![TYN-Y-BANADL](webphotos/tynybanadl.jpg)
TYN-Y-BANADL
CYFEIRNOD GRID: SN 699669
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 92.9
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o
fewn Maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd
yr abaty rhoddwyd holl ddaliadau Ystrad Fflur i Iarll Essex. Yn fuan ar
ôl hynny, ymddengys i’r tir o amgylch Swyddffynnon gael ei
brynu gan y teulu Lloyd o Ffosybleiddiaid, ac iddo ddod i feddiant y teulu
Vaughan o Drawscoed yn ddiweddarach. Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr
ardal benodol hon, ond mae’n debyg ei bod yn dir agored am ran helaeth
o’r Cyfnod ôl-Ganoloesol, ac iddi gael ei hamgáu i
gyd gyda’i gilydd efallai. Dengys y map degwm (Map Degwm a Rhaniad
Lledrod, 1844) a map o’r ystad yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif
(LlGC Trawscoed Cyf 1, 62) yr ardal dirwedd hon fel y mae heddiw fwy neu
lai.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hon yn ardal sy’n codi o 170m wrth ei ffin
ddwyreiniol â Chors Caron i 230m wrth ei chwr gorllewinol. Nid oes
unrhyw adeiladau o fewn yr ardal dirwedd hon, er y lleolir ffermydd Tyn-y-banadl
a Maesbanadlog gerllaw’r ffiniau. System o gaeau rheolaidd o faint
canolig a geir yn bennaf. Mae’r system hon fel pe bai wedi’i
chynllunio, yn hytrach na’i bod wedi datblygu’n organig. Rhennir
y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Mae’r gwrychoedd mewn
cyflwr eithaf da ar y llethrau isaf i’r dwyrain, ond mae’r
cyflwr yn dirywio ar dir uwch, ac ar y lefelau uchaf mae’r gwrychoedd
bron wedi diflannu. Yn y fan hon mae ffensys gwifrau wedi cymryd eu lle.
Mae tir pori wedi’i wella bron yn gorchuddio’r ardal gyfan.
Mae i’r ardal hon ffin bendant i’r dwyrain
lle y mae’n cwrdd â Chors Caron. I’r gogledd-orllewin
mae bryn – Drysgol – o dir agored, ac i’r gogledd ac
i’r de mae’r ardaloedd yn cynnwys systemau o gaeau bach, afreolaidd
eu siâp.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |