Archaeoleg a synhwyro o hirbell
Prosiect gwyddoniaeth dinasyddion
2019-20
A hoffech chi fod yn rhan o'r gwaith o ddarganfod a chofnodi safleoedd archaeolegol? Gallwch wneud hyn o'ch cartref, unrhyw le yn y byd! Dros y blynyddoedd diwethaf, mae datblygiadau wedi golygu bod modd cael gafael ar arlwy o ddata digidol daearyddol gydag un clic botwm. Gwyddom y gall y setiau data hyn helpu i adnabod safleoedd archeolegol newydd, ond hyd yn hyn nid oes unrhyw archwiliad systematig o'r safleoedd hyn wedi cael ei gynnal at y diben hwn. Rydym yn anelu at annog pobl sydd â diddordeb mewn archaeoleg yn ne-orllewin Cymru i chwilio'n systematig am safleoedd nas cofnodwyd o'r blaen ar Google maps, lluniau eraill o'r awyr, LiDAR a ffynonellau eraill sydd ar gael yn rhwydd. Darperir hyfforddiant a chymorth proffesiynol.
Cysylltwch â Jenna Smith os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect hwn -
j.smith@dyfedarchaeology.org.uk