209
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 12.24

Cefndir Hanesyddol
Ardal adeiledig cyn fwrdeistref Abergwili. Mae'n amlwg bod Abergwili yn hþn na'r Goresgyniad. Datblygodd ar hyd y ffordd Rufeinig o Gaerfyrddin i Lanymddyfri, y dilynid ei llwybr gan ffordd fodern yr A40(T) nes i ffordd osgoi gael ei hadeiladu o amgylch y pentref ym 1999. Roedd yn eiddo i Esgobion Tyddewi, efallai trwy grant a roddwyd cyn y Goresgyniad, tra sefydlwyd yr eglwys, sydd hefyd wedi'i chysegru i Dewi Sant, cyn y Goresgyniad yn ôl pob tebyg (Ludlow 1998). Ar ben hynny, enwir Abergwili mewn ffynhonnell o ddechrau'r 11eg fel safle brwydr (Jones 1952,12). Yn ddiau roedd mewn dwylo esgobol erbyn 1220 pan orfu Rhys Grug adfer 'yr holl diroedd yn Abergwili' i'r Esgob (James 1980, 19), ond rhoddwyd rhan o'r eglwys i Briordy Caerfyrddin ym 1267. Dechreuwyd anheddu yn yr ardal mewn ffordd drefnus ym 1283-7 pan symudwyd y coleg yn Llangadog i Abergwili o dan Esgob Thomas Bek (ibid.); cynhwysai hyn 22 o brebendwyr, 4 offeiriad, 4 corydd a dau glerc (Lewis, 1833). Ym 1334 ychwanegodd Esgob Henry Gower godwr canu, canghellor a thrysorydd ac roedd gan y coleg refeniw blynyddol o £42 ym 1536 (Ludlow 1998). Rhoddwyd statws bwrdeistref i'r anheddiad a barhâi i fod yn fach. Ym 1326 roedd 25 o diroedd bwrdais yn unig (Soulsby 1983, 69) ac mae'n annhebyg bod yr anheddiad yn ymestyn y tu hwnt i'w ffiniau presennol. Fodd bynnag, byddai marchnad bob dydd Gwener ac o leiaf un ffair flynyddol (ibid.). Symudwyd y coleg unwaith eto o dan Esgob Thomas Barlow ym 1541, i Aberhonddu, ac addaswyd yr adeiladau, a oedd wedi'u trefnu o amgylch cloestr ryw 150 m i'r dwyrain o'r eglwys, yn llys ar gyfer yr Esgob. Aeth y llys trwy sawl cyfnod o newidiadau ac ychwanegiadau tan 1903 pan gafodd ei ddinistrio gan dân, a'i ailadeiladu (Soulsby 1983, 69 n.). Ym 1763-71 codwyd tollbyrth ar ffordd yr A40(T) a fodolai cyn 1999 (Lewis, 1971, 41) ac yn ffinio â'r ardal i'r gogledd roedd prif linell reilffordd Gorllewin Cymru y cyn LNWR a agorwyd, fel 'Llinell Dyffryn Tywi', gan Gwmni Rheilffordd a Dociau Llanelli ym 1858 (Gabb, 1977, 76). Mae datblygiad yn ystod yr ugeinfed ganrif yn cynnwys Llys newydd yr Esgob, a adeiladwyd ar safle'r stablau ym 1972 pan gaffaelwyd yr hen lys gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i ddarparu lle ar gyfer Amgueddfa'r Sir, ysgol gynradd a thai cyngor, tra bydd adeiladu Ffordd Osgoi Ddwyreiniol Caerfyrddin (A40) ym 1999 ar hyd ymyl ogleddol yr ardal yn lleihau'r traffig trwy Abergwili a gall gael effaith economaidd.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Anheddiad cnewyllol cryno yw Abergwili sydd wedi'i leoli o fewn gorlifdir afon Tywi ychydig yn uwch na lefel y llifwaddod. Craidd y pentref yw un rhes o eiddo ar y naill ochr a'r llall i ffordd yr A40(T) sy'n dilyn llinell y ffordd Rufeinig trwy Ddyffryn Tywi. Yn chwarter de-orllewinol yr ardal lleolir Eglwys Dewi Sant, gydag iard fawr, a chyn Lys yr Esgob a'i barc, sydd bellach ar agor i'r cyhoedd. O'r eiddo, ymddengys fod y rhai sydd yn union i'r gogledd o'r eglwys yn cynrychioli lleiniau bwrdais canoloesol. Mae mewnlenwi wedi digwydd yn ystod yr 20fed ganrif ond mae arglawdd llinell reilffordd y cyn LNWR yn rhwystro datblygu i'r gogledd.

Cynrychiolir yr archeoleg a gofnodwyd yn bennaf gan nodweddion adeiledig ond mae'n cynnwys crug crwn posibl i'r gogledd-orllewin o'r ardal.

Tai bach o ansawdd gwael yw'r adeiladau yn y craidd hanesyddol ar y naill ochr a'r llall i'r A40(T). Yn eu ffurf bresennol maent yn dyddio yn bennaf o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif ac at ei gilydd maent wedi'u lleoli mewn rhes; fodd bynnag, sylwyd ar nodweddion cynharach mewn nifer o enghreifftiau. Ailadeiladwyd yr eglwys ym 1840-43 (Ludlow 1998) ac adeilad rhestredig Gradd B ydyw, tra bod hen Lys yr Esgob yn rhestredig Gradd II, y credir i lawer ohono gael ei ailadeiladu yn y ffurf a oedd ganddo cyn 1903. Hefyd yn yr ardal ceir cyn?dolldy ffordd dyrpeg, gorsaf reilffordd Abergwili, capel, yr ysgol, yr hen ficerdy ac ystad o dai cyngor, a thai yn perthyn i ddiwedd yr 20fed ganrif mewn amrywiaeth o ddulliau a deunyddiau.

Ardal dirwedd ddiffiniedig ydyw sy'n wahanol i'r tir ffermio ar bob ochr iddi.