Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

RHOS Y GARGOED A RHOS MARCHNANT

RHOS Y GARGOED A RHOS MARCHNANT

CYFEIRNOD GRID: SN 763684
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 364.7

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol roedd yr ardal hon yn rhan o Faenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty rhoddwyd ei dir i Iarll Essex, a phrynwyd y rhan fwyaf o’r tir hwnnw gan ystad Trawscoed ym 1630, gan gynnwys tiroedd gerllaw’r ardal hon. Mae hanes diweddarach yr ardal hon yn ansicr, er ei bod yn debyg i’w chymeriad ucheldirol agored sicrhau yr ystyrid mai tir y Goron ydoedd. Daeth i sylw ystad Trawscoed ar ddechrau’r 19eg ganrif pan fu cynlluniau i amgáu’r ardal hon trwy Ddeddf Seneddol, a gwnaed arolwg i hwyluso hynny ym 1815 (LlGC Trawscoed 347), ond ni roddwyd unrhyw ddyfarniad. Dengys arolwg 1815 fod yr ardal hon yn un gwbl agored bron. Dengys mapiau ystad eraill yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif (LlGC Cyf 2, 4: LlGC Cyf 45, 72) sefyllfa debyg, a map degwm 1844 hefyd (Map Degwm a Rhaniad Gwnnws). Yn ail hanner y 19eg ganrif rhannwyd yr ardal yn gaeau mawr iawn. Sefydlwyd nifer o aneddiadau sgwatwyr tebygol hefyd. Erbyn hyn mae’r caeau wedi’u gadael, a nifer o’r aneddiadau hefyd. Nid yw’n sicr pryd y rhoddwyd y gorau i’w defnyddio. Yn y 1960au sefydlwyd planhigfa o goedwigoedd.

Ceir sôn yn gyntaf am weithgarwch cloddio am fetel yma yng nghanol y 18fed ganrif, ond nid ymddengys ei fod yn arbennig o lwyddiannus, yn bennaf oherwydd natur anghysbell yr ardal (Bick 1974, 34).

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn ardal ffiniol ucheldirol a leolir rhwng 300 a 470m o uchder. Mae’r ardal hon wedi’i hisrannu’n gyfres o gaeau mawr yn y gorffennol, ond erbyn hyn mae’r caeau hyn at ei gilydd yn ddiangen ac yn ei hanfod ardal o dir agored ydyw bellach. Mae’r hen ffiniau yn cynnwys cloddiau. Nid oes unrhyw wrychoedd ar y cloddiau hyn bellach ac mae ffensys gwifren yn darparu ffiniau cadw stoc. Mae darnau mawr o’r ardal hon wedi’u gorchuddio â choedwigoedd a blannwyd. Ceir rhai aneddiadau yn cynnwys anheddau wedi’u hadeiladu o garreg, gan gynnwys o leiaf ddau dþ anghyfannedd. Tir pori garw iawn yw’r prif ddefnydd a wneir o’r tir a cheir rhostir â phocedi o dir mawnaidd. Ym 1988, cymynwyd planhigfeydd mawr o goed coniffer yn eu crynswth. Nid oes olion gweithgarwch cloddio am fetel sylweddol yn yr ardal hon ond maent yn cynnwys tomenni ysbwriel a ffrydiau.

Ar wahân i olion y diwydiant cloddio metel a’r aneddiadau anghyfannedd yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif y cyfeiriwyd atynt uchod, mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys dau grug crwn amheus yn dyddio o’r Oes Efydd.

Nid yw ffiniau’r ardal hon yn arbennig o glir. I’r dwyrain ceir rhostir uwch sy’n agored ar y cyfan. I’r gorllewin mae’r dirwedd yn debyg mewn llawer o nodweddion i’r ardal hon. Dim ond i’r de y mae ffin bendant rhwng yr ardal hon a’r ardal sy’n ffinio â hi, a nodweddir gan gaeau bach o dir pori wedi’i wella o fewn llethrau isaf neu is y dyffryn.

RHOS Y GARGOED A RHOS MARCHNANT MAP

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221