Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Berwyn

BERWYN

CYFEIRNOD GRID: SN 711587
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 87.8

Cefndir Hanesyddol

Nid yw hanes yr ardal hon yn hysbys. Y cwbl a wyddom i sicrwydd yw bod y patrwm anheddu a’r system gaeau bresennol wedi’u sefydlu erbyn map degwm 1845 (plwyf Caron).

Berwyn

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Ardal gul wedi’i chyfyngu i lawr y dyffryn a rhan o un o lethrau dyffryn Afon Berwyn sy’n wynebu’r de, rhwng 250m a 350m. Mae’n cynnwys dwy fferm a system gaeau o gaeau afreolaidd eu siâp. Rhennir y caeau gan gloddiau â wyneb o gerrig ac arnynt wrychoedd, a waliau sych. Yn gyffredinol ni all y gwrychoedd gadw stoc i mewn ac maent yn dechrau tyfu’n wyllt; mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu atynt. Ceir rhai coed nodedig yn y gwrychoedd. Mae tir pori wedi’i wella yn gyffredin yn yr ardal, er bod llawer o dir brwynog a rhai dyddodion mawn efallai ar lawr y dyffryn. Mae’r tir yn fwy garw tua phen uchaf, dwyreiniol y dyffryn, ac mae rhai prysgwydd a llwyni coedwigol yn dechrau meddiannu tir pori garw.

Mae’r adeiladau o gerrig lleol, a adawyd yn foel, ac mae ganddynt doeau llechi masnachol. Mae’r tai yn dyddio o’r 19eg ganrif, ac mae ganddynt ddau lawr. Ceir enghraifft dda yn y traddodiad brodorol Sioraidd rhanbarthol sydd â nodweddion Sioraidd bonheddig cryf yn yr achos hwn. Moderneiddiwyd ac ymestynnwyd y tþ arall. Dim ond un fferm sy’n weithredol bellach ac mae ganddi resi bach o adeiladau allan o gerrig sy’n dyddio o’r 19eg ganrif ac adeiladau amaethyddol modern bach.

Dengys y ffaith bod aneddiadau anghyfannedd yn y cofnod archeolegol fod yr ardal yn fwy poblog yn ystod y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Nid oes unrhyw archeoleg a gofnodwyd ar wahân i safleoedd yn dyddio o’r cyfnod ôl-Ganoloesol.

I’r gogledd, i’r de ac i’r dwyrain mae llethrau serth a/neu blanhigfeydd o goedwigoedd yn pennu ffiniau’r ardal hon. I’r gorllewin mae’r ardal hon yn raddol ymdoddi i’w hardal gyfagos.

Map Berwyn

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221