![](../../shim.gif) |
![Coed Bwlchgwallter](webphotos/coedbwlchgwallter.jpg)
COED BWLCHGWALLTER
CYFEIRNOD GRID: SN 771718
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 337.6
Cefndir Hanesyddol
Gorweddai’r ardal hon, yn y Cyfnod Canoloesol,
o fewn Maenor Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd
yr abaty mae’n debyg iddi ddod i feddiant y teulu Herbert o Gastell
Powys, ynghyd â llawer o ddaliadau eraill y gyn-fynachlog, er y
byddai’r rhannau agored wedi aros yn dir y Goron. Erbyn ei ddiddymu,
ac am lawer o ddegawdau cyn hynny yn ôl pob tebyg, roedd maenorau’r
abaty wedi’u rhannu’n ffermydd ac yn cael eu prydlesu yn fasnachol.
Cofnodwyd un fferm yn yr ardal, sef Bwlchgwallter, felly ym 1545-50 (Morgan
1991). Ffurfiai daliadau Herbert yng Nghwmystwyth graidd ystad Hafod Thomas
Johnes ar ddiwedd y 18fed ganrif ac ar ddechrau’r 19eg ganrif. Erbyn
1834 mae’n amlwg bod tir agored y Goron a ffurfiai’r rhan
fwyaf o’r ardal hon wedi dod i feddiant yr ystad neu fod yr ystad
wedi cymryd meddiant ohoni, fel y dangosir ar fap o’r ystad. Ym
1866, bu’r tir agored yn destun Deddf Amgáu (Chapman 1992,
53; LlGC Cerdyn CC Adnau 6), yr ymddengys na chafodd fawr ddim effaith
ar y dirwedd ffisegol, er iddi gael ei dyfarnu. Ar ddechrau’r 1950au,
prynwyd ystad Hafod gan y Comisiwn Coedwigaeth a chychwynnwyd rhaglen
goedwigo ar raddfa fawr. Mae ffiniau’r coedwigoedd hyn a’r
ardal dirwedd hon i’r dwyrain, i’r de ac i’r gorllewin
yn dilyn ffiniau ystad yr Hafod fel y’i dangosir ar y map o’r
ystad dyddiedig 1834. Mae ffermdy Bwlchgwallter wedi goroesi mewn poced
o dir sydd heb ei blannu â choed.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hon yn llain fawr o dir tonnog uchel, yn amrywio
o 300m i 470m, y gorchuddir y cyfan ohoni â phlanhigfeydd o goed
coniffer. Cyn ei phlannu â choedwigoedd roedd y rhan fwyaf o’r
ardal hon yn rhostir ac yn ffridd agored, er bod rhai ffiniau i’w
cael, yn arbennig gerllaw tþ Bwlchgwallter, lle’r oedd y tir
wedi’i rannu’n gaeau gan gloddiau, cloddiau pridd a cherrig
ac ambell wal sych. Mae’n debyg mai gwaith Thomas Johnes ar ddiwedd
y 18fed ganrif oedd y waliau sych; mae’r rhain i gyd yn ddiangen
erbyn hyn ac wedi’u gorchuddio â choedwigoedd. Mae tþ
Bwlchgwallter, tþ bychan sydd wedi’i foderneiddio gryn dipyn
yn dyddio o’r 19eg ganrif, wedi goroesi. Planhigfeydd, lonydd, ffyrdd
a nodweddion coedwigol eraill yw elfennau mwyaf cyffredin ac amlycaf y
dirwedd hanesyddol.
Ar wahân i groto, mae’r archeoleg a gofnodwyd
yn cynnwys elfennau amaethyddol ôl-Ganoloesol dibwys.
Mae i’r ardal dirwedd hon ffiniau pendant iawn
a cheir rhostir agored i’r dwyrain ac i’r de, tir agored yn
cynnwys caeau mawr i’r gorllewin a chraidd ystad yr Hafod yng Nghwm
Ystwyth i’r gogledd.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |