
CNWCH
CYFEIRNOD GRID: SN 718714
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 35.1
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o
fewn Maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd
yr abaty rhoddwyd y maenorau i Iarll Essex. Ar ôl hynny, ym 1630,
fe’u gwerthwyd i ystad Trawscoed. Mae’n debyg i gymeriad agored,
ucheldirol yr ardal hon sicrhau yr ystyrid mai tir y Goron ydoedd. Mae
wedi aros yn agored yn y bôn hyd heddiw.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hon yn llain fach o dir agored – bryn yn y
bôn – sy’n amrywio o 220m yn y dwyrain i fyny at 320m
i’r gorllewin. Arferai fod yn rhan o lain fawr o rostir, ond mae
bron y cyfan o’r rhostir hwn bellach wedi’i blannu â
choed coniffer. Mae’n agored ac yn ôl yr unig fap llawysgrif
ar raddfa fawr o’r ardal, y map degwm (Map Degwm a Rhaniad Gwnnws,
1847), bu’n agored ers 1847. Mae’n cynnwys tir pori wedi’i
wella yn ogystal â thir mwy garw a thir wedi’i orchuddio â
rhedyn ar lethrau serth, creigiog sy’n wynebu’r dwyrain. Ceir
rhai cloddiau ffin diangen ar gyrion dwyreiniol yr ardal hon lle y mae’n
cwrdd â thir âr. Mae’r cloddiau hyn yn cynrychioli’r
ffin symudol rhwng tir agored a thir amgaeëdig. Mae ffensys gwifrau
ar y cloddiau bellach yn nodi’r ffin. Mae nifer o domenni ysbwriel
o lefelydd mwynau a cherrig. Mae’r map degwm yn nodi’r rhain
fel chwareli llechi.
Mae’n amlwg bod creu planhigfa o goed coniffer
ar dir a arferai fod yn agored wedi amddifadu’r ardal hon o lawer
o’i chydlyniant a’i chyfanrwydd, ond mae digon o dir wedi
goroesi i gyfiawnhau ei gosod ar wahân fel ardal gymeriad tirwedd
unigol.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |