Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

179 LLANGYNOG - LLANGAIN

CYFEIRNOD GRID: SN 355152 ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 4058.00

Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr a oedd wedi'i rhannu gynt rhwng arglwyddiaethau Llansteffan (cwmwd Penrhyn) a Chaerfyrddin (cwmwd Derllys, Maenor Gain yn benodol). Ad-drefnwyd yr ardal hon o dan ddeiliadaeth faenoraidd rhwng 1109 pan sefydlwyd Castell Caerfyrddin (James 1980, 23), a 1146 pan sefydlwyd y castell yn Llansteffan (Avent 1991, 168-72). Mae'n bosibl bod Llangynog yn ganolfan grefyddol bwysig sy'n dyddio o gyfnod cyn y Goncwest gyda'i mynwent gron a'r clostiroedd cysylltiedig a nodir gan gnydau mewn caeau cyfagos (Ludlow 1998), ond erbyn hyn fe'i cynrychiolir gan anheddiad gwasgaredig yn dyddio o'r 19eg-20fed ganrif sydd wedi'i leoli 1 km o'r eglwys, a arferai fod yn gapeliaeth i blwyf Llansteffan ers llawer dydd. Lleolid Llanllwch - sef maenor demên Caerfyrddin - i'r gogledd (Ardal 181), ac mae'n bosibl y delid rhywfaint o'r tir cyfagos o fewn Ardal 179 fel demên; o fewn y faenor ei hun nodwyd ardaloedd cefnen a rhych blaenorol sylweddol. Cofnodwyd bod tir âr yn Alltycnap ym mhen gogleddol pellaf yr ardal a fu'n eiddo, o dan yr enw 'le Cnap', i Briordy Awstinaidd Sant Ioan yng Nghaerfyrddin (James 1980, 42). Mae'r enw 'Parc-y-splots' yn union i'r de yn cyfeirio at y dull cefnen a rhych a ddefnyddid gynt. Ymddengys fod Maenor Gain yn gydamserol â phlwyf presennol Llangain a grëwyd, fodd bynnag, ar ôl yr Oesoedd Canol capeliaeth oedd Sant Cain (Keyne), Llangain gynt a fu'n eiddo i Briordy Caerfyrddin ond mae'n bosibl ei bod wedi'i sefydlu cyn y Goncwest (Ludlow 1998). Rhwng 1115 a 1147 rhoddwyd darn o dir aredig hy. 120 o erwau yn 'Egliskein' (Llangain) i Briordy Caerfyrddin gan arglwydd y faenor Alfred Drue (Jones 1991, 4). Mae'r pentref presennol, fodd bynnag, yn perthyn yn gyfan gwbl i ddiwedd y Cyfnod Ôl-ganoloesol (Jones 1991, 3). Awgrymwyd bod caput y faenor naill ai yn Green Castle, safle plasty yn dyddio o'r 16eg ganrif neu o ddechrau'r 17eg ganrif sy'n edrych dros aber afon Tywi ag a gysylltir â glanfa, neu yng nghastell mwnt a beili a safai gerllaw ers llawer dydd (ibid.). Lleolid ardal a ddelid fel tir comin yn union i'r de o Alltycnap (James 1980, 42) ac roedd pedair ardal arall o dir comin wedi'u hamgáu i raddau helaeth erbyn dechrau'r 19eg ganrif (mapiau degwm Llansteffan, Llangynog a Llangain), gyda'r clostir o amgylch Glog-ddu a Llwyn-gwyn yn cael ei amgáu o ganlyniad i aneddu gan sgwatwyr. Mae darn mawr o ran ogleddol yr ardal wedi'i labelu'n 'Fforest' gan Rees (1932) ond o fewn yr ardal lleolid Cwrt Malle, safle amffosog a ddelid gan Faenor Gain, a roddwyd i Robert de Malley, cyn ddirprwy Brifustus De Cymru, ym 1312 (James 1988, 108). Yn ddiweddarach fe'i trosglwyddwyd i'r teulu Philipps o Gastell Pictwn. Gwyddom fod llein-ddaliadau sylweddol yn dyddio o'r 17eg ganrif o leiaf yng Nghwrt Hir, Gilfach ap Rosser, Maes Gwyn, Pant-yr-athro, Pilroath, Wern Corngam a Wern-ddu (Jones 1987), ond nid oes nodweddion cynharach i'w gweld ar yr un o'r ffermydd presennol ac ni ffurfient ystadau mawr. Safle cored pysgod a melin ddðr Ganoloesol yw Cored Roth (Rees 1932); trowyd y felin ddðr yn ffatri wlân yn ddiweddarach (Jones 1991, 3). Ar wahân i hynny nid oedd fawr ddim diwydiant, a dim ond aneddu gwasgaredig a welwyd yn ystod y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. Llangain yw'r unig anheddiad clwstwr sylweddol, a thros y blynyddoedd diwethaf mae tai wedi'u hadeiladu ar raddfa fawr ar ymylon craidd bach iawn ei bentref hanesyddol. I'r de ym Mhant-yr-athro mae cyfadail gwyliau

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae'r ardal gymeriad fawr iawn hon yn y dirwedd hanesyddol a nodweddir gan dir tonnog a bryniog sy'n codi o lefel y môr yn erbyn afon Tywi i'r dwyrain ac afon Taf i'r de-orllewin, dros 140 m ar ei huchaf ar hyd ei hymylon gogleddol. Diffinnir ffin ogleddol yr ardal gan lethr sgarp sy'n wynebu'r gogledd, a llawer o nentydd mewn rhychau dwfn o fewn yr ardal sydd wedi creu rhagor o ddyffrynnoedd a bryniau serth. Er gwaethaf ei harwynebedd mawr mae ardal gymeriad hanesyddol Llangynog-Llangain yn hynod gydlynol, ac at ei gilydd mae'n cynnwys ffermydd mawr gwasgaredig sydd wedi'u lleoli mewn tirwedd o gaeau bach a chanolig eu maint. O bobtu i'r caeau hyn ceir cloddiau pridd â gwrychoedd ar eu pennau. Erbyn heddiw mae cyflwr y gwrychoedd hyn yn amrywio; at ei gilydd maent mewn cyflwr da, ond maent yn dueddol o fod wedi tyfu'n wyllt ac wedi'u hesgeuluso ar y lefelau uwch yn y gogledd. Fel arfer yn ogystal â'r gwrychoedd hyn ceir ffensys gwifrau'n amgáu'r caeau. Nid yw coed gwrychoedd nodweddiadol yn gyffredin ac eithrio ar yr ochr ddwyreiniol. Ar wahân i'r lefelau uwch i'r gogledd lle y mae rhywfaint o dir brwynog, tir pori o ansawdd gwael a hyd yn oed fawnog fach, mae bron y cyfan o'r tir ffermio yn yr ardal hon yn cynnwys porfa wedi'i gwella. Ers yr Ail Ryfel Byd ychwanegwyd planhigfeydd coniffer at y coetir llydanddail sy'n gorchuddio llawer o lethrau serth y dyffrynnoedd ac a all fod yn hynafol; mae hyn yn rhoi gwedd goediog i rannau o ymylon gogleddol a dwyreiniol yr ardal. Mae'r prif batrwm anheddu yn seiliedig ar ffermydd gwasgaredig ac anheddau eraill, ond ceir datblygiad cnewyllol yn Llangain a thai modern gwasgaredig ar hyd y ffyrdd gerllaw Caerfyrddin.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd o ardal dirwedd mor fawr yn cynnwys ystod o safleoedd o bob cyfnod. Fodd bynnag, mae'r holl nodweddion yn ymwneud yn bennaf â'r defnydd a wneid o'r tir at ddibenion amaethyddol. Mae eglwys Cynog Sant, Llangynog, yn eglwys Ganoloesol, tra ailadeiladwyd eglwys Sant Cain mewn lleoliad ychydig yn wahanol i leoliad ei rhagflaenydd ym 1871 (Ludlow 1998). Mae safleoedd pwysig o fewn yr ardal yn cynnwys Cwrt Malle sy'n un o ddim ond pedwar safle amffosog yn Sir Gaerfyrddin. Lleolid safle amffosog posibl arall rhwng Cwrt Malle a Wern Corngam (James 1998, 107) a cheir olion domestig o'r 16eg ganrif neu'r 17eg ganrif yn Green Castle. Fodd bynnag, yr unig adeiladau rhestredig yw'r tþ rhestredig Gradd II yn Fern Hill a'i stablau rhestredig Gradd II. Fel arfer mae ffermdai wedi'u hadeiladau o gerrig, ac iddynt ddau lawr a thri bae, ac yn dyddio o'r 19eg ganrif, ac at ei gilydd maent yn y traddodiad brodorol, er bod enghreifftiau yn y dull Sioraidd 'boneddigaidd'. Am fod yr ardal mor fawr mae'n amlwg bod amrywiaeth o dai allan yn gysylltiedig â'r ffermydd hyn, ond mae'r mwyafrif ohonynt yn weddol sylweddol, wedi'u hadeiladu o gerrig ac yn dyddio o'r 19eg ganrif, yn cynnwys yn aml ddwy res neu ragor ac weithiau wedi'u trefnu'n lled-ffurfiol o amgylch buarth.

Mae gan y mwyafrif o ffermydd adeiladau amaethyddol modern mawr. Mae tai modern mewn amrywiaeth o ddulliau a deunyddiau wedi'u canoli mewn stadau bach yn Llangain ac wedi'u gwasgaru ar hyd y ffyrdd gerllaw Caerfyrddin, er bod anheddau diweddar wedi'u gwasgaru ar draws y dirwedd i gyd.

Ardal dirwedd hanesyddol fawr ond diffiniedig, sydd ar wahân i'r cyn-lain-gaeau llai o faint i'r de, y clostiroedd afreolaidd mwy o faint i'r de-orllewin, y system anarferol annyddiedig o glostiroedd sgwâr rheolaidd mawr iawn i'r gorllewin, y dyffryn sych a'r gors uchel i'r gogledd, a morfa heli aber afon Tywi i'r dwyrain.