![Frongoch](webphotos/frongoch.jpg)
FRONGOCH
CYFEIRNOD GRID: SN 764664
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 52.1
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o
fewn Maenor Penardd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Yn debyg i diroedd
eraill o eiddo’r abaty mae’n debyg erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol,
os nad ynghynt, fod Penardd wedi’i rhannu’n ffermydd, a gâi
eu prydlesu yn fasnachol. Mae’n debyg mai fel hyn y sefydlwyd Frongoch.
Pan ddiddymwyd yr abaty rhoddwyd y maenorau i Iarll Essex. Ar ôl
hynny, ym 1630, fe’u gwerthwyd i ystad Trawscoed. Fodd bynnag, erbyn
y 18fed ganrif roedd yr ardal hon wedi’i hymgorffori o fewn ystad
Nanteos. Mae’n debyg felly fod Frongoch yn rhan o ddemên yr
abaty – tir a ddaeth i feddiant John Stedman ym 1567 (Cadw 1992)
ac nid ystad Trawscoed – ac iddo gael ei drosglwyddo i ystad Nanteos
yn dilyn marwolaeth Richard Stedman ym 1746. Dengys map o’r ystad,
dyddiedig 1819 (LlGC Cyf; 62), Frongoch fel daliad a gynhwysai gaeau bach
yn gymysg â rhai ffermydd eraill. Mae rhai o’r caeau hyn yn
debyg i leiniau. Mae’n debyg felly i’r dirwedd hon ddatblygu
o system o gaeau isranedig, efallai tir pori wedi’i rannu ar dir
uchel yn hytrach na thir âr. Erbyn yr arolwg degwm roedd pob tystiolaeth
o hyn wedi diflannu (Map Degwm a Rhaniad Gwnnws, 1847).
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Ardal dirwedd anghysbell, fach ar lethrau uchel sy’n
wynebu’r gorllewin a’r de-orllewin ac sy’n disgyn yn
raddol. Fe’i lleolir uwchlaw rhannau uchaf Afon Teifi rhwng 220m
a 350m. Mae wedi’i chanoli ar fferm Frongoch ac mae’n cynnwys
llain o dir pori wedi’i wella sydd wedi’i rhannu’n gaeau
o faint bach i ganolig. Cloddiau sy’n ffurfio hen ffiniau’r
caeau. Ni cheir unrhyw wrychoedd bellach ac mae ffensys gwifrau yn rhedeg
ar hyd y mwyafrif o’r cloddiau. Mae Frongoch yn ffermdy brodorol
Sioraidd nodweddiadol yn dyddio o’r 19eg ganrif a chanddo ddwy res
o adeiladau allan o gerrig ac adeiladau allan modern helaeth iawn.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys anheddiad
yn dyddio o’r Cyfnod Canoloesol neu’r cyfnod ôl-Ganoloesol.
Mae i’r ardal hon ffiniau pendant. I’r gogledd-ddwyrain,
i’r dwyrain ac i’r de o’r ardal hon ceir llain fawr
o rostir agored, uchel. Ceir tir pori garw mewn caeau mawr a rhostir agored
i’r gogledd-orllewin, ac i’r de-orllewin mae’r tir yn
disgyn yn gyflym at dir amgaeëdig llawr y dyffryn.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |