Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

SWYDDFFYNNON

SWYDDFFYNNON

CYFEIRNOD GRID: SN 693659
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 159.5

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol, gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor Mefenydd Abaty Ystrad Fflur. Cofnodwyd bod melin ddwˆ r yno (Williams 1990, 57). Awgryma enw’r lle, sef Swyddffynnon, breswylfa un o swyddogion y fferm o bosibl. Ar adeg Diddymu’r Mynachlogydd rhoddwyd holl ddaliadau Ystrad Fflur i Iarll Essex. Yn fuan wedi hynny, ymddengys i’r tir o amgylch Swyddffynnon gael ei brynu gan deulu Lloyd Ffosybleiddiaid ac yn ddiweddarach daeth teulu’r Fychaniaid o Drawsgoed yn berchen arno. Mae mapiau hanesyddol gan gynnwys y map degwm a dynnwyd yn 1844 (Map Degwm a Dosraniad Lledrod) a mapiau’r ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif (LLGC Trawsgoed Cyf 1, 62; LlGC Trawsgoed Cyf 2, 18) yn dangos yr ardal fel ag y mae heddiw i raddau helaeth - ffermydd gwasgaredig a chaeau bach - heb ddim arwydd o’r prosesau a fu’n rhan o’i ddatblygiad, er ei bod yn debygol bod y rhan fwyaf o’r ffermydd yn dyddio o’r Cyfnod Canoloesol diweddar, os nad cynt. Fodd bynnag ar y lluniau a dynnwyd o’r awyr yn 1999 ar gyfer y prosiect hwn gellir gweld arwyddion o leiniau mewn rhai caeau, sy’n awgrymu hen system gaeau gyffredin neu wedi’u his-rannu. Ni wyddys beth yw tarddiad pentrefan Swyddffynnon er bod digon o boblogaeth yno yn 1743 i godi capel (Percival 1998, 523).


Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys tir ymdonnog yn amrywio o uchder o 160m i 205m ar ochr ogledd-ddwyrain Cors Caron o amgylch pentrefan Swyddffynnon. Ar wahân i’r anheddiad hwn, ceir ffermydd gwasgaredig a chaeau bach gyda choetiroedd bach o goed collddail a phlanhigfeydd conifferaidd. Y ffiniau yw gwrthgloddiau neu gloddiau pridd a cherrig a gwrychoedd yn tyfu arnynt. Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr da neu weddol dda; mae rhai wedi cael eu disodli neu eu hatgyfnerthu gan ffensys gwifren. Tir pori wedi’i wella yw prif nodwedd yr ardal, er bod mannau bach o dir pori mwy garw i’w gweld.

Cerrig, wedi’u rendro â sment, wedi’u gadael yn eu cyflwr gwreiddiol neu wedi’u paentio yw’r deunydd adeiladu traddodiadol, gyda llechi ar gyfer y toeau. Mae Swyddffynnon, sy’n anheddiad mewn clwstwr llac, yn ymdebygu i aneddiadau o’r 19fed ganrif gydag ysgol, capel a thyˆ capel, ac ychydig o dai teras, tai ar wahân a thai pâr yn yr arddull frodorol ranbarthol Sioraidd draddodiadol o’r 19eg ganrif. Ceir nifer fach o dai modern yn y pentrefan hefyd. Mae’r ffermydd gwasgaredig yn gymharol fach, gyda ffermdai deulawr yn yr arddull frodorol Sioraidd draddodiadol - simneiau yn nhalcennau’r tyˆ , drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae gan y rhan fwyaf o’r tai nodweddion cryf brodorol megis bondo isel, ffenestri bach ac un simnai yn fwy o faint na’r llall, yn hytrach na’r elfennau Sioraidd mwy ffurfiol. Mae adeiladau allan cerrig wedi’u cyfyngu i un neu ddwy o resi, gyda rhai wedi’u cysylltu â’r tyˆ ac yn rhan o’r tyˆ . Mae gan ffermydd gweithredol resi canolig i fawr o adeiladau amaethyddol dur a choncrit modern.

Mae archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn cynnwys safleoedd ôl-ganoloesol yn bennaf. Fodd bynnag, mae’r rhain yn amrywiol ac yn cynnwys melin, ffatri wlân, heislan, mwynglawdd a gefail. Rhoddir dyfnder amser i’r tirwedd drwy enwau lleoedd sy’n dynodi safle ffynnon sanctaidd o’r Canoloesoedd a chrug crwn o’r Oes Efydd.

Mae ffiniau pendant i’r ardal hon i’r de ac i’r dwyrain lle y mae’n rhedeg i lawr i Gors Caron. I’r gogledd, mae’n troi’n ardal o gaeau mawr. I’r gorllewin mae tir wedi’i amgáu a thir pori garw.

MAP SWYDDFFYNNON

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221