Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Esgair Fraith

ESGAIR FRAITH

CYFEIRNOD GRID: SN 755908
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1540

Cefndir Hanesyddol

Gorweddai’r llain fawr iawn hon o gyn-ucheldir agored o fewn Cwmwd Geneu’r glyn, y mae’n debyg yr ystyrid mai tir y Goron ydoedd hyd yn eithaf diweddar. Dengys tystiolaeth map fod yr ardal i gyd bron yn agored, er bod rhai aneddiadau wedi’u cofnodi. O fewn ffiniau’r ardal hon neu’n agos atynt ceir nifer o fwyngloddiau metel pwysig: Henfwlch, Camdwrbach, Eaglebrook, Esgair Hir ac Esgair Fraith (Bick 1988). Mae’r ddwy olaf yn hen iawn ac yn gyfoethog, ac fe’u hadwaenwyd fel y Potosi Cymreig (Palmer 1983). Yn Esgair Hir yr heriodd Syr Carberry Pryse ym 1689 fonopoli’r Goron ar gloddio am arian ac aur. Agorodd ei fuddugoliaeth y diwydiant cloddio i gyfalaf newydd, gan arwain at fwyngloddiau newydd a hyrwyddodd ddatblygu lefelydd a fodolai eisoes. Parhawyd i weithio’r mwyngloddiau hyn a oedd yn rhai plwm a chopr yn bennaf o’r 17eg ganrif drwodd i ddechrau’r 19eg ganrif. Ar wahân i weithgarwch cloddio am fetel, parhaodd yr ardal hon i fod yn un anghysbell nas defnyddid ddigon nes i’r tir gael ei drosglwyddo i’r Comisiwn Coedwigaeth a phlanhigfeydd o goed coniffer gael eu plannu yn y 1960au.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal ucheldirol greigiog hon, sy’n codi i uchder o dros 490m, wedi’i gorchuddio â phlanhigfeydd o goed coniffer a chanddynt ymyl caled. O fewn y coedwigoedd ceir olion gwasgaredig y diwydiant cloddio metel gan gynnwys tomenni, siafftiau a phyllau olwynion ac adeiladau, er bod y mwyafrif o strwythurau pwysig y ddau brif fwynglawdd, sef Esgair Hir ac Esgair Fraith, wedi’u lleoli y tu allan i’r coedwigoedd. Cyn cael ei phlannu roedd y rhan fwyaf o’r ardal hon yn rhostir agored; erbyn hyn y planhigfeydd, y lonydd, y ffyrdd a nodweddion coedwigol eraill yw’r elfennau tirwedd hanesyddol mwyaf cyffredin ac amlycaf yn yr ardal hon.

Ar wahân i nifer fawr o olion yn gysylltiedig â chloddio am fetel, mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys cytiau hir anghyfannedd ac aneddiadau anghyfannedd eraill. Mae’r rhain yn dangos bod pobl yn byw yn yr ardal, er bod y boblogaeth honno’n denau, cyn y 19 ganrif. Ceir olion amaethyddol – corlannau ac ati – yn dyddio o’r Cyfnod ôl-Ganoloesol hefyd. Mae crug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd yn rhoi rhywfaint o ddyfnder amser i’r dirwedd.

Ar wahân i nifer fawr o olion yn gysylltiedig â chloddio am fetel, mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys cytiau hir anghyfannedd ac aneddiadau anghyfannedd eraill. Mae’r rhain yn dangos bod pobl yn byw yn yr ardal, er bod y boblogaeth honno’n denau, cyn y 19 ganrif. Ceir olion amaethyddol – corlannau ac ati – yn dyddio o’r Cyfnod ôl-Ganoloesol hefyd. Mae crug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd yn rhoi rhywfaint o ddyfnder amser i’r dirwedd.

I raddau helaeth ni ddiffiniwyd ac ni ddisgrifiwyd yr ardaloedd tirwedd hanesyddol sy’n ffinio â’r uned hon eto. Fodd bynnag, mae rhostir agored yn ffinio â’r ardal hon i’r dwyrain a chronfa ddðr Nant-y-moch i’r de-ddwyrain.

Map Esgair Fraith

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221