![Bryn Ty'n Llwyn](webphotos/bryntynllwyn.jpg)
BRYN TYN-LLWYN
CYFEIRNOD GRID: SN 753776
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 126.6
Cefndir Hanesyddol
Yn hanesyddol mae’r ardal hon wedi gweithredu fel “clustogfa”
rhwng tir amaethyddol poblog is i’r gorllewin, a thir uchel agored
i’r dwyrain. Nid yw ei hanes cynnar yn hysbys, ond mewn cyfnodau
mwy diweddar mae wedi gweithredu fel ffridd i Erwbarfe a ffermydd eraill.
Mae’r map cyntaf ar raddfa fawr o’r ardal yn dyddio o 1819
(LlGC Cyf 45, 28) a dengys dirwedd sy’n debyg i’r un a welir
heddiw - sef caeau mawr, rhai a elwir yn ‘ffridd’. Mewn cyfnodau
o ffyniant amaethyddol a thwf yn y boblogaeth byddai terfynau’r
caeau wedi cael eu gwthio yn uwch i fyny’r llethrau, ond mewn cyfnodau
o ddirwasgiad byddai terfynau’r caeau wedi cilio.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn ymestyn dros lethr serth, a chreigiog mewn
mannau, sy’n wynebu’r gorllewin a’r de ac sy’n
codi o 250m i 420m lle y mae ar ei huchaf. Mae’n cynnwys tir pori
wedi’i wella gan mwyaf, a thir pori mwy garw a rhedyn ar y llethrau
mwy serth ac ar dir uwch. Mae’r ardal wedi’i rhannu’n
gyfres o gaeau. Mae’r caeau hyn yn tueddu i fod yn fach ac yn afreolaidd
eu siâp ar y llethrau isaf, yn fwy o faint ar dir uwch, ac fe’u
rhennir gan gloddiau, gyda gwrychoedd ar rai ohonynt. Dim ond ar y llethrau
isaf y ceir gwrychoedd erbyn hyn, ac yma maent wedi tyfu’n wyllt
ac wedi’u hesgeuluso. Ar dir uwch mae’r gwrychoedd wedi diflannu.
Erbyn hyn ffensys gwifrau yn rhedeg ar hyd yr hen gloddiau sy’n
ffurfio’r ffiniau cadw stoc. Ceir clystyrau bach o goed llydanddail
ar y llethrau isaf. Nid oes unrhyw adeiladau cyfannedd yn yr ardal.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn awgrymu tirwedd a arferai fod yn
boblog. Cofnodwyd safleoedd pedwar tþ yn dyddio yn ôl pob
tebyg i’r cyfnod ôl-Ganoloesol ynghyd â fferm anghyfannedd.
Nodwyd diwydiant gwledig ar ffurf llosgi golosg hefyd. Lleolir melin flawd
a melin wlân ar ffin ddeheuol bellaf yr ardal.
Nid oes gan yr ardal hon ffiniau arbennig o bendant i’r gorllewin,
i’r gogledd ac i’r de lle y mae’n ymdoddi i dir is poblog
sy’n cael ei ffermio’n fwy dwys. I’r gogledd-ddwyrain
mae’r ffin â thir agored yn fwy pendant, a cheir ffin bendant
â man cyfarfod coedwigoedd i’r dwyrain.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |