![YSBYTY CYNFYN](webphotos/ysbytycynfyn.jpg)
YSBYTY CYNFYN
CYFEIRNOD GRID: SN 749784
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 185.4
Cefndir Hanesyddol
Mae hanes cynnar yr ardal hon yn aneglur. Yn wahanol
i lawer o’r tir oddi amgylch ni fu’n un o faenorau Abaty Ystrad
Fflur. Mae’n debyg bod y patrwm o ffermydd gwasgaredig yn dyddio
o’r Cyfnod Canoloesol o leiaf. Daeth y rhan fwyaf o’r ardal
i feddiant ystad Nanteos, a dengys mapiau o’r ystad yn dyddio o
ddechrau’r 19eg ganrif (LlGC Cyf 45, 24-28) y dirwedd fel y mae
heddiw fwy neu lai, a cheir ffermydd gwasgaredig, caeau bach afreolaidd
eu siâp a chaeau mwy o faint ar dir uwch. Gadawyd rhai aneddiadau,
ac mae fferm i’r dwyrain o Dþ Mawr bellach wedi mynd, ac yn
Erwbarfe dangosir daliadau gwasgaredig yn gymysg â’i gilydd;
sy’n nodi efallai bod yr ardal yn arfer cynnwys system o gaeau isranedig
y datblygodd y dirwedd fodern ohoni. Roedd yr eglwys fach yn Ysbyty Cynfyn
yn gapel anwes ac efallai ei fod yn eiddo i Farchogion Sant Ioan, neu
efallai ei fod yn gysylltiedig ag Abaty Ystrad Fflur. Ailadeiladwyd yr
eglwys ym 1827 ar safle’r adeilad Canoloesol (Ludlow 1998). Mae
safle’r eglwys o ddiddordeb: mae’n ddigon posibl bod nifer
o feini hirion sydd wedi’u hadeiladu i mewn i wal y fynwent yn dyddio
o’r cyfnod cynhanes, er bod Briggs (1979) wedi herio’r awgrym
hwn. Roedd ymweliad â’r eglwys a rhaeadrau ‘Parson’s
Bridge’ i’r dwyrain mewn ardal gyfagos yn eitem hanfodol ar
deithlyfr twristiaid a oedd yn ymweld â gogledd Ceredigion ar ddiwedd
y 18fed ganrif ac yn y 19eg ganrif.
![YSBYTY CYNFYN](webphotos/ysbytycynfyn2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn gorwedd ar gerlan ar lan ddwyreiniol
Afon Rheidol rhwng 220m - 300m. Er ei bod yn cynnwys tir gwastad gan mwyaf,
ceir bryn creigiog gerllaw Eglwys Ysbyty Cynfyn. I’r gorllewin mae’r
tir yn disgyn yn gyflym i mewn i gwm Afon Rheidol, ac i’r dwyrain
mae’r tir yn codi’n serth. Tir pori wedi’i wella a geir
yn bennaf, er bod pocedi o dir mwy garw mewn pantiau. Nodweddir y patrwm
caeau gan gaeau bach, afreolaidd eu siâp, a rhennir y caeau hyn
gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Ar wahân i’r rhai sy’n
rhedeg ar hyd ffyrdd, sydd mewn cyflwr da, mae’r mwyafrif o’r
gwrychoedd wedi tyfu’n wyllt ac maent yn dechrau cael eu hesgeuluso,
ac mae gwifrau wedi’u hychwanegu at bob un. Gerllaw’r eglwys
rhennir y caeau gan waliau sych. Mae’r waliau hyn mewn cyflwr gweddol
dda. Ceir clystyrau bach o goetir llydanddail. Lleolir yr ardal ar lwybr
pwysig o’r gogledd i’r de, ffordd bresennol y B4343. Er nad
oes amheuaeth nad yw’n ffordd hen iawn, fe’i newidiwyd yn
ffordd dyrpeg ym 1770 (Lewis 1955, 43-45).
Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig.
Mae adeiladau traddodiadol wedi’u hadeiladu o gerrig a chanddynt
doeau llechi. Mae’r ffermdai hþn yn dyddio o’r cyfnod
rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd
ranbarthol nodweddiadol - sef simneiau yn nhalcennau’r tþ,
drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r
drws ac un uwch ei ben. Mae gan o leiaf un tþ nodweddion gothig
yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Fodd bynnag, yn ddiweddar mae llawer
o dai wedi’u moderneiddio ac wedi’u hymestyn ar raddfa fawr
neu maent wedi’u disodli gan dai newydd. Mae adeiladau fferm wedi’u
hadeiladu o gerrig yn cynnwys dwy i dair rhes fach ac mae gan ffermydd
gweithredol adeiladau amaethyddol modern bach. Lleolir eglwys Ysbyty Cynfyn
a pharc carafannau bach yn yr ardal hon.
Mae archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn cynnwys safleoedd
ôl-Ganoloesol yn bennaf. Mae’r ffaith bod nifer o safleoedd
anghyfannedd i’w cael yn yr ardal yn arwydd o dirwedd â phoblogaeth
fwy niferus yn y gorffennol hanesyddol. Mae olion gweithgarwch cloddio
am fetel i’w gweld hefyd. Mae canfyddiadau yn dyddio o’r Oes
Efydd a maen hir yn dyddio o’r Oes Efydd yn Eglwys Ysbyty Cynfyn
yn rhoi dyfnder amser i’r dirwedd.
Mae i’r ardal hon ffiniau pendant i’r gorllewin
ac i’r de, lle y mae’n ffinio â choetir ar lethr serth
cwm Rheidol a thir agored uchel, ac i’r dwyrain lle y mae’n
cwrdd â thir agored neu gaeau mawr yn codi’n serth at rostir
uchel. I’r gogledd nid yw’r ffin mor bendant lle y mae’r
ardal hon yn ymdoddi i dir agored o amgylch Ponterwyd.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |