Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

PERAIDD FYNYDD

PERAIDD FYNYDD

CYFEIRNOD GRID: SN 876803
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 2366

Cefndir Hanesyddol

Mae’r llain fawr hon o goedwigoedd ucheldirol yn gorwedd ar y naill ochr a’r llall i’r ffin rhwng Ceredigion a Phowys, gyda’r rhan fwyaf o’r ardal yn gorwedd o fewn Powys. Ar ochr Ceredigion i’r ffin gorweddai’r ardal o fewn Gwestfa Dyffryn Rheidol yng Nghwmwd Perfedd. Mewn cyfnodau mwy diweddar, am ei bod yn agored, mae’n debyg yr ystyrid mai tir y Goron ydoedd. Yn y 1950au a’r 1960au daeth yr ardal hon i feddiant y Comisiwn Coedwigaeth ac fe’i plannwyd â choed coniffer.

PERAIDD FYNYDD

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Ardal o ucheldir creigiog, uchel sy’n amrywio o ran uchder o tua 300m ar ei chyrion dwyreiniol i dros 500m lle y mae ar ei huchaf. Erbyn hyn gorchuddir yr ardal gyfan â phlanhigfeydd o goedwigoedd ag ymyl galed. Cyn cael ei blannu â choed cynhwysai’r holl dir ar ochr Ceredigion i’r ffin sirol rostir agored. Cynhwysai’r tir ar ochr Powys i’r ffin dir agored ar lefelau uwch, ond efallai ei fod yn cynnwys tir a arferai fod yn amgaeëdig ar lefelau is, er nad yw’r rhan hon o’r ardal wedi’i harchwilio’n fanwl. Planhigfeydd, llwybrau, ffyrdd a nodweddion coedwigaeth eraill yw elfennau mwyaf cyffredin ac amlycaf y dirwedd hanesyddol.

Lleolir caer Rufeinig fach - sef Cae Gaer - mewn coedwigoedd dwfn ar ochr Powys i’r ffin sirol. Mae archeoleg arall a gofnodwyd yn cynnwys yn bennaf olion y diwydiant cloddio am fetel, er bod aneddiadau a bythynnod anghyfannedd yn dangos bod gan yr ucheldir hwn boblogaeth denau o leiaf tan y 19eg ganrif. Mae nifer o grugiau crwn yn dyddio o’r Oes Efydd yn rhoi elfen o ddyfnder amser i’r dirwedd.

Mae ymyl galed y coedwigoedd yn nodi ffiniau’r ardal hon. Ar bob ochr bron ceir rhostir agored.

MAP PERAIDD FYNYDD

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221