![Cwm Mynach](webphotos/cwmmynach.jpg)
CWM MYNACH
CYFEIRNOD GRID: SN 753768
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 68.33
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol roedd y rhan o’r ardal
hon i’r de o Afon Mynach, os nad yr ardal gyfan, yn rhan o Faenor
Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty
mae’n debyg i’r teulu Herbert brynu’r rhan hon o’r
faenor. Erbyn dechrau’r 19eg ganrif roedd wedi’i hymgorffori
yn ystad yr Hafod a oedd yn eiddo i Thomas Johnes. Dangosir y rhan ddeheuol
ohoni ar fap o ystad yr Hafod dyddiedig 1834. Erbyn yr 16eg ganrif roedd
maenorau’r abaty wedi’u rhannu’n ffermydd, a gâi
eu prydlesu a’u ffermio fel unedau unigol. Mae dogfen yn dyddio
o 1545-50 (Morgan 1991) yn rhestru’r ffermydd ym maenor Cwmystwyth;
ni chyfeirir at yr un o’r ffermydd yn yr ardal hon, er y cofnodir
daliadau dienw. Mae’n debyg bod yr ardal hon ynghyd â gweddill
y faenor wedi’i rhannu’n ffermydd, ac wedi’i hamgáu
o bosibl i ffurfio’r system gaeau bresennol erbyn diwedd y Cyfnod
Canoloesol o leiaf. Mae’r map degwm yn darparu’r cofnod da
a chyflawn cyntaf o’r ardal. Dengys y map hwn dirwedd sy’n
debyg iawn i’r un a welir heddiw.
![Cwm Mynach](webphotos/cwmmynach2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae rhan uchaf Cwm Mynach, sy’n cynnwys llawr
y dyffryn a llethrau isaf y dyffryn, yn amrywio o ran uchder o 220m i
280m. Yn y fan hon mae’r dyffryn yn gul ac mae ei lethrau’n
serth. Erbyn hyn mae llethrau uwch y dyffryn wedi’u gorchuddio â
choedwigoedd. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf yn yr ardal
hon; anaml y ceir tir pori mwy garw ar lethrau serth a phantiau brwynog.
Nodweddir yr ardal gan system o gaeau bach, afreolaidd eu siâp a
rennir gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Mae rhai gwrychoedd mewn cyflwr
da, ond ni all y mwyafrif ohonynt gadw stoc bellach ac maent yn dechrau
tyfu’n wyllt ac yn cael eu hesgeuluso. Serch hynny, elfen amlwg
iawn ydynt o’r dirwedd hanesyddol. Erbyn hyn mae ffensys gwifrau
yn darparu ffiniau cadw stoc ar hyd y mwyafrif o’r gwrychoedd. Mae
clystyrau bach, gwasgaredig o goetir llydanddail ynghyd â’r
gwrychoedd yn rhoi golwg weddol goediog i’r dirwedd. Mae’r
patrwm anheddu yn cynnwys dwy fferm. Ymddengys i dþ un o’r
ffermydd hyn gael ei ailadeiladu yn ddiweddar. Mae’r llall yn enghraifft
ardderchog o fferm ucheldirol. Mae gan y ffermdy deulawr o gerrig wedi’u
paentio nodweddion brodorol cryf (ond mae yn y traddodiad brodorol Sioraidd
rhanbarthol) ac mae’n dyddio yn ôl pob tebyg o ddechrau’r
19eg ganrif. Mae ganddo nifer o adeiladau allan o gerrig wedi’u
gosod yn lled ffurfiol o amgylch buarth, ac adeiladau amaethyddol modern.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn bennaf yn cynnwys
yn bennaf olion y diwydiant cloddio metel. Mae sawl enw lle sydd o ddiddordeb
am eu bod yn darparu rhywfaint o ddyfnder amser i’r dirwedd, ac
efallai eu bod yn nodi lleoliad mynwentydd neu sefydliadau mynachaidd
yn dyddio o’r Oesoedd Tywyll.
Mae i’r ardal hon ffiniau pendant iawn. I’r
gogledd-ddwyrain, i’r dwyrain ac i’r de-ddwyrain, ar lethrau
uwch llethr y dyffryn ceir planhigfa o goedwigoedd yn dyddio o’r
20fed ganrif. Ceir tir agored i’r de ac ardal o gaeau mawr i’r
gogledd.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |