|
242 CWRT-Y-CADNO
CYFEIRNOD GRID: SN 689435
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 570.60
Cefndir Hanesyddol
Ardal gul sy'n dilyn llawr dyffryn afon Cothi a'i hisafonydd, Nant
Dâr, Nant-y-garth ac afon Frongoch. Gorweddai gynt o fewn Cwmwd Caeo yng
Nghantref Mawr, a barhaodd yn arglwyddiaeth annibynnol Gymreig hyd 1284,
a lle y goroesodd systemau cynhenid tirddaliadaeth i raddau helaeth trwy
gydol y cyfnod Canoloesol. Ar ochrau deheuol y dyffryn mae tystiolaeth
ffisegol o gloddio am aur yng nghyfnod y Rhufeiniaid a hynny ar ffurf
ffrydiau a dyfrbontydd a borthai'r cloddfeydd a ganfuwyd yn Ardal 243.
O fewn yr ardal hon mae'r patrwm o gaeau bach afreolaidd eu maint yn wahanol
i'r patrwm yn Ardal 241, lle yr ymddengys fod y clostiroedd wedi'u creu
gan ystad Dolaucothi, a gallai fod y patrwm hwn yn dyddio o'r Oesoedd
Canol neu o'r cyfnod Ôl-ganoloesol, fel y dirwedd cefnen-a-rhych a welir
mewn caeau tebyg yn Ardal 248 gerllaw. Mae'r enw lle, Ty'n-y-coed, yn
awgrymu bod yno gynt anheddiad yn dyddio o'r un cyfnod. Cafodd ystad Dolaucothi,
fodd bynnag, effaith ar yr ardal mewn sawl ffordd. Mae yno bedwar ty bonedd
o bwys sydd, bob un ohonynt, yn gysylltiedig â'r ystad i wahanol raddau.
O blith y rhain roedd Abermangoed wedi'i sefydlu erbyn diwedd yr 17eg
pan oedd y teulu Jones (Jones 1987, 3) yn berchen ar 'brif breswylfa a
thiroedd Tir Abermangoed' ond fe'i hailymgorfforwyd yn ystad Dolaucothi
erbyn 1733 ac mae iddo'r un nodweddion pensaernïol â'r ystad. Ym 1701
roedd Llandre Griffith yn gartref i gangen o'r teulu Johnes o Ddolaucothi
a oedd, yn nes ymlaen, yn berchen arno ar y cyd ag Abermangoed (Jones
1987, 103). Roedd Pant-coy, a losgwyd i'r llawr ym 1839, ym meddiant Iarll
Cawdor ym 1840 ond daeth yn rhan o ystad Dolaucothi a bu'n gartref i John
Harries (1785-1839) a Henry Harries (1816-1862), dau ddewin, daroganwyr
a gwyr hysbys, a oedd yn enwog ledled de Cymru. Roedd Cefngarros, fferm
arall ar yr ystad ac iddi'r un nodweddion pensaernïol â'r ystad, yn enwog
gynt am y ffynhonnau swlffwr a oedd gerllaw iddi. Buasai ffordd dyffryn
afon Cothi ers llawer dydd yn ffordd bwysig i borthmyn, a chodasid capel
ar fin y ffordd yng Nghwrt-y-cadno. Roedd ysgol wedi'i hychwanegu erbyn
diwedd y 19eg ganrif ond er bod dau ganolbwynt i bentref yr anheddiad
ac er gwaethaf nawdd yr ystad, ni ddatblygodd yn anheddiad cnewyllol gydag
anheddau. Ychydig o ddatblygu a fu yma'n ddiweddar ond mae yna blanhigfeydd
o goed coniffer sy'n dyddio o'r 20fed ganrif ar Allt Dinbeth ac Allt Ty'n-y-coed.
Map
a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr
Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai
ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain
at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Lleolir ardal gymeriad Cwrt-y-cadno yn nyffryn Cothi uchaf ac mae'n
cwmpasu llawr y dyffryn sydd rhwng 150m a 190m o uchder, ac ochrau'r dyffryn
a rannwyd yn gaeau hyd at uchder o ryw 220m. Yn ei hanfod, tirwedd o ffermydd
gwasgaredig, o gaeau bach afreolaidd a choetir ar wasgar ydyw. Rhennir
y tir yn gaeau bach afreolaidd gan wrthgloddiau ac arnynt wrychoedd. Ac
eithrio hyd ymyl y ffyrdd, y lonydd a'r llwybrau mae'r gwrychoedd yn gyffredinol
mewn cyflwr gwael a naill ai'n tyfu'n anhrefnus, yn llinellau o lwyni
anniben, neu wedi tyfu'n wyllt. Ffensys gwifren yw'r prif ffensys terfyn
i gadw da byw rhag crwydro. Mae llawer o goed nodedig yn y gwrychoedd,
ac y mae'r rhain, ynghyd â'r coed collddail niferus (sy'n arbennig o amlwg
ar ochrau serth y dyffryn) a sawl planhigfa goniffer fach ac o faint canolig,
yn gwneud i sawl rhan o'r ardal hon edrych yn goediog. Ar gyfer porfa
wedi'i gwella y defnyddir y ffermdir bron yn gyfan gwbl, ond ceir clytiau
bach o dir pori mwy cras a thir brwynog. Cysylltiadau lleol sydd yna ar
gyfer trafnidiaeth - ffyrdd bach, lonydd a llwybrau. Mae patrwm yr anheddu
ar ffurf ffermydd gwasgaredig ac anheddau eraill. Nid oes anheddiad ar
ffurf casgliad clòs o anheddau. Mae ffermdai a thai allan ystad Dolaucothi
yn nodedig eu harddull bensaernïol. Adeiladau 'llyfr patrwm' yw'r rhain
sy'n dyddio o'r 1850au; fe'u hadeiladwyd o gerrig patrymog ac mae iddynt
ffenestri casment â chwarelau siâp diemwnt. Adeiladau deulawr tri bae
yw'r ffermdai, ac yn y bae canolog fel arfer y mae'r drws ffrynt sy'n
bargodi y tu hwnt i'r ffasâd ac y mae iddo dalcen ar wahân. Mae trefniant
tai allan y ffermydd hyn mewn perthynas â'r ty yn tueddu i fod yn lled
ffurfiol h.y. o amgylch iard. Mae ffermdai cynharach yn yr ardal sy'n
dyddio'n gyffredinol o ddiwedd y 18fed neu ddechrau'r 19eg ganrif, yn
debyg o ran eu harddull a'u maint i'r enghreifftiau sy'n perthyn i'r ystad
ond maent yn nhraddodiad brodorol yr ardal, ac wedi'u rendro fel arfer.
Mae trefniant yr adeiladau fferm sy'n gysylltiedig â'r rhain mewn perthynas
â'r ty yn anffurfiol. Yn ganolog i'r ardal mae capel Cwrt-y-cadno. Nid
oes, i bob pwrpas, ddim datblygiad preswyl modern.
Dengys archeoleg a gofnodwyd ffrydiau a dyfrbontydd Rhufeinig,
llwyfan ty a safle anheddiad Canoloesol/Ôl-ganoloesol o bosibl, yr hyn
a allai fod yn fynwent na ellir rhoi dyddiad arni ac ôl cnwd anhysbys.
Mae yna nifer o adeiladau nodedig, y mae llawer ohonynt
ar arddull ystad Dolaucothi. Mae Cefn Coed Mawr, adeilad rhestredig Gradd
II, yn dyddio o ganol hyd ddiwedd y 18fed ganrif ac fe'i hailfodelwyd
ddiwedd y 19eg ganrif; mae iddo nodweddion brodorol da ac mae'r ty â'i
dai allan amaethyddol o werth fel grwp. Mae'r ysgubor hefyd yn adeilad
rhestredig Gradd II, ac felly hefyd y beudy â llofft stabal yn rhan ohono
sy'n dyddio o ddechrau'r 19eg-ganrif. Mae Cefngarros, sy'n dyddio o tua
1845, yn nodweddiadol o sawl ffermdy yn yr ardal a berthynai gynt i ystad
Dolaucothi ac mae'n adeilad rhestredig Gradd II. Mae Brynteg yn adeilad
rhestredig Gradd II, a adeiladwyd ym 1843, ac mae arno ddylanwad y llyfrau
patrwm pensaernïol fwy na thebyg; mae'r rhes sy'n cynnwys yr ysgubor hefyd
yn adeiladau rhestredig Gradd II. Ac yntau'n fwthyn sy'n dyddio o ddiwedd
y 19eg ganrif ac wedi'i greu o adeilad fferm cynharach, mae Pant-coy yn
adeilad rhestredig Gradd II; llosgwyd y ty blaenorol i'r llawr ym 1839.
Mae'r tai allan hefyd yn adeiladau rhestredig Gradd II. Mae capel Cwrt-y-cadno,
a godwyd ym 1899, yn adeilad o ansawdd da, nesaf at flwch ffôn K6. Mae
yna sawl rhyd a phont, a safleoedd melinau.
Mae'r ardal hon wedi'i diffinio'n glir i'r de, i'r gogledd
a'r dwyrain lle y mae'n ffinio ag ochrau serth y dyffryn, planhigfeydd
coedwigaeth neu weundir agored. Fe'i diffinnir yn llai clir i'r de-orllewin.
|