Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Banc Esgair Mwn and Rhos Tanchwarel

BANC ESGAIR-MWN A RHOS TANCHWAREL

CYFEIRNOD GRID: SN 760703
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 546.6

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol roedd yr ardal hon yn rhan o faenor Mefenydd a Chwmystwyth a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty, rhoddwyd tiroedd abatai i Iarll Essex, a phrynwyd y rhan fwyaf ohonynt gan ystad Trawscoed ym 1630, gan gynnwys tiroedd yn agos i’r ardal hon. Mae hanes diweddarach yr ardal hon yn ansicr, er ei bod yn debyg i’w natur ucheldirol agored sicrhau yr ystyrid mai tir y Goron ydoedd. Dechreuodd ystad Trawscoed ymddiddori yn rhan ddeheuol yr ardal ar ddechrau’r 19eg ganrif pan fu cynlluniau i amgáu’r ardal hon trwy ddeddf seneddol, a gwnaed arolwg i hwysluso hyn ym 1815 (LlGC Trawscoed 347), ond ni roddwyd unrhyw ddyfarniad. Dengys arolwg 1815 fod yr ardal i gyd bron yn agored. Erbyn yr arolwg degwm (Map Degwm a Rhaniad Gwnnws, 1844; Map Degwm a Rhaniad Ysbyty Ystwyth, 1848) roedd y rhan fwyaf o’r ardal hon yn dal i fod yn agored. Bu pobl yn tresmasu’n anghyfreithlon ar dir agored yn rhan ogledd-ddwyreiniol yr ardal hon, ar gwr dwyreiniol plwyf Ysbyty Ystwyth cyn 1846, ac mae hyn wedi’i gofnodi ar fap yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC Map 7181). Ymddengys mai caeau mawr oedd y tresmasiadau hyn yn bennaf, ac iddynt gael eu cyflawni felly o dan nawdd ystad neu gan ffermwyr-denantiaid, ac nad gwaith sgwatwyr ar raddfa fach oeddynt. Ymddengys ar ôl yr arolwg degwm i’r rhan fwyaf o’r ardal hon gael ei hamgáu, ac iddi gael ei rhannu’n gaeau mawr iawn. Felly nid yw’n glir o ble y mae’r patrwm anheddu o ffermydd a bythynnod gwasgaredig wedi deillio, ond efallai iddo gael ei sefydlu yn y 19eg ganrif o ganlyniad i bobl yn tresmasu ar y tir. Mae’r mwyafrif o’r aneddiadau bellach yn anghyfannedd. Mae’n debyg iawn bod mwynglawdd plwm Esgair-Mwn yn dra hynafol pan gafodd ei ailddarganfod yn y 18fed ganrif a’i weithio ar ran y Goron. Ymddengys mai’r 18fed ganrif fu’r cyfnod gweithio mwy proffidiol, er i gynhyrchiant barhau drwy gydol y 19eg ganrif, a hyd yn oed tan 1927. Yn y 1940au ailagorwyd y mwynglawdd er mwyn gweithio’r tomenni llawn plwm (Bick 1974, 34-35). Mae mwyngloddiau eraill o fewn yr ardal hon hefyd yn hynafol – Glogfach a Glogfawr – er na chofnodwyd eu hanes cystal.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn gorwedd rhwng 270m a 420m i’r gorllewin o dir agored ac yn cynnwys dyffrynnoedd Gwyddyl, Garw a Marchnant i’r de sydd wedi’u halinio o’r dwyrain i’r gorllewin, a llethrau deheuol Cwm Ystwyth i’r gogledd. At ei gilydd mae golwg agored ar yr ardal, ceir llawer o gaeau mawr wedi’u ffurfio gan gloddiau. Prin yw’r gwrychoedd yn yr ardal, ac ar ben y cloddiau ceir ffensys gwifrau. Mewn rhai achosion mae’r ffiniau sydd wedi’u ffurfio gan gloddiau wedi’u hesgeuluso. Yn agos at y ffermydd a’r bythynnod (sy’n anghyfannedd gan amlaf) ceir caeau llai o faint o dir pori wedi’i wella. Yma mae gan rai o’r ffiniau sydd wedi’u ffurfio gan gloddiau wrychoedd, ond anaml y gall y rhain gadw stoc i mewn. Mae’r tai wedi’u hadeiladu o gerrig a chanddynt doeau llechi. Mae hen fwyngloddiau plwm yn elfennau tirwedd nodedig. Mae tomenni sbwriel yn arbennig o amlwg yn yr ardal hon, ond ceir adeiladau cerrig a nodweddion atodol, gan gynnwys sied beiriannau o haearn rhychog ym Manc Esgair-Mwn. Mae’r esgeiriau uchel wedi’u halinio o’r dwyrain i’r gorllewin yn cynnwys tir pori wedi’i wella a thir mwy garw ar lethrau serth. Mae lloriau’r dyffrynnoedd yn tueddu i gynnwys tir pori garw iawn a phocedi o dir mawnaidd. Mae gan ffermydd a leolir ar lethrau isaf y dyffrynnoedd gaeau bach o dir pori wedi’i wella.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn cynnwys aneddiadau anghyfannedd ac olion y diwydiant cloddio metel bron yn gyfan gwbl .

Nid yw’r dirwedd hon yn arbennig o wahanol i’w chymdogion. I’r dwyrain mae gan y dirwedd lawer o nodweddion tebyg, ond mae’n uwch ac yn cynnwys lleiniau mawr wedi’u plannu â choed coniffer. I’r de-ddwyrain mae’r tir yn is ac yn cynnwys system gaeau o gaeau bach. Dim ond ar yr ochr ogledd-orllewinol a’r ochr ogledd-ddwyreiniol i’r ardal hon y mae gwahaniaeth clir. Yn ffinio â’r ardal hon i’r gogledd-ddwyrain ceir llain o goedwig wedi’i phlannu, ac mae’r tir i’r gogledd-orllewin yn cynnwys caeau llai o faint a ffermydd/bythynnod gwasgaredig.

Map Banc Esgair Mwn and Rhos Tanchwarel

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221