Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Y DRUM

Y DRUM

CYFEIRNOD GRID: SN 720591
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 327.8

Cefndir Hanesyddol

Yn ystod y cyfnod hanesyddol mae’n debyg i natur agored yr ardal hon sicrhau iddi gael ei hawlio gan y Goron. Cofnodir aneddiadau o fath hanesyddol yn y cofnod archeolegol, ond ymddengys fod y rhain wedi’u gadael erbyn y 19eg ganrif, os nad ynghynt. Ffridd fu’r prif ddefnydd a wnaed o’r ardal yn y cyfnod hanesyddol.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon o ucheldir agored yn codi i dros 500m ac mae ei llethrau isaf yn disgyn o dan 250m. Mae’r llethrau serth, yn arbennig y rhai deheuol yn greigiog, tra bod y lleiniau ar y copa yn tueddu i fod yn grwn gyda phantiau mawnaidd. Mae ambell ffens wifrau yn rhannu’r ardal, ond yn ei hanfod mae’n cynnwys ffridd agored o dir pori garw, a rhywfaint o dir pori wedi’i wella ar lefelau is. Safleoedd archeolegol sy’n darparu prif elfennau hanesyddol yr ardal. Mae’r rhain yn cynnwys cytiau hir a llwyfannau cytiau yn dyddio o’r cyfnod ôl-Ganoloesol yn ôl pob tebyg, er efallai eu bod yn deillio o’r Cyfnod Canoloesol, ac ambell ffin eiriol yn dyddio o’r un cyfnod. Priodolwyd nifer o garneddau clirio i’r Oes Efydd, ond mae’n fwy tebygol eu bod yn gysylltiedig ag anheddiad ôl-Ganoloesol/Canoloesol yr ardal. Mae safleoedd eraill yn cynnwys chwareli, ardal lle y buwyd yn torri mawn a chorlan.

Mae i’r llain gymharol fach hon o ucheldir ffiniau pendant am fod planhigfa o goedwigoedd bellach rhyngddi a’r llain fawr o fynydd i’r dwyrain. I’r de ac i’r gogledd-orllewin ceir dyffrynnoedd amgaeëdig a chyfannedd, ac i’r gorllewin nid yw’r ucheldir mor uchel, mae wedi’i amgáu ac mae pobl wedi ymsefydlu yno. Dim ond i’r gogledd-ddwyrain y mae amheuaeth ynghylch lle y dylid tynnu’r ffin rhwng yr ardal hon a’r un sy’n ffinio â hi, am fod eu nodweddion ar y cyfan yn debyg.

MAP Y DRUM

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221