![PANTYFEDWEN A CHROFFTAU](webphotos/pantyfedwencroftau.jpg)
PANTYFEDWEN A CHROFFTAU
CYFEIRNOD GRID: SN 745648
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 325.6
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol roedd yr ardal hon yn rhan o
Faenor Penardd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr
abaty rhoddwyd ei diroedd i Iarll Essex, a phrynwyd y rhan fwyaf o’r
tir hwnnw gan ystad Trawscoed ym 1630. Fodd bynnag, ymddengys fod yr ardal
hon wedi gorwedd o fewn demên yr abaty a daeth i feddiant John Stedman
ym 1567. Pan fu farw Richard Stedman ym 1746, heb wneud ewyllys, trosglwyddwyd
y tir i ystad Nanteos. Mae’n debyg bod y patrwm anheddu o ffermydd
gwasgaredig yn dyddio o’r Cyfnod Canoloesol ac iddo gael ei ddatblygu
a’i gynorthwyo gan berchenogion diweddarach yr ystad. Dengys mapiau
ystad o ystad Nanteos dyddiedig 1819 (LlGC Cyf 45, 59, 64, 65), fod yr
ardal wedi newid gryn dipyn yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf. Mae ardaloedd
o goetir wedi aros yn weddol ddigyfnewid, ond mae’r systemau caeau
wedi newid ac wedi datblygu tra bod nifer yr aneddiadau wedi gostwng.
Dangoswyd Talwrn, Crofftau a dwy fferm anghyfannedd arall gerllaw Crofftau
ym 1819 fel ffermydd ag ychydig o gaeau bach o bobtu iddynt wedi’u
gosod mewn ffridd agored. Roedd rhai caeau newydd wedi’u creu erbyn
yr arolwg degwm (Map Degwm a Dyraniad Caron, 1845), ond cynlluniwyd y
mwyafrif o’r caeau yn yr ardal hon ar ôl 1845. Mae rhai o
elfennau’r dirwedd wedi dadfeilio; mae cyn-gaeau bach o amgylch
y ddwy fferm anghyfannedd wedi troi’n gaeau mawr unwaith eto ac
mae rhai ardaloedd a oedd wedi’u hamgáu gynt wedi’u
plannu â choed coniffer.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hon yn ardal o goed trwchus sy’n ymestyn ar
draws un o lethrau rhan uchaf Afon Teifi, sy’n wynebu’r gogledd,
a mân ddyffrynnoedd rhagnentydd sy’n llifo i’r gogledd.
Mae’r ardal yn amrywio o ran uchder o 190m tua llawr dyffryn Afon
Teifi i 350m yn ei therfynau deheuol. Mae rhai o’r llethrau yn serth
ac yn greigiog. Mae’n cwmpasu amrywiaeth o fathau o dirwedd gan
gynnwys systemau caeau o gaeau bach i fawr, tir agored, coetir collddail
a phlanhigfeydd o goed coniffer. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd
gwasgaredig y ceir systemau o gaeau bach a chaeau mwy o faint o bobtu
iddynt a lleiniau bach o dir agored ymhellach allan. Mae’r math
o ffin cae yn amrywio’n fawr; ceir waliau sych fel arfer ar lefelau
uwch a chloddiau a chloddiau ag wyneb o gerrig ar y llethrau is, er bod
y mathau wedi’u cymysgu gryn dipyn. Ceir gwrychoedd mewn cyflwr
gwael ar rai o’r cloddiau, yn arbennig ar y llethrau is. Mae ffensys
gwifrau wedi’u hychwanegu at y ffiniau hanesyddol hyn. Ceir tir
pori wedi’i wella o fewn y caeau. Yn brithio’r coetir ar y
llethrau mwy serth ceir tir mwy garw, ac ambell lain o redyn. Ceir lleiniau
mawr o goetir collddail a chonifferaidd cymysg ar y llethrau sy’n
wynebu’r gogledd uwchlaw Abaty Ystrad Fflur.
Prin yw’r adeiladau yn yr ardal hon. Mae’r
strwythurau hyn wedi’u hadeiladu o gerrig lleol. Mae un ffermdy
yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol yn dyddio o’r cyfnod
rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Mae’n gymharol fach a chanddo
ddau lawr, simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy
ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei
ben. Mae gan dy arall nodweddion hyn, mwy brodorol. Adeiladwyd byngalo
yn ddiweddar yn yr ardal. Nodwyd rhes sylweddol o adeiladau allan deulawr
wedi’u hadeiladu o gerrig ar un fferm. Prin yw’r adeiladau
amaethyddol modern.
Ar wahân i’r bythynnod y cyfeiriwyd atynt
uchod, mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys olion mwynglawdd metel
ôl-Ganoloesol, crug grwn yn dyddio o’r Oes Efydd a maen hir
posibl yn dyddio o’r Oes Efydd.
I’r de mae llain fawr o goedwigoedd a blannwyd
yn cyffinio â’r ardal hon. I’r gogledd ac i’r
gorllewin mae ffiniau’r ardal yn llai pendant lle y mae’r
ardal hon yn ymdoddi i dir amgaeëdig.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |