![Cwmystwyth](webphotos/cwmystwyth.jpg)
CWMYSTWYTH
CYFEIRNOD GRID: SN 806748
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 137.6
Cefndir Hanesyddol
Diffiniwyd yr ardal dirwedd hanesyddol hon gan y diwydiant
cloddio. Dangosodd cloddiadau archeolegol fod pobl yn cloddio am gopr
brig yma yn yr Oes Efydd (Timberlake 1995), ac mae pobl wedi bod yn cloddio
am blwm yma ers y cyfnod Rhufeinig o leiaf (Bick 1974, 19-23; Hughes 1981).
Mae’n debyg y câi metel ei gloddio o dan reolaeth Abaty Ystrad
Fflur yn yr Oesoedd Canol am fod yr ardal hon wedi’i lleoli o fewn
Maenor Cwmystwyth. Yn y 18fed ganrif bu pobl yn chwilio am wythiennau
trwy ddefnyddio llif sydyn o ddðr i sgwrio wyneb y ddaear - dull a
elwir yn ‘hushing’ yn Saesneg, ac mae sianeli a chronfeydd
dwr y broses hon i’w gweld o hyd. Mae gweithgarwch cloddio am fetel
yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif wedi gadael casgliad dryslyd o
olion, paradwys i’r archeolegydd diwydiannol, gan gynnwys: tomenni,
siafftiau, tramffyrdd, incleins, mwyngloddiau brig, tai mathru ac adeiladau
eraill. Ar ddiwedd y 19eg ganrif arweiniodd y chwilio am flend at adeiladu
tþ mathru mawr - dim ond yn ddiweddar yr ysgubwyd ei olion rhydlyd
ymaith - a safleoedd eraill. Daeth y gwaith i ben yng Nghwmystwyth ym
1921.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon, a ddiffinnir yn gyfan gwbl gan
archeoleg ddiwydiannol, yn gorwedd ar draws llethrau a llawr dyffryn Afon
Ystwyth. Mae gan y dyffryn yn y fan hon broffil dwfn ar ffurf U, ac mae’r
llawr sy’n 300m o uchder a’r llethrau yn codi i dros 500m.
Mae’r llethrau’n greigiog, yn debyg i glogwyni hyd yn oed
ar yr ochr ogleddol. Mae’n fwy tebygol bod y nifer fawr o lethrau
sgri yn deillio o weithgarwch cloddio nag o broses naturiol. Ceir olion
gweithgarwch cloddio ym mhobman. Mae’r rhain yn amrywiol ac mae’r
mwyafrif ohonynt yn gadarn. Mae olion strwythurau wedi’u hadeiladu
o gerrig yn yr ardal – yn ddomestig ac yn ddiwydiannol - wedi’u
gwasgaru ar draws y dirwedd. Mae llawer mewn cyflwr peryglus.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys olion sy’n
uniongyrchol gysylltiedig â’r diwydiant cloddio metel, gan
gynnwys canfyddiadau yn dyddio o’r Cyfnod Rhufeinig, neu olion sy’n
gysylltiedig yn anuniongyrchol â’r diwydiant megis bythynnod
gweithwyr anghyfannedd.
Mae i’r ardal hon ffiniau pendant ac mae’n
cynnwys archeoleg ddiwydiannol y diwydiant cloddio metel. I’r gogledd
ac i’r de ceir rhostir uchel, agored, ac i’r dwyrain ac i’r
gorllewin ceir llawr amgaeëdig a chyfannedd dyffryn Afon Ystwyth.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |