![Fuches Wen](webphotos/fucheswen.jpg)
FUCHES WEN
CYFEIRNOD GRID: SN 836799
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1585
Cefndir Hanesyddol
Ar gyfer y rhan fwyaf o’r cyfnod hanesyddol, roedd
cymeriad agored yr ardal hon, yn ôl pob tebyg, wedi sicrhau iddi
gael ei hystyried fel tir y Goron. Mae’r unig fap cyn y degwm ar
gyfer yr ardal, dyddiedig hyd at 1819, yn dangos Fuches Wen fel ffridd
agored. Dengys y map degwm batrwm tebyg; patrwm sydd wedi parhau, yn gyffredinol,
hyd heddiw.
![Fuches Wen](webphotos/fucheswen2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hwn yn floc mawr o ucheldir tonnog, sy’n cynnwys
llethrau sy’n wynebu’r gogledd a’r gogledd ddwyrain
yn bennaf gydag uchder yn amrywio o 300m yn ei ymyl gogleddol a thros
500m yn ei fannau uchaf. Ceir brigiadau creigiog ar y copaon. Yn draddodiadol,
mae’n cynnwys rhostir agored, gyda gorgors ar lefelau uwch a dyddodion
mawnaidd mewn pantiau a dyffrynnoedd. Mae gwrthgloddiau ffiniol yn bresennol
ar y llethrau gogleddol isaf ger Dyffryn Castell, ond mae’r caeau
a ffurfiwyd gan y rhain bellach yn ddiangen, i raddau helaeth, ac mae
ffensys gwifren yn rhannu’r ardal yn gaeau mawr iawn. Mae gwaith
datblygu tir ar raddfa fawr dros y degawdau diwethaf wedi arwain at droi
llawer o’r llethrau isaf, a rhai llwyfandiroedd uchel, yn dir pori.
Mae archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn cynnwys safleoedd
ôl-Ganoloesol yn bennaf. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain
yn cynnwys aneddiadau anghyfannedd a nodweddion amaethyddol cysylltiedig
fel corlannau, caeau, ffaldau a lonydd, sy’n dynodi ardal o ucheldir
poblog, ond tenau ei phoblogaeth, hyd at y 19eg ganrif. Mae olion mwnfeydd
metel yn bresennol hefyd. Darperir elfen ddyfnach o ran amser mewn perthynas
â’r dirwedd gan grugiau cylch o’r Oes Efydd.
Mae’r ardal hon wedi’i diffinio’n dda.
I’r gogledd ddwyrain a’r dwyrain, ceir tir anheddiad amgaeëdig
isaf Dyffryn Castell a Phonterwyd, tra ceir lleiniau helaeth o goedwigaeth
ucheldirol i’r de ac i’r dwyrain.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |