Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Disgwylfa

DISGWYLFA

CYFEIRNOD GRID: SN 735847
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1850

Cefndir Hanesyddol

Gorweddai cornel dde-orllewinol bellaf yr ardal hon o fewn Maenor Nantyrarian a oedd yn eiddo i Abaty Cwm-hir. Mae’n debyg bod y gweddill bob amser wedi bod yn agored ac felly byddai wedi’i hawlio gan y Goron. Roedd ystad Gogerddan wedi dod i feddiant rhan o’r faenor erbyn diwedd y 18fed ganrif o leiaf. Dengys mapiau o’r ystad (LlGC Gogerddan 71; LlGC Cyf 37, 47, 49, 55, 56) yn dyddio o’r cyfnod hwnnw yr ardal hon fel ffridd agored yn cynnwys un neu ddau fwthyn anghysbell. Yn ystod y 19eg ganrif rhannwyd cyrion deheuol yr ardal hon yn gaeau mawr iawn. Yn rhedeg o’r gogledd i’r de trwy’r ardal hon mae ffordd hen iawn a gofnodir gan y mapiau o’r ystad y cyfeiriwyd atynt uchod fel y ffordd o Fachynlleth i Ffair Rhos. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd y ffordd i bob pwrpas wedi diflannu, fel y canfu George Borrow er gofid iddo yn ystod ei daith gerdded o amgylch Cymru (Walker 1998, 300). Lleolir mwyngloddiau metel pwysig tua chyrion gogleddol yr ardal hon. Bu Syr Hugh Myddelton yn gweithio mwynglawdd Hafan yn y 1720au a mwynglawdd Henfwlch o ddechrau’r 18fed ganrif o leiaf. Bu Cwmni Hafan a Henfwlch yn gweithio’r ddau fwynglawdd yng nghanol y 19eg ganrif (Bick 1998, 46-48). Roedd cynhyrchiant bron wedi dod i ben erbyn diwedd y 19eg ganrif, er i dramffordd fyrhoedlog Pumlumon a Hafan gysylltu’r mwyngloddiau â’r arfordir ym 1897 (Lewis 1998, 178). Ar lwybr y dramffordd, agorodd mwynglawdd Bwlchglas ym 1889, a buwyd yn ei weithio yn ystod blynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif (Bick 1988, 34).

Disgwylfa

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn ardal helaeth o ucheldir agored. Mae’n cynnwys copaon a llethrau creigiog Disgwylfa Fawr sy’n 507m o uchder a llethrau dyffryn Afon Rheidol i lawr o dan 300m. Nid oes unrhyw aneddiadau cyfannedd yn yr ardal. Ffridd garw yw’r ardal i gyd bron, er bod darnau o dir pori wedi’i wella ar y llethrau isaf, yn arbennig yn eithafoedd deheuol yr ardal. Yn yr ardaloedd hyn mae cloddiau creiriol hen gaeau yn dyddio o’r 19eg ganrif i’w gweld. Erbyn hyn mae’r llethrau isaf hyn fel arfer wedi’u rhannu gan ffensys gwifrau. Roedd cloddiau caregog creiriol hefyd wedi’u nodi ar lefelau uwch, yr ymddengys fod rhai ohonynt yn gysylltiedig ag aneddiadau anghyfannedd y mae eu dyddiad yn anhysbys. Mae olion y diwydiant cloddio plwm ar gyrion gogleddol yr ardal hon yn elfennau trawiadol yn y dirwedd hanesyddol, ac maent yn cynnwys tomenni, chwareli, incleins, mynedfeydd, adeiladau a thramffordd bwysig. Ym Mwlchglas mae sylfeini concrid yn tystio i ddyddiad cymharol ddiweddar y lefelydd.

Mae dosbarthiad rheolaidd o aneddiadau anghyfannedd yn y cofnod archeolegol yn nodi ardal boblog, er bod y boblogaeth yn denau, drwodd i’r 19eg ganrif. Mae safleoedd eraill yn cynnwys mwyngloddiau metel dinod yn ogystal â’r rhai y cyfeiriwyd atynt uchod. Mae nifer o grugiau crwn yn dyddio o’r Oes Efydd a bryngaer Dinas yn dyddio o’r Oes Haearn yn darparu elfen o ddyfnder amser ar gyfer y dirwedd.

Mae i’r ardal hon ffiniau eithaf pendant. Yn ffinio â hi ar sawl ochr ceir planhigfeydd o goedwigoedd modern, ac mewn mannau eraill ceir tir amgaeëdig a chyfannedd is yn ffinio â hi.

Map Disgwylfa

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221