![Blaen-glasffrwd](webphotos/blaengalsffwrd.jpg)
BLAEN-GLASFFRWD
CYFEIRNOD GRID: SN 767631
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 230.9
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o
fewn Maenor Penardd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd
yr abaty, rhoddwyd y maenorau i Iarll Essex, a’u gwerthodd i Ystad
Trawscoed ym 1630. Mae’n debyg bod Penardd, fel y maenorau eraill,
wedi’i rhannu’n ffermydd ac yn cael ei phrydlesu yn fasnachol
erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, os nad ynghynt. Efallai i’r ffermydd
yn yr ardal hon gael eu sefydlu o dan y system hon. Map degwm 1845 (plwyf
Caron) yw’r arolwg sylweddol cynharaf o’r ardal. Dengys y
map ffermydd Blaen-Glasffrwd, Hafod Newydd a Thynygarreg, a dau fwthyn
dienw a chanddynt gaeau bach wrth eu hymyl a chaeau mwy o faint ymhellach
allan, wedi’u gosod mewn môr o ffridd agored. Ers yr arolwg
degwm bu gostyngiad yn nifer yr aneddiadau, ac mae caeau yn tueddu i gael
eu ffermio fel unedau mawr iawn. Mae enw lle yn cynnwys yr elfen hafod
yn awgrymu bod y fferm sy’n dwyn yr enw hwnnw wedi dechrau o dan
system o drawstrefa.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon, y ceir coedwigoedd o bob tu iddi
bellach, yn gorwedd mewn dyffryn ucheldirol agored rhwng 400m a 500m.
Ceir un fferm gyfannedd ar hyn o bryd, a saif mewn tirwedd o dir pori
wedi’i wella â phantiau mawnaidd a brwynog, a thir pori garw
ar rai o’r llethrau mwy serth. Mae cloddiau ffin a arferai rannu’r
ardal yn gaeau at ei gilydd yn ddiangen, ac erbyn hyn ffensys gwifrau
sy’n ffurfio’r brif ffin cadw stoc. Mae’r rhain yn rhannu’r
ardal yn gyfres o unedau mawr. Tirwedd heb goed ydyw.
Mae aneddiadau anghyfannedd yn dyddio o’r cyfnod
ôl-Ganoloesol yn y cofnod archeolegol yn tystio i dirwedd lawer
mwy poblog nag a geir yn awr. Mae nifer o grugiau crwn neu garneddau yn
dyddio o’r Oes Efydd a maen hir posibl yn ychwanegu dyfnder amser
at y dirwedd.
Mae planhigfa amgylchynol o goedwigoedd yn gosod ffiniau
pendant i’r ardal hon.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |