![](../../shim.gif) |
![YSTRAD FFLUR](webphotos/ystradfflur.jpg)
YSTRAD FFLUR
CYFEIRNOD GRID: SN 746664
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 334.8
Cefndir Hanesyddol
Sefydlwyd Abaty Ystrad Fflur, a leolir yn yr ardal hon,
ym 1164. Priodolir sefydlu’r abaty i Robert Fitz Stephen, ond ymgymerodd
yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd â’r gwaith o’i sefydlu,
ac iddo ef y priodolir yr adeilad cyntaf ym 1184 (Radford; Cadw 1992).
Datblygodd yr abaty yn un o ganolfannau’r diwylliant Cymreig ac
yn sefydliad dylanwadol, a rhoddwyd llawer o diroedd iddo, a ffurfiai
faenorau’r abaty yn ddiweddarach. Gorweddai tir o fewn yr ardal
dirwedd hon o fewn Maenor Penardd a Maenor Mefenydd, efallai fel rhan
o ddemên yr abaty. Mae’n debyg erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol,
os nad ynghynt, fod maenorau a demên yr abaty wedi’u rhannu’n
ffermydd a gâi eu prydlesu yn fasnachol. Efallai mai dyma sut y
dechreuodd y patrwm anheddu a welwn heddiw. Rhoddwyd y maenorau i Iarll
Essex pan ddiddymwyd yr Abaty, gan eu gwerthu ar ôl hynny i ystad
Trawscoed ym 1630. Daeth demên yr Abaty i feddiant John Stedman
ym 1567. Adeiladodd blasty Abbey Farm gerllaw’r abaty. Mae’r
tþ presennol yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif yn bennaf, ac nid
yw wedi newid fawr ddim ers y 1740au (Smith 1998, 270). Fodd bynnag, bu
farw Richard Stedman heb wneud ewyllys ym 1746 a throsglwyddwyd yr ystad
i’r teulu Powell o Nanteos. Roedd gan Nanteos ddaliadau sylweddol
yma yn y 19eg ganrif. Adeiladwyd eglwys i wasanaethu’r gymuned leol
ar ochr ogleddol adfeilion yr abaty yn y 17eg ganrif. Ni wnaed unrhyw
ymchwil i hanes diweddarach yr ardal, fodd bynnag, dengys mapiau hanesyddol,
gan gynnwys mapiau degwm (Map Degwm a Rhaniad Caron, 1845; Map Degwm a
Rhaniad Gwnnws, 1847) a mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif
(LlGC Trawscoed Cyf 1, 66; LlGC 45; 59, 62, 63, 71, 72), fod gan yr ardal
hon lawer o’i chymeriad presennol (systemau caeau, patrwm anheddu,
mwyngloddiau plwm) erbyn hynny. Bu mwynglawdd metel Abbey Consols yn ei
anterth yn ystod y cyfnod o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd.
![YSTRAD FFLUR](webphotos/ystradfflur2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys llawr dyffryn Afon Teifi
i’r dwyrain o Bontrhydfendigaid a llethrau isaf y dyffryn. Mae’n
amrywio o ran uchder o 180m ar lawr y dyffryn i bron 300m yn ei phen gogleddol,
lle y mae’n dringo llethr y dyffryn i gynnwys Fferm Pen-y-wern hir.
Tirwedd o gaeau bach, afreolaidd eu siâp a ffermydd gwasgaredig
ydyw. Rhennir y caeau gan gloddiau ac ambell glawdd â wyneb o gerrig.
Mae’r gwrychoedd ar ben y cloddiau hyn mewn cyflwr gweddol dda,
er eu bod yn dechrau cael eu hesgeuluso i ffwrdd o lawr y dyffryn. Mae
ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu at y mwyafrif o’r gwrychoedd.
O bryd i’w gilydd ceir coed gwrychoedd nodedig mewn gwrych. Mae
gan Abaty Ystrad Fflur grynhoad o ffiniau wedi’u ffurfio gan waliau
sych o’i amgylch. Ceir clystyrau bach o goetir collddail. Tir pori
wedi’i wella yw’r prif ddefnydd a wneir o’r tir, a cheir
rhai pocedi o dir pori mwy garw ar lawr y dyffryn.
Mae adfeilion Abaty Ystrad Fflur, yr Eglwys ôl-Ganoloesol
a thþ Great Abbey Farm a’i adeiladau allan cysylltiedig yn
darparu canolbwynt dramatig i’r dirwedd hon. Maent i gyd wedi’u
hadeiladu o gerrig, sef deunydd adeiladu traddodiadol y rhanbarth tan
ddechrau’r 20fed ganrif. Ar adeiladau domestig mae’r garreg
wedi’i gadael yn foel, wedi’i rendro â sment neu wedi’i
phaentio, ac mae bob amser wedi’i gadael yn foel ar adeiladau allan
ffermydd. Ar wahân i dþ bonedd Great Abbey Farm sy’n
dyddio o’r 18fed ganrif, un o’r ffermdai mwyaf yn ucheldir
Ceredigion, mae’r tai yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd
ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd draddodiadol nodweddiadol, a
chanddynt simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog,
a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch
ei ben. Mae gan Great Abbey Farm resi sylweddol iawn – ysgubor,
beudy, stablau, siediau troliau, ac ati – wedi’u trefnu’n
ffurfiol o amgylch iard fel sy’n briodol i dþ o’i statws,
ond mae gan y mwyafrif o ffermydd ddwy neu dair rhes o adeiladau allan
llai o faint sydd wedi’u trefnu’r anffurfiol mewn perthynas
â’r tþ. Mae gan ffermydd gweithredol strwythurau amaethyddol
modern sylweddol. Lleolir ychydig o dai modern a gwaith trin dðr yn
yr ardal hon. Mae adeiladau cerrig a thomenni ysbwriel yr hen fwyngloddiau
plwm yn darparu elfen dirwedd nodedig ar gyfer yr ardal hon.
Mae’n amlwg bod archeoleg gofnodedig yr ardal hon
wedi’i chanolbwyntio ar yr abaty a’r ardal o’i amgylch.
Mae celc o ddarnau arian Rhufeinig, carreg arysgrifedig yn dyddio o’r
Oesoedd Tywyll, a chyfeiriad at safle melin Canoloesol yn rhoi mwy o ddyfnder
amser i’r dirwedd.
I’r gogledd mae tir agored a chaeau mawr yn darparu
ffin bendant ar gyfer yr ardal dirwedd hon. Ceir ffin llai pendant â
thir amgaeëdig i’r de; yn lle hynny mae parth newid rhwng y
ddwy ardal. I’r gorllewin lleolir pentref Pontrhydfendigaid.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |