![SYFYDRIN](webphotos/syfydrin.jpg)
SYFYDRIN
CYFEIRNOD GRID: SN 727839
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 98.6
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol efallai fod yr ardal hon yn rhan
o Faenor Nantyrarian Abaty Cwm-hir. Os felly, dichon fod ffermydd Syfydrin
a Gwenffrwd-uchaf yn dyddio o’r Canoloesoedd diweddar pryd y rhannwyd
ffermydd yr abaty yn ffermydd ar wahân a’u prydlesi’n
fasnachol. Erbyn diwedd y 18fed ganrif ymddengys fod o leiaf ran o’r
ardal yn eiddo i ystad Gogerddan ac erbyn hynny roedd y ffermydd yn hirsefydledig.
Dengys mapiau ystad (LlGC Gogerddan 71; LlGC Cyfrol 37, 47) ddaliad gydag
adeiladau fferm a safai yng nghanol nifer o gaeau bach gyda ffridd agored
o boptu iddo. Mae’r map degwm (Llanbadarnfawr, 1845) yn dangos pob
anheddiad yn yr ardal hon - roedd saith i gyd bryd hynny - a phob un ag
un neu ddau o gaeau cyfagos. Mae llwybr hynafol o’r gogledd i’r
de - y ffordd rhwng Machynlleth a Ffair Rhos ar fapiau ystad - yn mynd
drwy’r ardal hon. Efallai mai dyma’r rheswm pam y sefydlwyd
anheddau ac aneddiadau yma, er nad oedd y ffordd yn cael ei defnyddio
mwyach erbyn canol y 19eg ganrif. Rhannwyd y tir yn gaeau mawr yn ystod
y 19eg ganrif, ond ers blynyddoedd cyntaf yr 20fed ganrif bu lleihad ym
maint yr aneddiadau yn gyffredinol.
![SYFYDRIN](webphotos/syfydrin2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon, ar uchder o 320m-380m, yn cynnwys
tir pori wedi’i wella ac ychydig o ffermydd, gyda choedwigaeth yn
ffin iddi ar un ochr ac uwchdir agored ar yr ochrau eraill. Yn y bôn
mae’n cynnwys tir sydd wedi’i rannu’n gaeau mawr â
gwrthgloddiau a chloddiau cerrig, er na ddefnyddir y rhain mwyach. Mae
ffensys gwifren wedi cael eu codi i gadw anifeiliaid i mewn. Mae’r
tir pori sydd wedi’i wella’n sylweddol mewn gwrthgyferbyniad
llwyr i dir garw iawn y rhostir cyfagos. Ar ymylon yr ardal mae tir garw
heb ei wella. Mae un o’r ffermdai wedi’i wneud o gerrig yn
yr arddull frodorol Sioraidd ranbarthol nodweddiadol o ddiwedd y 19eg
ganrif ac adeiladau fferm bach cyfagos. Mae yno ffermdai segur hefyd.
Nid oes coed yn y dirwedd hon ar wahân i’r coed wrth ymyl
y ffermdai.
Yn ogystal â’r aneddiadau a grybwyllwyd isod,
mae’r archeoleg gofnodedig yn cynnwys aneddiadau ôl-Ganoloesol
wedi’u gadael. Mae tri maen hir o’r Oes Efydd yn rhoi dyfnder
amser i’r dirwedd.
Mae hon yn ardal dirwedd unigryw iawn ac mae’n
hollol wahanol i’r goedwigaeth i’r gorllewin a’r rhostir
agored ar y tair ochr arall iddi.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |