![Craig y Bwlch](webphotos/craigybwlch.jpg)
CRAIG Y BWLCH
CYFEIRNOD GRID: SN 719695
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 143.8
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol roedd yr ardal hon yn rhan o
Faenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr
Abaty rhoddwyd ei diroedd i Iarll Essex, a’u gwerthodd ym 1630 i
ystad Trawscoed. Mae’n debyg bod yr ardal hon bob amser wedi bod
yn ucheldir agored ac yr ystyrid felly mai tir y Goron ydoedd. Dengys
ffotograffau a dynnwyd o’r awyr olion aneddiadau sgwatwyr yn ôl
pob tebyg yn dyddio o’r 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif,
ond dengys yr unig fap hanesyddol llawysgrifol ar raddfa fawr o’r
ardal hon, sef y map degwm (Map Degwm a Rhaniad Gwnnws, 1847), fod yr
ardal yn cynnwys tir agored neu gaeau mawr iawn.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Llain fach o dir agored, creigiog, uchel yn amrywio
rhwng 270m a 330m o uchder. Roedd y tir agored yn eithaf helaeth yn wreiddiol,
ond sefydlwyd ardal fawr o blanhigfeydd o goedwigoedd. Prif elfen tirwedd
hanesyddol yr ardal hon yw Chwarel Hendre sy’n weithredol. Y pwll,
tomenni ysbwriel ac adeiladau’r chwarel yw’r prif elfennau
yn yr ardal dirwedd hon ac maent yn cael cryn effaith weledol ar yr ardaloedd
i’r dwyrain. Lle nad effeithiwyd ar yr ardal hon gan y chwarel,
tir pori garw yw’r prif ddefnydd a wneir o’r tir. Mae tystiolaeth
ar ffurf ffiniau afraid o aneddiadau sgwatwyr ar y tir agored.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys yr aneddiadau
anghyfannedd ôl-Ganoloesol y cyfeiriwyd atynt uchod a mwynglawdd
metel bach. Mae crug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd a thwmpath llosg
neu aelwyd yn dyddio o’r Oes Efydd, sy’n nodi anheddle posibl,
yn darparu dyfnder amser i’r dirwedd.
I’r gogledd mae llain o blanhigfeydd o goedwigoedd
yn darparu ffin bendant ar gyfer yr ardal hon. Mewn mannau eraill mae’r
ardal oddi amgylch yn cynnwys tirweddau o gaeau mawr yn cynnwys tir pori
wedi’i wella a thir pori garw. Mae ffin eithaf pendant rhwng yr
ardal hon a’r ardaloedd oddi amgylch.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |