Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

LLWYNMALUS

LLWYNMALUS

CYFEIRNOD GRID: SN 696682
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 37.4

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty rhoddwyd ei faenorau i Iarll Essex gan eu gwerthu ar ôl hynny i ystad Trawscoed ym 1630. Ymddengys fod y rhan fwyaf o’r tir yn yr ardal hon wedi aros yn rhan o ystad Trawscoed drwodd i’r 20fed ganrif. Fel maenorau eraill, mae’n debyg erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, os nad ynghynt, fod Mefenydd wedi’i rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu a’u ffermio’n fasnachol. Nid ymchwiliwyd i unrhyw ffynonellau i geisio darganfod sut y gallai’r ardal hon fod wedi datblygu. Yr unig fapiau llawysgrif hanesyddol ar raddfa fawr o’r ardal hon yw’r mapiau degwm (Map Degwm a Dyraniad Lledrod, 1844; Map Degwm a Dyraniad Spytty Ystrad Meurig, 1843). Dengys y mapiau hyn erbyn y 1840au fod y system gaeau bresennol wedi’i sefydlu.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn ardal fach ac ar uchder o tua 200m mae’n isel o’i chymharu â’r tir o’i hamgylch. Fe’i rhennir yn system o gaeau o faint bach i ganolig. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd neu ffosydd draenio. Nid yw’r gwrychoedd mewn cyflwr da ac mae ffensys gwifren wedi’u hychwanegu atynt. Nid oes unrhyw aneddiadau yn yr ardal hon. Ceir tir pori wedi’i wella, ond mae’n ardal wlyb a cheir lleiniau o dir pori garw, brwyn, dyddodion mawnaidd a hyd yn oed byllau o ferddwr.

Nid oes i’r ardal hon ffiniau arbennig o bendant. I’r dwyrain ceir tir amgaeëdig o ansawdd gwell, ond ni ddiffiniwyd y tirweddau i’r gogledd, i’r de ac i’r dwyrain eto.

MAP LLWYNMALUS

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221