FFOREST TYWICYFEIRNOD GRID: SN 792575 Cefndir Hanesyddol Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r rhan fwyaf o’r llain fawr iawn hon o ucheldir o fewn ystad Esgob Tyddewi yn Llanddewi Brefi neu o fewn Maenor Penardd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Mewn cyfnodau mwy diweddar, daeth tir isel ar gyrion yr ardal o dan reolaeth ystadau lleyg - roedd Trawscoed yn berchen ar rywfaint o dir i’r gogledd - er ei bod yn debyg yr ystyrid mai tir y Goron oedd y rhan fwyaf ohono oherwydd ei natur agored. Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif (LlGC Trawscoed Cyf 2, 2, 7; LlGC Cyf 45, 64, 67) fod rhywfaint o’r tir wedi’i amgáu a bod rhai aneddiadau ar gyrion gogleddol yr ardal hon o amgylch Crofftau a Hafod-newydd, ond fod gweddill yr ardal i gyd yn rhostir agored. Parhaodd yr ardal i fod yn agored nes i’r ardal gyfan gael ei phlannu â choedwigoedd yn y 1960au. Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol Mae hon yn llain eang o goedwigoedd ag ymyl caled sy’n ymestyn ar draws yr hyn a arferai fod yn dir agored (gan mwyaf). Mae’n codi i dros 500m lle y mae ar ei huchaf, ond ar gyfartaledd mae rhwng 400-450m o uchder. Ar wahân i nifer o gaeau ar y cyrion, roedd yr ardal hon i gyd yn rhostir agored cyn iddi gael ei phlannu â choedwigoedd yn y 1960au. Erbyn hyn y planhigfeydd, y lonydd a nodweddion coedwigo eraill sy’n ffurfio prif elfennau tirwedd yr ardal hon. O fewn yr ardal hon ceir bwthyn/fferm Hafod-newydd, ond nis archwiliwyd yn y maes. Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn bennaf yn cynnwys aneddiadau ôl-Ganoloesol a safleoedd defodol ac angladdol yn dyddio o’r Oes Efydd. Mae adeiladau anghyfannedd yn dyddio o’r cyfnod ôl-Ganoloesol yn tystio i dirwedd a arferai fod yn boblog, er bod y boblogaeth honno yn un denau, ac mae crugiau crwn/carneddau claddu, crug cylchog a dau faen hir posibl yn ychwanegu dimensiwn dyfnder amser i’r dirwedd. Mae’r ardal wedi’i diffinio’n glir gan dir agored cyfagos, a thir is amgaeëdig i’r gogledd. Mae hon yn ardal eang, gyda chyfran fawr ohoni y tu allan
i ffiniau’r astudiaeth bresennol, ac felly mae angen ei hastudio’n
fanylach.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221 |