![RHOS BRYNBERLLAN](webphotos/rhosbrynberllan.jpg)
RHOS BRYNBERLLAN
CYFEIRNOD GRID: SN 745668
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 75.9
Cefndir Hanesyddol
Mae’n debyg bod yr ardal hon yn rhan o ddemên
Abaty Ystrad Fflur. Daeth i feddiant John Stedman ym 1567, ac arhosodd
yn y teulu Stedman tan 1746, pan fu farw Richard Stedman heb wneud ewyllys.
Trosglwyddwyd yr ystad wedyn i’r teulu Powell o Nanteos. Mae’n
debyg bod yr ardal hon yn ffridd agored drwy gydol y Cyfnod Canoloesol
drwodd i’r cyfnod modern. Dengys y mapiau ar raddfa fawr cynharaf
o’r ardal, sef map ystad dyddiedig 1819 a’r map degwm (LlGC
Cyf 45, 73; Map Degwm a Rhaniad Gwnnws, 1847), yr ardal fel ffridd a dangosir
coetir yn ffinio â’i llethrau deheuol a de-orllewinol (yn
cwmpasu’r un ardal fwy neu lai â’r coetir presennol).
Dim ond yn ddiweddar yr ymddengys fod tir wedi’i isrannu.
![RHOS BRYNBERLLAN](webphotos/rhosbrynberllan2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys bryn llethrog a chreigiog
i’r dwyrain o Bontrhydfendigaid yn amrywio o ran uchder o 250m i
350m. Ceir rhai cloddiau isel ar y llethrau is, er nad ydynt yn gweithredu
fel ffiniau cadw stoc bellach, ac eithrio lle y maent wedi’u hatgyfnerthu
â ffensys gwifren. Ceir ffensys gwifren ar dir uwch hefyd; mae’r
rhain yn isrannu’r ardal yn gyfres o gaeau mawr. Fodd bynnag, nid
yw’r un o’r ffiniau hyn yn amharu ar olwg agored yr ardal
hon. Tir pori wedi’i wella yw’r prif ddefnydd a wneir o’r
tir a cheir tir mwy garw ar lethrau mwy serth. Mae llethrau deheuol y
bryn wedi’u gorchuddio â choetiroedd llydanddail hynafol.
Yn ogystal â nifer o gloddweithiau y mae eu hoedran
a’u cymeriad yn ansicr, mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys
bryngaer bwysig Pen y Bannau sy’n dyddio o’r Oes Haearn.
Nodir ffiniau’r ardal hon yn glir gan systemau
o gaeau bach i’r de, i’r gorllewin ac i’r gogledd. I’r
dwyrain mae’r ffin rhwng yr ardal hon a’r llain o gaeau mawr
sy’n ffurfio ardal 35, yn llai pendant.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |