![Cwm Berwyn](webphotos/cwmberwyn.jpg)
CWM BERWYN
CYFEIRNOD GRID: SN 696539
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 3177
Cefndir Hanesyddol
Arferai’r ardal gymeriad hon orwedd o fewn Cwmwd
Penardd. Gorweddai rhan fawr ohoni o fewn ystad Esgob Tyddewi yn Llanddewibrefi,
ac mae’n debyg yr ystyrid mai tir y Goron oedd y gweddill. Mae tystiolaeth
enw lle - sef Llethr Hafodydd - yn awgrymu bod trawstrefa yn cael ei arfer
yn y gorffennol. Fe’i lleolir ar y naill ochr a’r llall i
lwybr tros fynydd a gysylltai Dregaron â thiroedd i’r gorllewin,
rhan uchaf dyffryn Afon Tywi a’r dwyrain. Llinell gyfathrebu bwysig
iawn ydoedd yn y gorffennol, ond erbyn hyn fe’i defnyddir yn bennaf
gan dwristiaid. Ar wahân i’r blaen deheuol pellaf, a oedd
wedi’i rannol amgáu cyn i’r ardal gael ei phlannu â
choedwigoedd, cynhwysai’r cyfan o’r ardal dirwedd hanesyddol
hon rostir a ffridd agored. Yn y 1960au plannodd y Comisiwn Coedwigaeth
yr ardal gyfan â choedwigoedd.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hon yn llain eang o goedwigoedd ag ymyl caled sy’n
ymestyn dros dir a arferai fod yn agored. Mae’n codi i dros 480m
lle y mae ar ei huchaf, ar gyfartaledd mae rhwng 400-450m o uchder, ac
mae’n disgyn i tua 300m yn ei phen deheuol. Ar wahân i gaeau
yn y pen deheuol, roedd yr ardal hon i gyd yn rhostir agored cyn iddi
gael ei phlannu â choedwigoedd yn y 1960au. Erbyn hyn y planhigfeydd,
y lonydd a nodweddion coedwigo eraill yw prif elfennau tirwedd yr ardal
hon.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn
gyfoethog ac yn amrywiol. At ei gilydd mae’n cynnwys bythynnod a
ffermydd anghyfannedd yn dyddio o’r cyfnod ôl-Ganoloesol,
a nodweddion amaethyddol eraill megis arwyddion terfyn a fodolai cyn i’r
ardal gael ei phlannu â choedwigoedd. Fodd bynnag, mae tri chrug
crwn yn dyddio o’r Oes Efydd a dau safle tebyg tybiedig, maen hir
yn dyddio o’r Oes Efydd, dau faen hir posibl yn dyddio o’r
un cyfnod, a gwersyll cyrch Rhufeinig, yn darparu elfen o ddyfnder amser
ar gyfer y dirwedd.
Mae terfynau’r ardal wedi’u diffinio’n
glir gan y tir agored oddi amgylch.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |