Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

DIGWYDDIADAU A PHROSESAU A HELPODD I FFURFIO TIRWEDD HANESYDDOL UCHELDIR CEREDIGION

Disgrifir isod rai o’r themâu y nodwyd yn ystod yr astudiaeth hon fel y rhai a ffurfiodd rannau o dirwedd hanesyddol ucheldir Ceredigion, dylanwadu arnynt neu eu llunio mewn rhyw ffordd. Nid yw’r rhestr yn hollgynhwysfawr, ond disgrifir themâu pwysig.

Palaeoamgylcheddol
Mae paill ac olion planhigion eraill wedi’u cloi a’u haenu mewn dyddodion mawn yn fodd i ddadansoddi a disgrifio newidiadau o ran hinsawdd a llystyfiant yn y gorffennol, gan ein galluogi i ddod i gasgliadau ynghylch effaith a dylanwad dyn ar y dirwedd. Mae’r modd y mae mawn yn ffurfio a’r fethodoleg ar gyfer cael y data palaeoamgylcheddol sydd ei angen o’r broses honno yn dra hysbys ac mae cryn dipyn wedi’i ysgrifennu amdanynt, ac ni fwriedir sôn eto amdanynt yma. Mae ucheldir Ceredigion yn cynnwys rhai o’r prif safleoedd ym Mhrydain ar gyfer astudio palaeoamgylcheddau, gan gynnwys safle hysbys Cors Caron (am restr o safleoedd lle y mae’r paill wedi’i ddadansoddi gweler Caseldine 1990, Ffigur 11 a thud. 127). Mae Caseldine (1990) yn disgrifio’r canlyniadau o’r holl waith palaeoamgylcheddol o Gymru fesul cyfnod. Digon yw dweud yma fod bron pob ardal gymeriad tirwedd hanesyddol yn yr astudiaeth yn cynnwys dyddodion naturiol neu led-naturiol y byddai eu hastudio yn ein cynorthwyo i ddeall yr effaith y mae pobl wedi’i chael ar yr amgylchedd yn ystod y 10,000 o flynyddoedd diwethaf.

Safleoedd defodol, angladdol ac anheddu yn dyddio o’r Oes Efydd
Mae tystiolaeth o weithgarwch anheddu yn yr ardal astudiaeth yn dyddio o’r cyfnod cyn yr Oes Haearn wedi’i chyfyngu i wybodaeth a gafwyd trwy astudio olion palaeoamgylcheddol (gweler uchod) a henebion defodol ac angladdol yn dyddio o’r Oes Efydd. Mae’r henebion hyn - sy’n cynnwys crugiau crwn/carneddau claddu a meini hirion yn bennaf – yn elfennau cyffredin yn y dirwedd, ond ceir bod y mwyafrif llethol ohonynt wedi’u lleoli ar dir uchel neu ar ymylon tir uchel. Mae’r dosbarthiad hwn yn deillio o leiaf yn rhannol o arfer amaethyddol yn dyddio o’r cyfnod ar ôl yr Oes Efydd, ac yn arbennig o arfer amaethyddol modern; mae bron yn sicr bod yr henebion hyn wedi’u dosbarthu’n fwy cyfartal ar draws yr ardal astudiaeth ar un adeg. Mae presenoldeb niferoedd mawr o’r henebion hyn, yn aml mewn ardaloedd yr ystyrir bellach eu bod yn rhai eithaf anghysbell, yn arwydd o boblogaeth sefydlog yn yr ucheldiroedd. Fodd bynnag, prin yw’r dystiolaeth o aneddiadau a fodolai ar yr un pryd, a darperir y dystiolaeth orau gan dwmpathau llosg neu aelwydydd. Efallai bod carneddau clirio hefyd yn arwydd o weithgarwch anheddu ac amaethyddiaeth yn dyddio o’r Oes Efydd. Mewn rhai o’r ardaloedd ucheldir mae elfennau’r dirwedd hanesyddol yn gyfyngedig bron yn gyfan gwbl i henebion defodol ac angladdol yn dyddio o’r Oes Efydd. Am drafodaeth lawn o’r Oes Efydd yng Ngheredigion gweler Briggs (1994).


Anheddu yn ystod yr Oes Haearn/y Cyfnod Brythonaidd-Rufeinig 800CC – 400OC
Y fryngaer yw heneb nodedig yr Oes Haearn, ac mae’r rhain yn llai niferus yn ardaloedd mewndirol ac ucheldirol yr astudiaeth nag ydynt ymhellach i’r gorllewin ac i’r de. Ni cheir yr un o’r llociau hirsgwar, sydd wedi goroesi fel olion cnydau, sydd mor niferus yn ne Ceredigion. Lleolir Castell Rhyfel a Dinas mewn ucheldir agored, mae eraill yn tueddu i fod ar esgeiriau uchel gogledd Ceredigion ar dir a amgaewyd ar ddechrau’r cyfnod modern neu yn ystod y cyfnod ôl-Ganoloesol. Fodd bynnag, mae’n werth nodi i fryngaer arall, a oedd yn anhysbys cyn hynny, gael ei darganfod tra roedd lluniau yn cael eu tynnu o’r awyr ar gyfer yr astudiaeth hon. Ni ellir canfod unrhyw batrymau amlwg o gyfatebiaeth rhwng bryngeyrydd ac unedau tiriogaethol diweddarach cymydau.

Bu effaith y Rhufeiniaid ar y wlad yn un filwrol yn bennaf, a chynhwysodd greu coridor llwybr wedi’i alinio o’r gogledd i’r de o’r mwyngloddiau aur yn Nolaucothi, trwy gaer Llanio ar Afon Teifi, i Drawscoed ac oddi yno i’r gogledd i fan croesi dros Afon Dyfi i’r de o Bennal. Felly osgowyd yr ardal astudiaeth. Er i aneddiadau sifil ddatblygu y tu allan i byrth ceyrydd (h.y. y vicus yn Nhrawscoed,) ac er efallai i ofynion y garsiynau milwrol am gyflenwadau a theyrnged gyflymu cyfnewid economaidd, daethant i ben ar ôl i’r garsiynau gilio yn y drydedd ganrif. Felly ni chafwyd fawr ddim effaith ar batrymau byw’r Oes Haearn, ond crëwyd llwybr ymarferol o’r gogledd i’r de a oroesodd i’r cyfnod ôl-Rufeinig, fel y mae’r enw traddodiadol Sarn Helen yn tystio (er ei bod at ei gilydd i’r gorllewin o’r ardal astudiaeth). Gallai’r darlun hwn newid os daw rhagor o dystiolaeth i’r golwg am y modd y cafodd mwyngloddiau plwm Ceredigion eu gweithio gan y Rhufeiniaid - ymddengys fod y plwm mewn dau wrthrych o waith cloddio a wnaed yn y gaer Rufeinig yn Nhrawscoed wedi dod o ganolbarth Cymru (astudiwyd samplau gan ddefnyddio sbectrometreg belydrau-gama). Am drafodaeth lawn o gyfnod yr Oes Haearn a’r cyfnod Brythonaidd-Rufeinig yng Ngheredigion gweler Davies (1994) a Davies a Hogg (1994).

Dechrau’r Cyfnod Canoloesol 400 – 1100 OC
Mae’r cyfnod hir rhwng diwedd rheolaeth y Rhufeiniaid ym Mhrydain a dechrau goresgyniad Cymru gan y Normaniaid yn bwysig o ran treftadaeth ddiwylliannol, ac o ran gosod y sylfeini ar gyfer gweithgarwch anheddu a defnydd tir yn ddiweddarach yn ystod y cyfnod Canoloesol, ond nid oes fawr ddim tystiolaeth ar gyfer y cyfnod hwn i’w gweld o fewn y dirwedd bresennol. Hyd yma mae maes archeoleg wedi darparu tystiolaeth o safleoedd claddu a henebion Cristnogol cynnar, ond fawr ddim tystiolaeth o unrhyw aneddiadau ar unrhyw lefel gymdeithasol. Mae angen ymchwilio i’r cyfnod hwn ar frys, am mai dim ond trwy ddadansoddi tirweddau yn fanwl y mae ein gwybodaeth yn debygol o gael ei hymestyn. O ganlyniad mae proses nodweddu’r dirwedd hanesyddol wedi codi cymaint o gwestiynau ag y mae wedi’u hateb.

O ran nodweddu tirwedd hanesyddol yr ardal hon o fewndir ac ucheldir Ceredigion, mae angen bod yn ymwybodol o dair prif thema er mwyn deall yn fanwl sut y datblygodd y dirwedd bresennol yn ystod y cyfnod hwn. Y themâu hyn yw:
1. y modd y cyflwynwyd Cristnogaeth ac y lledaenodd, ei dylanwad ar weithgarwch anheddu trwy ganolfannau cwlt a chladdfeydd.
2. datblygiad y Gymraeg a’r tebygolrwydd bod llawer o’r enwau lleoedd sy’n diffinio ac yn dynodi’r dirwedd ar gyfer ei thrigolion a’r rhai sy’n ymweld â hi yn deillio o ddechrau’r cyfnod Canoloesol.
3. y broses o greu unedau tiriogaethol a gweinyddol a oedd i barhau’n ddylanwadau pwerus ar drefniant cymdeithasol ar ôl hynny.

Mae dosbarthiad enwau lleoedd yn cynnwys elfennau enwau personol y seintiau cynnar yn nodi’r modd y lledaenodd – neu y crebachodd – eu cyltiau dros nifer o ganrifoedd, nid crwydradau ‘cenhadwyr’ yn ystod y 5ed – 6ed ganrif. Datblygodd rhai canolfannau yn ‘fameglwysi’ ac yn eglwysi plwyf canoloesol, ond nid pob un. Yn Nhrisant mae tair carreg arysgrifedig ar ffurf croesau o’r fynwent yn dyddio o’r 9fed ganrif yn awgrymu iddi ddechrau fel claddfa Gristnogol gynnar, ond datblygodd yn ddim mwy na phentrefan o fewn plwyf mwy o faint Llanfihangel-y-Creuddyn lle y mae’r elfen enw lle, sef yr archangel Mihangel, yn arwydd o waith ad-drefnu gan yr Eingl-Normaniaid. Mae’n bwysig nodi, er bod Trisant yn llan sydd wedi’i chysegru i dri sant, mae eu henwau wedi’u colli. Ym mhen arall y raddfa, ymddengys fod anheddiad cnewyllol pwysig Tregaron yn ganolbwynt grym yn dyddio o’r cyfnod cyn y goresgyniad Normanaidd, am fod ganddo heneb Gristnogol gynnar ddosbarth 1 a’r enw lle, sy’n cyfuno tref (fferm, trefgordd) ac enw sant, sef Caron, sy’n cyfateb yn ôl pob tebyg i Carannog – sef hen dduw neu sant y Gwyddelod a ymsefydlodd yng Ngheredigion yn y 5ed ganrif a’r 6ed ganrif.

Un o elfennau pwysig tirwedd ganoloesol yr ardal astudiaeth hon a dylanwad pwysig arni yw abaty Sistersaidd Ystrad Fflur, a sefydlwyd fel cangen i Abaty Hendy-gwyn ar Daf ym 1164, ond a waddolwyd ac a gefnogwyd yn hael gan yr Arglwydd Rhys, tywysog Deheubarth. Mae’n debyg bod y darnau mawr o dir a waddolwyd gan yr Arglwydd Rhys i’r Abaty, sy’n cyfuno ucheldir ac iseldir, yn ystadau ac yn unedau tir a fodolai cyn y goresgyniad Normanaidd.

Yn olaf, o ran tiriogaethau a ffiniau, ac argraffiadau pobl o ran i ble’r oeddynt yn perthyn, mae’n werth dyfynnu’r Athro Ieuan Gwynedd Jones (1998, 480) yn ei astudiaeth o batrymau o gred anghydffurfiol yng Ngheredigion yn y 18fed a’r 19eg ganrif, ei natur geidwadol a’i drafodaeth ynghylch cryfderau Methodistiaeth Galfinaidd yn yr ardaloedd mewndirol, ucheldirol:

Bodolai felly, ymdeimlad dwfn o berthyn i strwythurau eglwysig a sifil a oedd yn dra hynafol, mai’r byd yr oedd pobl yn byw ynddo oedd y byd yr oedd eu hynafiaid wedi’i adnabod, ac mai byd ydoedd nad oedd yn debygol o newid.

Goresgyniad gwleidyddol, cyd-fyw a newid yn ystod yr Oesoedd Canol
Crynhoir rhaniadau tiriogaethol Ceredigion gynt gan Dodgshon (1994). Cynhwysai Ceredigion wlad a oedd wedi’i hisrannu’n ddau gantref (a olygai yn llythrennol gant o aneddiadau neu drefi). Roedd cantrefi wedi’u rhannu ymhellach yn ddau gwmwd, ac roedd pob cwmwd wedi’i rannu’n bedair maenor. O’r pedair maenor ym mhob cwmwd, roedd tair yn nwylo dynion rhydd, roedd y bedwaredd yn nwylo taeogion. Cynhwysai maenorau rhydd 13 o drefgorddau, cynhwysai taeogfaenorau saith. At y 46 o drefgorddau yn y maenorau dylid ychwanegu dwy a ddelid fel demên gan frenin, un yn nwylo’r maer ac un yn nwylo’r canghellor, gan wneud cyfanswm mewn cwmwd i 50, neu hanner cantref.

Ni fwriedir trafod rhaniadau tiriogaethol cynharach ymhellach yma, am nad yw eu heffaith ar y dirwedd hanesyddol yn hysbys ar hyn o bryd ar wahân i un eithriad posibl. Mae’r eithriad yn cynnwys y darnau mawr o dir a roddwyd i Abaty Ystrad Fflur gan Rhys ap Gruffudd. Ni wnaed unrhyw ymchwil i fanylion y rhodd hwn, a fyddai’n ffurfio’r sylfaen i faenorau’r abaty, ond mae’n rhaid bod ei ffiniau yn ymwneud i ryw raddau â rhaniadau tiriogaethol a fodolai cyn hynny. Mae’r modd y trefnwyd y maenorau gan yr abaty, ac yn y cyfnod ôl-Ganoloesol gan yr ystadau, wedi effeithio ar y dirwedd hanesyddol mewn ffordd y gellir ei canfod o hyd, fel y gellir gweld yn y disgrifiadau o’r ardaloedd tirwedd hanesyddol.

Erbyn diwedd y 13eg ganrif roedd yr hen raniadau tiriogaethol hyn wedi torri i lawr, ac roedd Ceredigion wedi’i threfnu yn siroedd – rhagflaenydd y sir fodern. Disgrifir y newid hwn gan Jones Pierce (1959). Fodd bynnag, mae’n aneglur sut y newidiwyd y cyn-raniad tiriogaethol i ffurfio rhagflaenwyr yr unedau gweinyddol sy’n bodoli bellach, os mai dyna a ddigwyddodd.

Poblogaeth 1750 - 2000
Cyn 1801 nid oes unrhyw ffynonellau dibynadwy ar gyfer asesu poblogaeth Ceredigion. Mae Howells (1974/75) yn amcangyfrif erbyn canol yr 16eg ganrif fod y boblogaeth o bosibl wedi adfer o’r isafbwynt a gyrhaeddwyd ar ddiwedd y cyfnod Canoloesol i lefel mor uchel â 17,000, ac y gall fod wedi cyrraedd 27,000 erbyn dechrau’r 18fed ganrif. Bu newidiadau yn y boblogaeth yng Ngheredigion ar gyfer 1750-2000 yn destun astudiaeth ddiweddar gan Aitchison a Carter (1998); mae’r adran hon yn crynhoi rhannau o’u gwaith. Cynyddodd poblogaeth Ceredigion yn gyflym o ganol y 18fed ganrif o leiaf pan amcangyfrifwyd bod 32,000 yn byw yn y sir, nes cyrraedd uchafswm o 73,441 ym 1871. Y rhesymau am hyn oedd y galw cynyddol am gynnyrch amaethyddol a’r codiad ym mhrisoedd fferm yn dilyn Rhyfel Napolean, a chynnydd mewn cynhyrchiant o ddiwydiannau, yn arbennig y diwydiant cloddio plwm. Gadawodd y cynnydd hwn yn y boblogaeth ei ôl ar y dirwedd hanesyddol: crëwyd aneddiadau newydd, yn arbennig ar gyrion tir ymylol; amgaewyd rhostir a thir comin a dechreuwyd eu hamaethu, agorwyd mwyngloddiau plwm newydd a chynyddodd cynhyrchiant o fwyngloddiau hyn. Arweiniodd gostyngiad ym maint y plwm a gynhyrchid, a dirwasgiad amaethyddol ar y cyd â mwy o fecaneiddio ar ffermydd, at ostyngiad graddol yn y boblogaeth o’r uchafbwynt a gyrhaeddwyd ym 1871. Y ffermydd a bythynnod anghyfannedd a’r mwyngloddio plwm segur oedd y dystiolaeth amlycaf i’r gostyngiad hwn. Fodd bynnag, nid arweiniodd y ddibyniaeth uwch ar beiriannau ar ffermydd at bobl yn rhoi’r gorau ar raddfa fawr i ffermio ar yr ucheldiroedd, er i gaeau a phadogau yn gysylltiedig â bythynnod anghyfannedd gael eu gadael. Ers 1961 bu cynnydd araf yn y boblogaeth. Chwyddwyd y patrwm cyffredinol hwn o gynnydd wedi’i ddilyn gan ostyngiad o ddiwedd y 19eg ganrif ym mhlwyfi ucheldirol yr ardal astudiaeth, lle y ceir y rhan fwyaf o’r plwm wrth gefn a lle’r oedd llawer mwy o erwau o dir agored na thir ffermio amgaeëdig yn y 18fed ganrif. Mewn un plwyf, sef Llanfihangel-y-Creuddyn, cynyddodd y boblogaeth o 800 ym 1801 i 1800 ym 1861, dim ond i ddisgyn o dan 500 erbyn 1961.

Anheddu canoloesol a modern
Aneddiadau anghyfannedd yn ucheldiroedd Ceredigion
Mae safleoedd anheddu gwledig anghyfannedd ucheldir Ceredigion yn niferus ac o bwys mawr i archeoleg a hanes y sir. Cartrefi ffermwyr, llafurwyr amaethyddol, bugeiliaid, torwyr mawn a mwyngloddwyr plwm ydynt. Mae’n amlwg mai prin iawn yw’r rhannau o’r sir nas anheddwyd ar un adeg; hyd yn oed ar lethrau uchaf Pumlumon mae bythynnod adfeiliedig bugeiliaid y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif i’w gweld o hyd.

Er bod aneddiadau gwledig anghyfannedd wedi tueddu i gael eu trafod mewn cyd-destun Canoloesol, mae’n amlwg bod y mwyafrif o aneddiadau anghyfannedd yn nhirwedd Ceredigion yn dyddio o’r cyfnod ôl-Ganoloesol (h.y. yr 16eg ganrif neu’n ddiweddarach). Gellir nodi rhai safleoedd penodol mewn ffynonellau dogfennol cynnar, sy’n ein galluogi i gadarnhau bod pobl yn byw ynddynt yn yr 16fed ganrif neu’r 17eg ganrif. Ymddengys llawer mwy o safleoedd ar fapiau ystad, mapiau degwm neu fapiau Arolwg Ordnans o ganol y 18fed ganrif ymlaen. Trwy’r ffynonellau hyn, gallwn ddilyn y cyfnodau anheddu diweddarach hyn ac, weithiau, y cyfnod pryd y cawsant eu gadael - ychydig a wyddom am sut y’u sefydlwyd.

Mae safleoedd anheddu anghyfannedd wedi goroesi yn y dirwedd yn bennaf fel strwythurau o gerrig sych neu strwythurau ar ffurf cloddwaith sy’n dra adfeiliedig ac sydd wedi erydu gryn dipyn. Fel arfer mae iddynt siâp unionlin, ac mae llawer yn strwythurau un adran, ond yn aml maent wedi’u hisrannu’n ddwy neu’n dair adran a gall fod nifer o estyniadau ar unrhyw ffurf wedi’u hychwanegu at y strwythur gwreiddiol. Fel arfer mae adeiladau atodol yn gysylltiedig â’r annedd, a chaeau ar ffurf gerddi neu systemau caeau o wahanol faint a chymhlethdod. Mae rhai aneddiadau anghyfannedd bellach yn cynnwys llwyfannau adeiladau gwag wedi’u torri i mewn i’r llethr, y sylfeini ar gyfer strwythurau pren yn ôl pob tebyg.

Math cyffredin o anheddiad anghyfannedd yn ucheldiroedd Ceredigion yw’r lluestau, a ddefnyddid gan fugeiliaid a arhosai ar y tiroedd comin drwy gydol y flwyddyn gyda’u preiddiau. At ei gilydd mae’r lluestai wedi’u lleoli ar derasau gwastad, naturiol, yn agos at nentydd y dyffrynnoedd cysgodol sy’n rhedeg o’r mynyddoedd. Mae lluest nodweddiadol yn cynnwys seiliau waliau’r annedd wedi’u gwneud o gerrig sych neu gloddwaith, a chae bach ynghlwm wrthynt, a ddiffinnir gan glawdd ac lle y mae ôl gweithgarwch amaethu yn aml i’w weld. Trodd y gweithgarwch amaethu ar raddfa fach hwn y lluestau yn werddonau yn y dirwedd ucheldirol a oedd fel arall yn ddiflas. Ceir strwythurau atodol yn aml o amgylch yr annedd, corlannau anifeiliaid neu ddofednod yn ôl pob tebyg, neu strwythurau storio.

Ar lawer ystyr mae’r ffermydd yn debyg i’r lluestau o ran eu holion ffisegol, ond maent ar raddfa fwy ac mae eu systemau caeau yn cael cryn dipyn yn fwy o effaith ar y dirwedd. Yn debyg i’r lluestau, mae ffermydd ucheldirol yn aml i’w cael mewn lleoliadau anghysbell, lle y mae tir pori amgaeëdig a thiroedd âr wedi’u cerfio allan o dir diffaith helaeth y mynyddoedd. Mae Fferm Claerddu, i’r gogledd o Lynnoedd Teifi, yn enghraifft o’r cyfryw ddaliad. Gyda fferm ucheldirol go iawn, efallai yr ymddengys fod y tir amgaeëdig yn eithaf bach o ran maint, ond câi maint go iawn y fferm ei fesur yn ôl ei ffridd, a gynhwysai yn aml rhwng 500 a 1,000 o erwau o rostir agored y byddai gan y fferm a neb arall yr hawl i’w pori. Er eu bod yn agored yn wreiddiol, yn ystod y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif diffiniwyd yr ardaloedd pori helaeth hyn a’u hisrannu gan ffensys gwifren.

Mae’n amlwg bod llawer o safleoedd llwyfan yr ardal wedi’u lleoli ar dir uwch sydd yn aml yn fwy agored. Ceir grwp o dri o’r cyfryw lwyfannau ar lethrau deheuol Disgwylfa Fach i’r gorllewin o gronfa ddwr Nant-y-moch, ar lethr agored sy’n wynebu’r de-orllewin. Nid yw’n glir beth yw arwyddocâd hyn, ond mae’n bosibl bod gwahaniaethau cronolegol a swyddogaethol rhwng aneddediadau’r dyffrynnoedd cysgodol a’r llwyfannau a geir ar dir uwch. Mae’n demtasiwn meddwl bod y llwyfannau yn cynrychioli safleoedd hafotai canoloesol neu wersylloedd llaethydda, a ddefnyddid yn ystod misoedd yr haf yn unig ac nad oeddent mor ddibynnol felly ar gysgod rhag y gwyntoedd mynychaf.

Nodiadau ar yr enwau lleoedd hafod, lluest a magwyr
Mae nifer o elfennau a geir mewn enwau lleoedd a all nodi lleoliad a swyddogaeth bosibl safleoedd anheddu anghyfannedd yn ucheldiroedd Ceredigion. O bryd i’w gilydd, deuir ar draws termau megis tai hirion neu hen dy. Ond y termau a geir amlaf yw Hafod, Lluest a Magwyr, elfennau mewn enwau lleoedd sy’n bwysig i’n dealltwriaeth o’r dirwedd a’r modd y mae wedi datblygu ac sy’n haeddu cael eu hesbonio ymhellach.
Mae Hafod (lluosog hafodydd) yn derm hynafol, a ddefnyddir mewn testunau cyfreithiol canoloesol, sy’n cyfeirio at borfeydd haf ucheldirol ar y tiroedd comin a’r tiroedd diffaith. Mae’n cynnwys yr elfennau ‘haf’ a ‘bod’, ac fe’i cysylltid yn draddodiadol â phori gwartheg llaeth yn yr haf, ond dechreuwyd ei ddefnyddio mewn ystyr ehangach yn ystod y canrifoedd diweddar wrth i laethydda yn ardaloedd ucheldirol Cymru ddirywio. Gelwid yr annedd yn hafoty (lluosog hafotai). Mae’r term cadw hafod wedi’i ddefnyddio hyd at y presennol ac mae’n cyfeirio at unrhyw fath o weithgarwch trawstrefa a gynhwysai bobl yn byw mewn amgylchedd ucheldirol. Mae Hafod yn elfen enw lle eithaf anghyffredin yn ucheldiroedd Ceredigion, er y ceir enghreifftiau lle y mae’r enw yn gysylltiedig ag aneddiadau anghyfannedd a allai fod yn gynnar yn Hafod Frith a Hafod Eidos, i’r dwyrain o Ystrad Fflur. Efallai fod y ddau safle yn gysylltiedig ag abaty Ystrad Fflur yn ystod y cyfnod Canoloesol. Mae defnydd arall a wneir o’r term mewn perthynas ag eiddo’r abaty yn dod o gyn-faenor fynachaidd Cwmystwyth, a oedd wedi’i rhannu’n bedwar hafod yn ystod y cyfnod Canoloesol.
Mae lluest (lluosog lluestau) hefyd yn derm hynafol a ddefnyddir mewn llyfrau cyfraith Gymreig yn dyddio o’r cyfnod Canoloesol. Cyfeiriai yn wreiddiol at wersyll neu anheddiad dros dro, nad oedd o reidrwydd yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth na hwsmonaeth. Mae lluest yn elfen gyffredin iawn mewn enwau lleoedd yng Ngheredigion, er bod y term, erbyn diwedd y 19eg, wedi’i ollwng yn aml o’r iaith lafar mewn llawer o enwau lleoedd, gan gael ei gofio mewn ffynonellau dogfennol a chartograffaidd yn unig. Yn nhafodiaith Ceredigion, mae lluest yn golygu llawer mwy na ‘gwersyll’. Gellir ei ddefnyddio naill ai ar gyfer annedd neu ar gyfer y tir sy’n gysylltiedig â’r annedd – yn arbennig wrth gyfeirio at hen fythynnod bugeilio’r ucheldiroedd a’u ffriddoedd cysylltiedig. Dangosodd ymchwil ddogfennol, cyn y 19eg ganrif, nad oedd y lluest o reidrwydd yn gysylltiedig â bugeilio yn unig. Ceir enghreifftiau o luestau Ceredigion yn cael eu disgrifio gan y term Lladin domus lactaerius (a gyfieithir fel ‘llaethdy’) mewn ffynonellau yn dyddio o’r 16fed ganrif a’r 17eg ganrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, er nad yw’n hysbys ai defaid neu wartheg a oedd yn cael eu godro yn y cyfryw leoedd. Ymddengys fod y lluest yng Ngheredigion naill ai’n amrywiad rhanbarthol ar system yr hafod neu efallai yn ddatblygiad ohoni. Mae’n amlwg i nifer fawr o’r lluestau ar y bryniau mwy anghysbell gael eu gadael yn ystod ail hanner y 18fed ganrif (Vaughan, 1966). Erbyn y 19eg ganrif, yn ddiau nodweddid y lluest gan y bythynnod lle y crafai teuluoedd bugeilio fywoliaeth ansicr braidd ar y porfeydd mynyddig.

Mae Magwr, Magwrn (lluosog Magwyr) yn enw lle a welir yn aml mewn ffynonellau dogfennol a chartograffaidd ac yn derm sy’n fyw o hyd yn nhafodiaith Ceredigion. Mae’n tarddu o’r ferf magu, sy’n awgrymu yn ôl pob tebyg bod ymdrechion wedi’u gwneud i wella a magu darn o dir, ond mae ystyr y gair heddiw mewn cyd-destun ucheldirol yn ymwneud ag adeiladau neu waliau cerrig adfeiliedig, annedd anghyfannedd fel arfer. Mae cael yr elfen magwyr mewn enwau lleoedd ucheldirol yn arwydd eithaf dibynadwy o weithgarwch ac anheddu dynol.

Rôl ystadau Ôl-Ganoloesol yn y broses o ffurfio’r dirwedd

Cawsai’r lleiniau mawr o dir a roddwyd i Ystrad Fflur ac a oedd wedi’u rhannu’n faenorau neu’n ystadau eu gweithio yn wreiddiol gan frodyr lleyg a’u gweinyddu’n uniongyrchol gan yr abaty, ond mor gynnar â’r 13eg ganrif efallai gorfododd pwysau ariannol ac economaidd yr abaty i brydlesu’r tir yn gyfnewid am renti a delid mewn arian. Roedd pob maenor wedi’i rhannu’n nifer o ffermydd ar wahân a gâi eu prydlesu’n fasnachol ac yn unigol. Mae’n debyg bod rhai o’r ffermydd yn bodoli cyn i unrhyw dir gael ei roi i’r abaty, ond byddai ffermydd eraill wedi’u sefydlu yn ystod deiliadaeth yr abaty. Pan ddiddymwyd yr abatai, llygadai’r dosbarthiadau tirfeddiannol cynnar eu tiroedd yn flysiog. Rhoddwyd tir Ystrad Fflur i Iarll Essex fel y prif dderbynnydd. Ym 1547, cafodd ei fab brydles ar y rhan fwyaf o hen diroedd yr abaty. Fodd bynnag, datganodd teuluoedd eraill eu hawl i’r bownti. Er enghraifft, o fewn Maenor Cwmystwyth roedd y teulu Herbert wedi bod yn brysur yn caffael prydlesi ffermydd a oedd wedi’u gosod ar rent gan yr abaty am 99 o flynyddoedd (Morgan 1991), gan roi iddynt gryn hawl i’r tir, ac yn Ystrad Fflur ei hun daeth John Stedman i feddiant adeiladau a thir demên yr abaty. Ffurfiai caffaeliadau’r teulu Herbert y sail i’r hyn a ddatblygai yn ddiweddarach yn ystad Hafod. Adeiladodd John Stedman blasty gerllaw’r abaty; hwn oedd cnewyllyn ystad fechan nes iddi gael ei llyncu gan ystad Nanteos pan fu farw Richard Stedman ym 1746. Tyfodd Trawscoed yn ystad fwyaf yr ardal astudiaeth yn bennaf o ganlyniad i brynu Maenorau Ystrad Fflur a ddelid gan Iarll Essex ym 1630 (Cadw 1992, 21).

Ar y cyd â’r cyfleoedd i gaffael tir ar raddfa fawr a gynigiai’r penderfyniad i Ddiddymu’r abatai, cafodd y ffaith i’r cysyniad o dir a ddelid yn breifat gael ei dderbyn o ddiwedd y cyfnod Canoloesol gryn effaith ar systemau deiliadaeth, ac effeithiau cynyddol cysylltiedig ar strwythurau economaidd ac arferion ffermio. Mae’n amhosibl bellach farnu pa elfennau o ddawn entrepreneuraidd, craffter busnes a gwleidyddol neu lwc hollol a olygaid mai rhai yn unig o’r nifer fawr o ystadau bach a gerfiwyd allan o’r systemau deiliadol Canoloesol ehangu a datblygu yn unedau llwyddiannus. Unwaith yr oeddynt wedi cyrraedd maint penodol, gallai ystadau ehangu trwy brynu daliadau eraill, cyfnewid tir, a, gan amlaf, trwy briodi’n ddoeth. Dyna pam, yn yr ardal astudiaeth erbyn y 19eg ganrif, yr oedd bron yr holl dir o fewn ystadau Trawscoed, Nanteos, Gogerddan a Hafod. Rheolai teuluoedd yr ystadau hyn y bywyd gwleidyddol a diwylliannol, ac yn bwysicach na dim ar gyfer yr astudiaeth hon, y bywyd economaidd. Am ddisgrifiad da o’r dulliau a ddefnyddiwyd gan y boneddigion i gasglu tir gweler Moore-Colyer (1998, 54-56). Rheolid gweithgarwch cloddio metel, y mae ei effaith ar y dirwedd hanesyddol yn amlwg (gweler isod), gan yr ystadau. Yn aml rheolid pa mor gyflym y câi tir ei amgáu a faint o dir a gâi ei amgáu gan ystadau hefyd (isod). Ar wahân i gynlluniau gweledigaethol enfawr Thomas Johnes yn Hafod - a gynhwysai greu tirwedd bictiwrésg, plannu coedwigoedd ar dir uchel, a chreu ffermydd newydd – ychydig o effaith a gafodd ystadau eraill ar y dirwedd hanesyddol. Cyflwynwyd gwelliannau amaethyddol yn araf, ac ni wyddom am unrhyw enghreifftiau o dai ystad ar raddfa fawr.

Yn sgîl y dirwasgiad ym myd amaeth, a diwedd gweithgarwch cloddio metel, mae’r 20fed wedi gweld system yr ystad yn dymchwel. Erbyn hyn mae ardaloedd craidd Trawscoed, Gogerddan a Hafod i gyd yn rhan o sefydliadau amaethyddol neu goedwigaeth y llywodraeth.

Tresmasu ac amgáu
Mae amgáu’r tiroedd comin, y tiroedd diffaith a’r rhostiroedd wedi cael cryn dipyn o effaith ar ucheldir Ceredigion yn ystod y ddwy ganrif a hanner ddiwethaf. O astudio gweithgarwch amgáu yn fanwl dewch i’r casgliad nad canlyniad cydweithredu gan grwp o dirfeddianwyr nac un broses, megis Deddfau Seneddol, ydoedd, ond canlyniad cryn dipyn o weithredu a phrosesau a gyflawnwyd gan unigolion a sefydliadau a symbylwyd gan boblogaethau cynyddol ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn nhri chwarter cyntaf y 19ef ganrif. Gellir cael gwybodaeth am y patrwm amgáu a oedd yn newid, yn rhannol, trwy ddadansoddi’r dirwedd ei hun. Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael trwy astudio ffynonellau dogfennol a chartograffig. Nid oes unrhyw adroddiadau cyhoeddedig da am batrymau amgáu a oedd yn newid yng Ngheredigion, ac felly ymgynghorwyd â ffynonellau uniongyrchol. Y ffynonellau mwyaf defnyddiol yw mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18eg ganrif a dechrau’r 19eg ganrif a mapiau degwm yn dyddio o’r 1840au. Mae’r mapiau hyn yn rhoi darlun o’r dirwedd pan oedd yn cael ei thrawsnewid yn ddramatig: o dirwedd a oedd at ei gilydd yn un agored i dirwedd a oedd i raddau helaeth yn un amgaeëdig. Cyn diwedd y 18fed ganrif, ar wahân i ddadansoddi’r dirwedd, mae ffynonellau dogfennol ar ffurf llawysgrifau yw’r unig dystiolaeth ar gyfer y patrwm amgáu a oedd yn newid a pha mor gyflym yr oedd tir yn cael ei amgáu, ond mae astudio’r rhain y tu hwnt i gwmpas yr astudiaeth bresennol.

Dylid ystyried yr ymdrech hon i amgáu tiroedd diffaith, tiroedd comin a rhostiroedd yng ngoleuni’r cefndir economaidd ac amaethyddol cyffredinol ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Yn ystod Rhyfeloedd Napoleon deallai’r Senedd fod angen diogelu cyflenwadau bwyd. Mae Moore-Coyler (1998, 20) yn datgan i bryder y cyhoedd gynyddu cymaint nes i oresgyn gwastraff ddod yn gyfystyr bron â goresgyn Ffrainc. Ynghyd â’r awydd hwn i gynhyrchu mwy o fwyd bu cynnydd cyson yn y boblogaeth yn y mwyafrif o blwyfi yng Ngheredigion drwy gydol y 19eg ganrif. Chwaraeodd y ddau ffactor hyn ran allweddol o ran annog amgáu tir, ac o ganlyniad crëwyd tirwedd dra gwahanol ar ddiwedd y 19eg ganrif i’r un a oedd wedi bodoli ar y dechrau.

Isod rhestrir rhai o’r prosesau a’r camau gweithredu a ddylanwadodd ar y patrwm amgáu yn ucheldir Ceredigion a pha mor gyflym y cyflawnwyd y gwaith amgáu hwnnw.

Amgáu trwy Ddeddf Seneddol
Ni chafodd gweithgarwch amgáu trwy Deddf Seneddol unrhyw effaith ddirfawr na pharhaol ar dirwedd ucheldir Ceredigion. Trwy’r deddfau hyn gallai perchenogion tir ddod i feddiant tir comin, ei amgáu, a’i ddwyn o dan reolaeth eu hystadau. Yr unig ardaloedd mawr o dir a amgaewyd oedd lleiniau o dir comin a thir diffaith uchel ym mhlwyf Llanfihangel-y-Creuddyn i’r gogledd ac i’r de o ran uchaf dyffryn Afon Ystwyth (Chapman, 1992, 53). Dyfarnwyd y Ddeddf Amgáu hon ym 1866; dangosir y darn o dir a gwmpesir ganddi ar fap yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Cerdyn CC Adnau 6). Pennwyd ardaloedd cymeriad tirwedd hanesyddol ucheldirol agored ar gyfer bron y cyfan o’r tir a gynhwysir yn y dyfarniad hwn, er bod ambell ffens wifren yn ei isrannu bellach - neu goedwigoedd a blannwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Eithriad i hyn yw ardal fach i’r gogledd o Gwmystwyth. Yma roedd anheddau o fewn caeau bach ac anheddau â chaeau bach o bobtu iddynt wedi’u diffinio ac wedi’u dangos ar y map. Aneddiadau a thresmasiadau anghyfreithlon ar y tir comin oedd y rhain. Rhoddwyd perchenogaeth y tir i’r ymsefydlwyr hynny a allai ddangos bod eu hanheddau wedi’u sefydlu dros 20 mlynedd. Cafodd eraill y cyfle i brynu eu tai, neu eu gadael.

Ardal ucheldirol arall yr ymddengys ei bod wedi’i chlustnodi at ddibenion ei Hamgáu trwy Ddeddf Seneddol oedd Mynydd Ffair Rhos . Mapiwyd yr ardal ym 1815 (LlGC Trawscoed 347) i baratoi ar gyfer y Ddeddf neu’r Dyfarniad, ond nid ymddengys i unrhyw beth arall gael ei wneud. Yn debyg i Ddyfarniad Llanfihangel-y-Creuddyn, nodwyd darnau o dir yr oedd pobl yn tresmasu yn anghyfreithlon arnynt; roedd y rhain wedi’u canoli ar bentref Ffair Rhos. Er nas amgaewyd trwy Ddeddf Seneddol, dengys rhannau is o’r ardal hon fel y’u dangosir ar fapiau degwm yn dyddio o’r 1840au a mapiau Arolwg Ordnans diweddarach, iddynt gael eu ffurfio’n gaeau mawr yn y 19eg ganrif gan denantiaid a pherchenogion tir ffermydd cyfagos – nid oedd tir uwch i’r dwyrain wedi’i amgáu, ac nis amgaewyd erioed.

Amgáu tir gan ystadau
O fewn ucheldir Ceredigion ystadau mawr megis Trawscoed, Hafod, Nanteos a Gogerddan, oedd prif ysgogwyr llawer o’r gwaith i adfer ac amgáu tir comin a thir diffaith. Ystyrid bod y rhan fwyaf o’r tir agored yn eiddo i’r Goron - ar ddechrau’r 19eg ganrif perthynai dwy ran o dair o’r tir yng Ngheredigion mewn enw i’r Goron - hawl a wrthodwyd gan lawer o berchenogion tir neu yr oeddynt yn amharod i’w chydnabod. Am nad oedd unrhyw ffiniau ffurfiol ar dir agored, ac am fod asiantiaid y Goron yn brin iawn, amgaewyd a hawliwyd tir trwy wthio ffensys terfyn yn ôl ar rostir a thir comin. Mynegwyd pryder mewn adroddiad dyddiedig 1809 fod y Goron yn cael ei difeddiannu, ond rhybuddiodd yn erbyn deddfwriaeth rhag ofn yr ‘achosid anfodlonrwydd mawr’ ymhlith perchenogion tir (Moore-Colyer 1998, 56). Mae Moore-Colyer yn nodi i’r Goron geisio datrys y sefyllfa hon mewn un o ddwy ffordd: naill ai gwerthodd ei hawliau trwy arwerthiant neu derbyniodd y tresmasiadau drwy dalu rhent rhad.

Ceir tystiolaeth o’r gweithgarwch meddiannu ac amgáu hwn ar raddfa fawr o ran tiroedd y Goron ar draws yr ardal astudiaeth gyfan ac fe’i hamlygir yn gywrain gan y gwahaniaethau clir rhwng y tir agored a ddangosir ar fapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif, a thir agored a ddangosir ar fapiau degwm dyddiedig 1840. Mae’n amlwg mai’r ardaloedd a oedd fwyaf agored i gael eu hamgáu oedd y rhai ar gyrion rhostir a thir diffaith.

Roedd yn anarferol i ffermydd newydd gael eu cerfio allan o’r tir diffaith fel rhan o’r broses amgáu hon, ond digwyddai o bryd i’w gilydd. Er enghraifft ar ddechrau’r 19eg ganrif, sefydlodd Thomas Johnes o’r Hafod oedd ag enw drwg am feddiannu tir y Goron yn rheibus, fferm arbrofol a elwid yn Fferm Newydd, Gelmast bellach, ar dir y Goron i’r gogledd o Afon Ystwyth. Erbyn hyn ceir coedwigoedd o bobtu i’r fferm. Bwriadwyd i’r fferm fanteisio ar y ffriddoedd helaeth a geid o bobtu iddi, ond fe’i cynlluniwyd hefyd at ddibenion llaethydda, a draeniwyd ac amgaewyd y tir gyda golwg ar yr ail nod hwn. Plannwyd coetir hefyd. Ar ôl i Johnes farw amcangyfrifodd arolygydd y Goron fod y tresmasiadau a’r planhigfeydd yn dod i gyfanswm o 467 o erwau (Suggett 1998-99). Mae Daren, sydd o fewn ystad Gogerddan, yn enghraifft arall. Mae map o’r ystad dyddiedig 1788 (LlGC R.M. 108) wedi’i arnodi gan law ddiweddarach sy’n dangos esgair a arferai fod yn agored wedi’i rhannu’n gaeau a dwy fferm newydd wedi’u sefydlu yno. Mae Lewis (1955, 66-67) yn disgrifio’r modd y datblygodd tirwedd Daren o 1788 i 1943.

Amgáu tir gan ffermwyr unigol
Tra roedd ystadau yn cipio tir comin, rhostir a thir diffaith yn rheibus a’u hamgáu, roedd ffermwyr bach wrthi’n ymestyn ffiniau eu tir ac yn gwella’r hyn yr oedd ganddynt trwy ei amgáu a’i ddraenio. Oni fydd wedi’i gofnodi mewn dogfennau, mae’n amhosibl, ac, at ddibenion yr astudiaeth hon, nid oes angen, gwahaniaethu rhwng tir comin, tir diffaith a rhostir a amgaewyd o dan nawdd ystad fawr, a’r tir hwnnw a amgaewyd gan ffermwr.

Am fod mapiau ystad ar gael mae’n bosibl yn aml nodi lle y cyflawnwyd gwelliannau a gwaith amgáu ar raddfa fach o fewn ffiniau ffermydd. Roedd hyn yn arfer cyffredin ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn y 19eg ganrif a phrin oedd y ffermydd a oedd yn ffinio â thir agored, neu a oedd wedi’u lleoli ger tir agored, lle na ddigwyddodd hynny. Roedd gan y mwyafrif o ffermydd a oedd yn ffinio tir comin neu rostir agored ffriddoedd ynghlwm wrthynt. Fel arfer dangoswyd ffiniau’r ffriddoedd hynny yn fanwl iawn ar fapiau ystad, er mai anaml yr ymddengys fod ganddynt ffin adeiledig ffurfiol megis gwrych, clawdd neu ffens. Byddai ffermwyr yn hel ymaith ddefaid o dir cyfagos a grwydrai ar eu ffriddoedd. Mae’n amlwg nad yw’r sefyllfa hon ond un cam i ffwrdd o godi ffensys terfyn i wahanu’r ffriddoedd hyn ac eiddo a thir comin cyfagos. Dengys map ystad o Fferm Bwlchcrwys dyddiedig 1764/65 (LlGC Nanteos 312) eiddo sydd wedi cyrraedd y cam hwn yn y broses amgáu. Dangosir ty, ymddengys fod ffin y fferm wedi’i nodi gan glawdd, gwrych neu ryw ffin ffisegol arall, ond nodir tir ffermio fel ‘Tir Agored Clir’ a ‘Mawnog’. Erbyn yr arolwg degwm mae’r ‘Tir Agored Clir’ wedi’i isrannu’n gaeau. Byddai’n ddiflas rhestru rhagor o enghreifftiau, ond gellir cyffelybu’r patrwm hwn, nad yw mor ddramatig â’r achos uchod fel arfer, â phatrymau amgáu ar lawer o ffermydd eraill y mae mapiau ystad yn bodoli ar eu cyfer, ac mae’n adlewyrchu’r dulliau a ddefnyddiwyd gan ffermwyr i raddol wella eu heiddo.

Tai-unnos – aneddiadau sgwatwyr
Y math mwyaf hysbys o weithgarwch amgáu, yr un yr ysgrifennwyd y mwyaf amdano a’r un a drafodwyd fwyaf, o bell ffordd yw tresmasiadau ac aneddiadau ar raddfa fach ar dir agored – sef y tai-unnos neu aneddiadau sgwatwyr fel y’u gelwir – er bod y tir dan sylw yn fach o gymharu â thir y Goron a feddiannwyd yn anghyfreithlon gan ystadau mawr. Gellir priodoli’r holl sylw y maent wedi’i ddenu i’r drwgdeimlad a enynnent ymhlith ffermwyr a gwynai fod eu hawliau i dir comin dan fygythiad, o asiantiaid y Goron a weithredai i ddiogelu ac amddiffyn hawliau’r Goron dros dir agored, ac o ystadau mawr a’u hasiantiaid a ystyriai fod sgwatwyr at ei gilydd yn ddiog a feddiannai dir y tu allan i system ddeiliadol yr ystad.

Yn erbyn poblogaeth gynyddol a system ystad anhyblyg a oedd yn amharod i greu ffermydd newydd neu na allai wneud hynny – yn cyfateb i’r ffermydd newydd a grëwyd gan ystad Hafod ac ystad Gogerddan y cyfeiriwyd atynt uchod ceir ffermydd a adadwyd yn yr un cyfnod – nid yw’n fawr o syndod i’r tlodion defreintiedig geisio ymsefydlu ar dir ymylol, naill ai dros dro nes i fferm fwy o faint ddod ar gael, neu yn barhaol gan arfer amaethyddiaeth ymgynhaliol a gweithio ar ffermydd a gwneud gwaith crefft i ychwanegu at eu hincwm (Knowles 1998, 81).

Mae gweithgarwch sgwatio wedi’i ddisgrifio gan nifer o ysgrifenwyr (Lewis 1955, 65; Knowles 1995, 79-82; Moore-Coyler 1995, 21-23), ond disgrifiad o’r 1790au gan gyfreithiwr o Lundain a ddyfynnir gan Morgan (1997, 210) sy’n crynhoi’r gweithgarwch orau:

Mae’r Parti sy’n Tresmasu yn casglu ei berthnasau a’i Gyfeillion i’w Gynorthwyo ac maent yn codi Strwythur ac yn amgáu Darn bach o Dir rhwng machlud yr haul a chodiad yr haul drannoeth. Mae’n rhaid iddo fyw yn y Strwythur hwn heb ei newid mewn unrhyw ffordd am flwyddyn ac os na tharfwyd arno yn ystod y cyfnod hwnnw mae’n hawlio’r cyfryw dir a Strwythur fel ei eiddo rhyddfraint, mae’n tynnu’r Adeilad syml cyntaf i lawr ac yn adeiladu un arall sy’n fwy parhaol ac yn graddol dresmasu ar ei Gaeau.

Cododd anheddiad sgwatwyr yng Nghnwch Coch wrychyn y teulu Vaughan o Drawscoed; un o’r cwynion oedd ‘eu bod yn gytiau diflas yr olwg, y gellid eu gweld o’r Ffenestri o flaen y ty’. Mae Morgan (1997, 209-213) yn disgrifio’r ymdrechion aflwyddiannus i droi’r sgwatwyr hyn allan. Ar lawer cyfrif roedd Cnwch Coch a gynhwysai anheddiad cnewyllol bach o fythynnod a thai wedi’u lleoli mewn tirwedd o gaeau pori amgaeëdig a choedwigoedd gwasgaredig ar lethr bryn gweddol isel yn anheddiad sgwatwyr annodweddiadol. Cynhwysai’r anheddiad sgwatwyr nodweddiadol fythynnod a thai wedi’u gwasgaru yn afreolaidd â bwlch o 50m i 200m rhyngddynt dros dir uchel o ansawdd gwael a oedd yn aml wedi’i orchuddio â brwyn neu’n fawnaidd ar ymylon y tir amaethu neu’r tu hwnt iddo. Mae Rhos y Gell, Brynafan, rhan o Ysbyty Ystwyth, Ffair Rhos, rhannau o Ystumtuen a Thai Unnos yn enghreifftiau o’r cyfryw aneddiadau. Mae pobl yn dal i fyw mewn tai ym mhob un o’r enghreifftiau uchod heblaw am yr un olaf. Ar ddiwedd yr 20fed ganrif mae’r ardaloedd hyn bellach wedi dod yn lleoedd dymunol i fyw ynddynt naill ai fel cartrefi parhaol neu fel ail gartrefi, ac maent yn cynnig rhywfaint o unigedd mewn lleoliadau deniadol, i’r ymwybyddiaeth fodern, heb y baich o fod ynghlwm wrth leiniau mawr o dir ffermio. Mae llawer o’r cyn-anheddau sgwatwyr hyn wedi’u moderneiddio neu wedi’u hailadeiladu yn ddiweddar neu maent wrthi’n cael eu moderneiddio neu eu hailadeiladu, tuedd a adlewyrchir yn y cynnydd diweddar yn y boblogaeth a welwyd o fewn plwyfi ucheldir Ceredigion.

Er bod yr aneddiadau sgwatwyr gwasgaredig hyn yn hawdd eu nodi yn y maes ac o fapiau, mae’n anos, os nad yn amhosibl, nodi ty unnos ar ei ben ei hun neu un neu ddau o dai unnos, heb gryn dipyn o ymchwil gartograffig a dogfennol, sydd y tu hwnt i gwmpas yr astudiaeth bresennol. Ar adegau bu’n bosibl nodi’n betrus fwthyn sgwatwyr unigol o fapiau, ond mae’n debyg bod llawer, os nad y cyfan, o’r math hwn o anheddiad wedi’u sefydlu ac wedi’u gadael cyn y gellid eu harolygu a’u mapio. Yn yr achosion hyn y cofnod archeolegol yw’r unig dystiolaeth.

Amgáu caeau wedi’u hisrannu
Ni wnaed unrhyw astudiaeth gynhwysfawr o gymeriad, ffurf, dyddiad, maint a dosbarthiad systemau caeau isranedig yng Ngheredigion. Nid oes amheuaeth eu bod yn bodoli yn yr iseldiroedd, yn arbennig ar hyd y llain arfordirol, ac mae’r system yn Llan-non sydd wedi goroesi yn rhannol yn tystio i hynny (Davies 1973, 526-27, Jones 1985, 165-67). Y tu allan i’r iseldiroedd, mae daliadau isranedig, cymysg a gwasgaredig wedi’u disgrifio gan Davies (1973, 522-24) yn Llandewibrefi, ond mae’n ansicr pa mor nodweddiadol yr oedd system gaeau’r ganolfan golegol hon o eiddo Esgob Tyddewi ar draws yr ucheldiroedd, er bod enghreifftiau eraill wedi’u nodi yn ystod yr astudiaeth hon.

Dengys map ystad dyddiedig 1781 (LlGC Gweithredoedd Trawscoed 5, Cyfres IV, Cyf 1) yn dwyn y teitl ‘Map o Diroedd Cymysg Sputty’ gae isranedig bach. Yn ddiau mae’n rhaid bod y cae hwn a leolir yn union i’r de o bentref Ysbyty Ystwyth ar uchder o 220-250m, sy’n gymharol uchel, yn rhan o system a arferai fod yn llawer mwy o faint, system a oedd wedi cael ei chyfuno i greu un neu ragor o ddaliadau a’i hamgáu erbyn diwedd y 18fed ganrif. Mae’n debyg bod yr ardal dirwedd i’r dwyrain yn arfer bod yn rhan o’r system isranedig hon, a’r un i’r gorllewin o bentref Ysbyty Ystwyth hefyd. Erbyn arolwg degwm 1848 roedd pob arwydd o’r system isranedig wedi’i ddileu. Mae’r dirwedd fodern yn cynnwys caeau bach o dir pori garw, coedwigoedd bach a blannwyd a thir pori wedi’i wella; ac nid yw morffoleg yn rhoi unrhyw arwydd i nodi p’un a ddatblygodd y patrymau caeau presennol o system gaeau isranedig ai peidio.

Cofnodir cae isranedig ar fapiau llawysgrif dyddiedig 1791 a 1819 (LlGC Cyf 45, 70; Cyf 36, 151) ar lethrau esmwyth yn wynebu’r gogledd-orllewin a’r de-orllewin rhwng 200m a 320m o uchder i’r dwyrain o Dregaron. Fel y system yn Ysbyty Ystwyth, mae’n debyg bod y cae isranedig hwn yn arfer bod yn rhan o ardal llawer mwy helaeth o leiniau cymysg a oedd wedi cael ei chyfuno a’i hamgáu erbyn y cyfnod pryd y dechreuwyd mapio ystadau ar raddfa fawr. Efallai bod modd ail-lunio maint y gyn-system isranedig hon, o leiaf yn rhannol, trwy ddadansoddi mapiau ystad a’r map degwm yn fanwl, ond mae hyn y tu hwnt i gylch gwaith yr astudiaeth bresennol. Mae’r mapiau ystad dyddiedig 1791 a 1819, a map degwm 1845 yn cofnodi bod y system yn dirywio. Erbyn 1845 dim ond ychydig o leiniau a oedd ar ôl. Nid oes unrhyw arwydd o’r cyn-leiniau i’w gweld yn y dirwedd o gaeau rheolaidd eu siâp a welir heddiw.

Yn ogystal â’r dystiolaeth bendant o fapiau a ddisgrifiwyd uchod, mae rhai nodweddion morffolegol yn perthyn i’r dirwedd adeiledig sy’n awgrymu bod systemau caeau isranedig i’w cael gynt, ond na ellir eu cadarnhau heb ymchwil ddogfennol. O bobtu i bentref Llanfihangel-y-Creuddyn mae tirwedd yn cynnwys tir pori amgaeëdig, tirwedd nad yw wedi newid fawr ddim ers iddi gael ei mapio ar raddfa fawr yn gyntaf yn ystod arolwg degwm 1847. Gall caeau cul hir amgaeëdig awgrymu iddynt ddatblygu o system o lein-gaeau neu gaeau isranedig. Gellir tybio i’r dirwedd yn ardal Capel Bangor a’r dirwedd i’r gorllewin o Dregaron ddatblygu yn yr un modd.

Adeiladau
Yn gyffredinol
Ar wahân i strwythurau modern, mae’r mwyafrif o’r adeiladau yn nhirwedd ucheldir Ceredigion yn dyddio o’r 19eg ganrif, gyda’r mwyafrif ohonynt wedi’u hadeiladu yn y cyfnod rhwng canol a degawdau olaf y ganrif honno. Ceir sawl categori o adeilad; ffermdai; adeiladau amaethyddol; anheddau gwledig anamaethyddol; tai pentref; tai diwydiannol; ac adeiladau diwydiannol. Maent i gyd yn rhannu’r un tarddiad ac maent wedi’u hadeiladu o garreg leol. Yn wir nid yw’n hawdd canfod p’un a oedd rhai anheddau yn rhai amaethyddol neu’n rhai diwydiannol yn bennaf. Efallai bod y rhaniad yn ddiystyr, am ei bod yn debyg bod y mwyafrif o dyddynwyr yr ardal yn gweithio yn dymhorol yn y diwydiant cloddio plwm, a gwnâi llawer o weithwyr diwydiannol waith fferm i ychwanegu at eu henillion.

Fel rhannau eraill o orllewin Cymru ychydig iawn o adeiladau a godwyd yn ystod yr 20fed ganrif cyn y 1960au/1970au. Ceir eithriadau megis yr ystad fach o dai ym Mhonterwyd, a grwpiau bach o dai cymdeithasol mewn cymunedau eraill. Ers y 1970au mae tai newydd wedi’u hadeiladu ar raddfa gynyddol, ac erbyn hyn yn yr hyn a oedd yn eu hanfod yn bentrefi yn dyddio o’r 19eg ganrif, megis Llanafan, tai a adeiladwyd yn ystod y 10-15 mlynedd diwethaf yw’r elfennau amlycaf.

Nodweddir patrwm anheddu’r ardal yn bennaf gan ffermydd a bythynnod gwasgaredig gydag aneddiadau diwydiannol yn dyddio o’r 19eg ganrif megis Pontrhydfendigiad, Ponterwyd a Goginan wedi’u gwasgaru yn eu plith. Tregaron yw’r unig enghraifft o anheddiad cnewyllol cynharach, ond nid yw’n anheddiad mawr ac mae’r adeiladau ar y cyfan yn dyddio o’r 19eg ganrif. Mae’r tai unnos – aneddiadau sgwatwyr – yn haeddu sylw arbennig. Mae’r tai hyn a godwyd mewn clystyrau i ffurfio cymunedau o dai wedi’u lleoli’n agos at ei gilydd ar dir ymylol yn elfen nodedig yn nhirwedd ucheldir Ceredigion. Mae rhai o’r cymunedau hyn yn anghyfannedd, megis yr un yng Ngwar Castell, gadawyd rhai yn rhannol megis yn Rhos-y-Gell, ac mae rhai yn dal i weithredu fel yng Nghnwch Coch.

Deunyddiau
Mae bron pob un o’r tai hyn wedi’i adeiladu o garreg leol. At ei gilydd nid yw’r garreg sydd ar gael yn ucheldir Ceredigion - tywodfeini a cherrig llaid Siluraidd - yn amrywio fawr ddim o’r dwyrain i’r gorllewin ac o’r gogledd i’r de. Yn y mwyafrif o adeiladau gwledig nid yw ansawdd y garreg yn arbennig o dda, am ei bod yn fach ac ar ffurf slabiau bras. Fodd bynnag, yn yr ychydig o ffermydd boneddigion a’r ffermdai mwy o faint ceir carreg o ansawdd gwell, wedi’i sgwario’n fras ac mewn haenau mwy rheolaidd. Tua diwedd y 19eg ganrif mae gwaith maen o ansawdd gwell yn aml i’w weld yn y tai diwydiannol, sy’n adlewyrchu efallai broses fwy systematig a mwy diwydiannol o echdynnu cerrig adeiladu. Mae brics a ddefnyddiwyd ar gyfer pyst ffenestri a drysau yn eithaf cyffredin ar y tai diwydiannol yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Fodd bynnag, prin yw’r adeiladau a godwyd yn gyfan gwbl o frics ac fe’u cyfyngir at ei gilydd i ddiwedd y 19eg ganrif ac i ran ogledd-orllewinol bellaf yr ardal ger Aberystwyth lle y cafodd y brics eu mewnforio neu eu gweithgynhyrchu. Mae’n dra thebygol bod y rendr sment (gweler isod) dros lawer o adeiladau, ond yn arbennig ar fythynnod gwledig – yn cuddio adeiladwaith o bridd clom. Mae’n debyg bod y math hwn o adeiladwaith yn cydredeg â thraddodiad yr adeilad cerrig, ac fe’i defnyddid yn bennaf ar gyfer adeiladau llai o faint. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio pridd clom ar gyfer yr adeiladau hyn yn y cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif a defnyddiwyd carreg yn ei le. Rhestrir rhai enghreifftiau sydd wedi goroesi.

Mae’r gwaith maen wedi’i adael yn foel, wedi’i wyngalchu (wedi’i baentio yn fwy diweddar) neu wedi’i rendro â sment (stwco). Nid yw gwyngalch/paent dros waith maen ar dai er ei fod yn eithaf cyffredin yn ucheldir Cymru, yn arferol yng ngorllewin Cymru, lle mai cerrig moel neu stwco yw’r gorffeniad a ffefrir. Mae adeiladau amaethyddol carreg bron bob amser wedi’u gadael yn foel, ond o’u hastudio’n fanwl datgelir bod y mwyafrif o’r rhain wedi’u gwyngalchu ar un adeg. Prin iawn yw’r rhai sydd wedi goroesi yn y cyflwr hwn. Nid yw’r defnydd o stwco yn hytrach na cherrig moel yn ymwneud ag oedran na statws tai. Felly ceir enghreifftiau cynnar o dai ‘yn yr arddull Sioraidd’ yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a chanddynt waliau wedi’u plastro â stwco a waliau o gerrig moel yn ogystal â thai llai o faint. Fodd bynnag, mae bythynnod, yn arbennig enghreifftiau unllawr, bob tro wedi’u rendro â sment a hynny, oherwydd ansawdd gwael eu gwaith maen yn ôl pob tebyg.

Mae enghreifftiau o’r traddodiad o godi adeiladau o haearn rhychog, sy’n dyddio o ddiwedd y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif bron wedi diflannu, ar wahân i’r orsaf reilffordd ym Mhontarfynach, ychydig o dai a bythynnod, a rhai adeiladau diwydiannol sydd bellach yn adfeiliedig iawn.

Llechi wedi’u cloddio’n fasnachol o ogledd Cymru yw’r deunydd toi cyffredinol. Nid oes fawr ddim tystiolaeth o fathau eraill o doeau. Fodd bynnag, dengys hen ffotograffau fod gwellt yn gyffredin ar un adeg, o leiaf ar fythynnod a thai llai o faint.

Arddulliau adeiladu
Er bod y mwyafrif llethol o adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif, ceir olion traddodiad adeiladu cynharach. Mae adeiladwaith ar ffurf nenfforch y tu mewn i’r hyn a ymddengys yn dy modern o’r tu allan yn Llanfihangel-y-Creuddyn yn enghraifft o’r fath, ac mae drychiadau isel, hir sawl ty yn rhan ogleddol ucheldir Ceredigion yn awgrymu iddynt gael eu hadeiladu cyn y 19eg ganrif. Mae’n dra thebygol hefyd y gall golwg llawer o dai yr ymddengys eu bod yn perthyn i’r 19eg ganrif guddio elfennau mewnol cynharach megis grisiau ym mhen y simnai.

Mae gan dai o bob math – ffermdai, bythynnod ac adeiladau diwydiannol – nodweddion yn perthyn i’r arddull Sioraidd bonheddig a’r traddodiad brodorol. Prin yw’r adeiladau yn yr arddull Sioraidd pur a chanddynt gynllun llawr rheolaidd, drychiadau cymesur, ystafelloedd uchel, ffenestri uchel mawr, a manylion pensaernïol megis bondo bargodol, simneiau uchel a fframiau drysau, ond maent i’w cael, megis ffermdy yng Nghwmsymlog dyddiedig 1852. Yn cydredeg â’r arddull Sioraidd, ond yn dyddio o gyfnodau cynharach, ceir adeiladau yn y traddodiad brodorol. Mae enghreifftiau o’r adeiladau hyn, na ddylanwadwyd arnynt gan yr arddull Sioraidd, yn brin ac fel arfer mae ganddynt gynllun llawr afreolaidd (sy’n adlewyrchu’r statws gwahanol rhwng y cyntedd a’r parlwr yn ystod cyfnodau cynharach), a ffasâd blaen isel, hir, ffenestri bach wedi’u trefnu’n anghymesur ac un simnai y mae’n amlwg ei bod yn fwy o faint na’r llall. Yn y ddau draddodiad mae tai gwledig fel arfer yn eithaf bach, gyda dau lawr, drws ffrynt canolog, ac un ffenestr uwchben y drws a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall. Mae’r mwyafrif o’r tai yn benthyca o’r arddull Sioraidd a’r traddodiad brodorol, ac mae’r nodweddion cymysg yn creu graddiad tra manwl o fathau o dai a elwir yn frodorol Sioraidd. Felly mae’n gyffredin gweld tai isel hir a chanddynt un simnai fawr ac un simnai fach (nodweddion brodorol), ond ffenestri mawr wedi’u gosod yn gymesur (yr arddull Sioraidd). Erbyn diwedd y 19eg ganrif mae olion y traddodiad brodorol bron wedi diflannu ac eithrio yn y bythynnod mwyaf sylfaenol a godwyd gan y preswylwyr eu hunain. Erbyn y dyddiad hwn mae gan hyd yn oed tai diwydiannol, y ceir yn aml mai dyma’r math olaf o adeilad i golli nodweddion brodorol, ystafelloedd â nenfydau uchel a ffasadau cymesur o ffenestri uchel. Tua diwedd y 19eg ganrif gellir gweld dylanwad arddull Gothig diwedd oes Fictoria mewn tai ger Aberystwyth. Ceir nifer o ‘filâu’ mawr ar wahân yma, a oedd yn gysylltiedig yn ôl pob tebyg â’r diwydiant cloddio. Dylanwadodd arddull cul, uchel nodedig adeiladau Gothig, a chanddynt ffenestri a simneiau uchel rywfaint ar rai ffermdai yn yr ardal yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif, ond mae’r rhain yn brin.

Mae adeiladau ucheldir Ceredigion yn adlewyrchu cymdeithas economaidd-gymdeithasol eang y 19eg ganrif o’r aristocratiaid a’r perchenogion tir cyfoethog megis ty neo-gothig Thomas Johnes yn Hafod yn dyddio o ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif (a ddymchwelwyd erbyn hyn), i lawr i fythynnod sgwatwyr unllawr bach a godwyd gan y preswylwyr eu hunain. Rhwng y ddau begwn hyn ceir y mwyafrif llethol o anheddau – ffermydd boneddigion, ffermydd ystad, tai tyddynwyr a gweithwyr diwydiannol.

Yn debyg i’r anheddau, mae’r adeiladau fferm yn dyddio o’r 19eg ganrif, a sefydlwyd y mwyafrif yn ail hanner y ganrif yn hytrach nag yn yr hanner cyntaf. Mae gan ffermydd ystad a ffermydd y boneddigion resi mawr o adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig, gan gynnwys ysguboriau, beudai, stablau a siediau troliau wedi’u trefnu’n lled-ffurfiol o amgylch iard ac weithiau wedi’u lleoli ychydig i ffwrdd o’r ty. Ceir y math hwn o gynllun fel arfer yn yr ardaloedd is o dir ffermio brasach megis Fferm yr Abaty yn Ystrad Fflur. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod gan rai o’r ffermydd mwy o faint ar gyrion yr ucheldiroedd uchel adeiladau allan wedi’u trefnu yn yr un modd, er eu bod ar raddfa lai. Mae ffermydd a chanddynt ddwy neu dair rhes fach o adeiladau allan wedi’u trefnu yn anffurfiol mewn perthynas â’r ty yn fwy nodweddiadol o ucheldir Ceredigion. Mae tyddynnod yn gyffredin hefyd. Fel arfer mai dim ond ganddynt un rhes o adeiladau allan sydd ganddynt, yn cynnwys dim mwy na beudy a storfa fach fel arfer, sydd yn aml ynghlwm wrth y ty ac yn yr un llinell ag ef. Ceir enghreifftiau o adeiladau allan fferm o bob maint yn y mwyafrif o ardaloedd tirwedd hanesyddol sy’n cynnwys tir ffermio. Yn sgîl cyfuno ffermydd i greu unedau mwy o faint ac oherwydd dulliau ffermio sy’n newid ni ddefnyddir llawer o adeiladau allan (cymaint â 30% efallai) bellach. Yn wahanol i ardaloedd eraill yng ngorllewin Cymru ni wnaed fawr ddim ymdrech i ddod o hyd i ddefnydd arall ar gyfer yr adeiladau hyn, megis eu haddasu’n llety.

Ceir tai diwydiannol ar draws ucheldir Ceredigion i gyd, fel arfer mewn cymunedau bach megis Goginan a Phontrhydfendigaid. Teras byr o dai a adeiladwyd ar yr un pryd yw’r norm, ond ceir tai pâr, tai ar wahân a therasau o dai mewn gwahanol arddulliau. Ceir rhai yn yr arddull brodorol, ond mae gan y mwyafrif nodweddion cryf yn perthyn i’r arddull Sioraidd. Mae gan y mwyafrif o’r tai gweithwyr hyn ddau lawr, ond ceir terasau o fythynnod unllawr ac mae enghreifftiau arbennig o dda i’w gweld yng Nghapel Bangor.

Prin yw’r adeiladau diwydiannol, yn arbennig o’r diwydiant cloddio plwm, sydd wedi goroesi ac eithrio fel adfeilion. Serch hynny, gall yr adfeilion hyn fod yn nodweddion tirwedd pwysig, megis yr adeiladau cerrig yn Frongoch a Chwmystwyth. Un eithriad yw grwp o adeiladau ym Mhont-rhyd-y-groes, gan gynnwys swyddfa mwynglawdd ac ysgol fwyngloddio, ac adeiladau’r amgueddfa fwyngloddio yn Llywernog.

Adeiladau modern
Mae anheddau modern yn dod yn nodwedd fwyfwy cyffredin yn nhirwedd ucheldir Ceredigion. Mae’r mwyafrif yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif a dechrau’r 21ain ganrif. Ceir tai a byngalos mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau yn y mwyafrif o ardaloedd, ar wahân i rannau uchel yr ucheldiroedd.

Mae rhai adeiladau amaethyddol modern yn fawr iawn. Fodd bynnag, mae’r rhain yn dueddol o fod wedi’u lleoli ar ffermydd sydd wedi caffael tir ychwanegol ac nid ydynt yn arferol. Yn gyffredinol bydd gan ffermydd gweithredol un neu ddau o adeiladau amaethyddol modern o faint canolig. Nid yw llawer o ffermydd yn gweithio bellach ac felly nid oes ganddynt unrhyw adeiladau modern.

Newidiadau a datblygiadau ym myd amaeth
Disgrifiwyd uchod y patrwm amgáu a oedd yn newid a pha mor gyflym yr amgaewyd y tir. Ni fwriedir disgrifio yma y patrwm o arfer amaethyddol a oedd yn newid o’r 18fed ganrif i’r 20fed ganrif, am fod ysgrifenwyr eraill wedi ymgymryd â’r dasg hon (yn arbennig gweler Moore-Colyer 1988). Bu effaith arfer amaethyddol a oedd yn newid ar y dirwedd hanesyddol yn llai dramatig na’r effaith a gafodd y patrwm amgáu a oedd yn newid arni. Fodd bynnag, mae un cynllun amaethyddol yn dyddio o’r 20fed ganrif sy’n haeddu sylw arbennig am ei fod wedi cael cryn effaith ar dirwedd yr ucheldir nid yn unig yng Ngheredigion, ond ar dirwedd ucheldir Prydain i gyd. Dyma Gynllun Gwella Bryniau Cahn, a luniwyd gan R G Stapledon o Orsaf Fridio Planhigion Cymru yn y 1930au (Colyer 1982, 100-104).

Cynllun Stapledon oedd trawsnewid ucheldir anghynhyrchiol yn dir pori o safon. Gyda hyn mewn golwg cafodd rodd o £3000 y flwyddyn gan Syr Julian Cahn. Ym 1933, aeth Gorsaf Fridio Planhigion Cymru yn gyfrifol am 2200 o erwau o dir diffaith ar ystad Hafod ger Pontarfynach a 2700 o erwau ychwanegol o ffridd uwch, ac aeth ati i’w drawsnewid. Roedd y canlyniadau yn drawiadol - llwyddwyd i gynhyrchu bum gwaith cymaint o sylwedd sych bwytadwy. Mae’r broses barhaus o drawsnewid rhostir a thir diffaith ucheldirol yn borfa gynhyrchiol yn deillio’n uniongyrchol o waith Stapledon. Ar wahân i goedwigoedd, nid oes yr un broses sydd wedi gwneud mwy i newid y dirwedd ucheldirol hanesyddol na gwelliannau yn seiliedig ar ymchwil Stapledon. Gellir gweld y canlyniadau ar draws yr ucheldiroedd i gyd.

Cysylltiadau
Penderfynir ar lwybrau yn yr ardal astudiaeth gan dopograffi. Mae coridor llwybr pwysig yn rhedeg o’r gogledd i’r de gan ddilyn dyffryn Teifi i’r de a chwm Rheidol i’r gogledd. I’r gorllewin o’r llwybr hwn nodweddir y dirwedd gan dir amgaeëdig cymharol isel yn cynnwys pentrefi a ffermydd gwasgaredig a gysylltir gan rwydwaith cymhleth o ffyrdd, lonydd a llwybrau. I’r dwyrain ceir tir agored, tenau ei boblogaeth. Yn croesi’r ardal fynyddig hon o’r gorllewin i’r dwyrain ceir nifer o ffyrdd sy’n cysylltu iseldiroedd arfordirol Ceredigion â chanolbarth a dwyrain Cymru a Lloegr. Datblygodd aneddiadau pwysig wrth gyffyrdd y ffyrdd mynydd a’r llwybr yn rhedeg o’r gogledd i’r de. O’r de i’r gogledd yr aneddiadau hyn yw Tregaron, Pontrhydfendigiad, Ffair Rhos, Ysbyty Ystwyth/Pontrhydygroes, Pontarfynach a Phonterwyd. Oherwydd gostyngiad yn lefel y drafnidiaeth ffordd yn sgîl dyfodiad y rheilffyrdd yng nghanol y 19eg ganrif graddol erydwyd marchnad a swyddogaethau eraill y prif aneddiadau yn yr astudiaeth.

Ffyrdd cyn cyfnod y ffyrdd tyrpeg
Mae’r prif lwybr o’r gogledd i’r de, a ddilynir gan ffordd bresennol y B4343, wedi colli llawer o’i bwysigrwydd blaenorol, ond mae ei ddylanwad yn y gorffennol yn amlwg, a’i hynafiaeth hefyd. Ar ei lwybr saif tref Ganoloesol Tregaron a oedd hefyd yn ganolfan eglwysig bwysig cyn y goresgyniad Normanaidd, pentref Pontrhydfendigaid ac Abaty Ystrad Fflur gerllaw, Ffair Rhos, lleoliad ar gyfer ffeiriau Canoloesol a ffeiriau diweddarach, eglwys a phentref Ysbyty Ystwyth, anheddiad mwyngloddiol cysylltiedig Pontrhydygroes, yr anheddiad twristiaeth a ddatblygodd ym Mhontarfynach o ddiwedd y 18fed ganrif, y capel canoloesol a’r safle cynhanes yn Ysbyty Cynfyn, a phentref ôl-ganoloesol Ponterwyd. I’r gogledd o Bonterwyd nid yw’r llwybr naturiol yn glir, ond arferai’r ffordd barhau ar draws tir mynyddig i Fachynlleth.

Nid oes amheuaeth nad yw’r llwybrau mynyddig yn rhedeg o’r gorllewin i’r dwyrain yn rhai hynafol hefyd am fod y mwyafrif yn dilyn coridorau llwybrau naturiol; gan redeg yn gyntaf mewn dyffrynnoedd dwfn â llethrau serth cyn dringo esgair y mynydd a leolir i’r dwyrain. Erbyn y Cyfnod Canoloesol byddai nifer o’r llwybrau hyn wedi bod yn cael eu defnyddio gan Abaty Ystrad Fflur i gyrraedd ystadau ucheldirol helaeth yr abaty, ond maent fwyaf enwog am gael eu defnyddio gan borthmyn i symud gwartheg a da byw eraill o ganolfannau casglu megis yn Nhregaron a Ffair Rhos i farchnadoedd yn Lloegr. Roedd lleoliad agos at ffordd fynydd yn elfen hanfodol yn y broses o anheddu a defnyddio ucheldir agored ar gyfer pob cyfnod. Mae pwysigrwydd y ffyrdd hyn wedi lleihau yn yr 20fed ganrif wrth i boblogaeth yr ucheldiroedd uchel hyn gostwng – erbyn hyn nid oes ond dyrnaid o ffermydd mynydd uchel cyfannedd.

Ffyrdd tyrpeg
Cafodd gweithgarwch adeiladu ffyrdd tyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif gryn effaith ar batrymau anheddu a masnach. Sefydlwyd pentrefi newydd ar lwybrau’r ffyrdd tyrpeg; dirywiodd pentrefi a oedd wedi’u lleoli gryn bellter o’r ffyrdd newydd hyn yn llwyr neu’n gymharol. Ym 1770, adeiladwyd ffordd dyrpeg o Aberystwyth i Bontarfynach, drwodd i Gwmystwyth a thros y mynyddoedd i Raeadr Gwy (Colyer 1984, 176-182; Lewis 1955, 42-45), gyda changen o Bontarfynach drwodd i Ddyffryn Castell a throsodd i’r gogledd-ddwyrain. Disodlwyd y ffyrdd tyrpeg hyn gan ffordd newydd a adeiladwyd ym 1812 o Aberystwyth i Bonterwyd a’r tu hwnt. Cafodd y ffyrdd newydd hyn gryn effaith ar y dirwedd; chwaraeodd gwestai a adeiladwyd ym Mhonterwyd i wasanaethu’r teithiwr ran hollbwysig yn y broses o ddatblygu ac ehangu’r pentref, ac felly yng Ngoginan hefyd, ac ar hyd y ffyrdd newydd sefydlwyd aneddiadau newydd ac ehangodd hen aneddiadau.

Rheilffyrdd a thramffyrdd
Pwysleisiwyd pwysigrwydd y coridor llwybr o’r gogledd i’r de ym 1867 pan agorodd Rheilffordd Manceinion a Milford ei llinell o Lanbedr Pont Steffan i Aberystwyth. Yr effaith bwysicaf ar y dirwedd oedd y gangen ddatblygu a ddarparodd i Dregaron, ond mae’n rhaid gosod hyn yn erbyn yr effaith andwyol a gafodd ar ddiwydiant masnachu a gyrru gwartheg y dref. Ym 1893, bu agor llinell fwynau i’r gogledd o’r ardal astudiaeth yn fodd i ddatblygu nifer o fwyngloddiau a wasanaethid ganddi ymhellach, ond menter fyrhoedlog ydoedd. Agorodd ail linell fwynau ym 1902 i wasanaethu mwyngloddiau yng Nghwm Rheidol yn bennaf, ond gweithredai hefyd fel llwybr twristiaeth yn ystod misoedd yr haf. Mae’n dal i redeg fel rheilffordd dwristiaeth, sydd wedi helpu Pontarfynach yn ei therfynfa ddwyreiniol, i ddatblygu nes creu’r anheddiad a welir heddiw.

Diwydiant
Cloddio metel
Mae’n debyg ei bod yn gywir nodi nad yw’r un agwedd ar Geredigion wedi cael ei hastudio, ei harchwilio a’i chofnodi’n fwy na’r diwydiant cloddio metel. Mae toreth o lenyddiaeth gyhoeddedig ar y pwnc yn amrywio o bapurau yn ymwneud ag archwiliadau archeolegol o safleoedd unigol, i hanes cyffredinol a chofnodion ffotograffig - er enghraifft: Lewis (1998); Bick (1974, 1983, 1988); Hughes (1988) a Carr a Schöne (1993). Nid diben yr astudiaeth hon yw darparu crynodeb o hanes gweithgarwch cloddio plwm yng Ngheredigion, ac ni fwriedir iddi fod yn ganllaw i’r olion archeolegol diwydiannol ychwaith. Diben yr adran thematig fyr hon yw darparu cyflwyniad byr ar y modd y mae’r diwydiant cloddio metel wedi effeithio ac wedi dylanwadu ar y dirwedd hanesyddol.

Dangosodd archwiliadau archeolegol ym Mryn Copa, Cwmystwyth fod y mwynglawdd hwn yn dyddio o’r Oes Efydd (Timberlake 1995). Honnwyd bod lefelydd Rhufeinig yng Nghwmystwyth hefyd a buwyd yn gweithio’r mwynglawdd yn y Cyfnod Canoloesol. Ym 1690 torrwyd monopoli Cymdeithas Frenhinol y Mwyngloddiau ar gloddio mwyn arianddwyn a dechreuodd buddsoddiadau preifat lifo i mewn i’r diwydiant, gan greu cyfleoedd newydd, mwyngloddiau newydd a swyddi newydd (Lewis 1998, 160). Bu cyfnodau o ffyniant yr un mor gyffredin â chyfnodau o ddirwasgiad, roedd yr amgylchiadau y buwyd yn cloddio o danynt yn llafurus ac roedd trafnidiaeth bob amser yn broblem mewn ardal mor anghysbell, ond er gwaethaf yr anawsterau hyn parhaodd y mwyngloddiau i weithredu tan y 1930au.

Ar wahân i rai safleoedd yng ngogledd pellaf y sir, lleolir pob un o’r mwyngloddiau metel yng ngogledd Ceredigion o fewn yr ardal astudiaeth. Cafodd y mwyngloddiau hyn gryn effaith ar y dirwedd hanesyddol: prin iawn yw’r ardaloedd tirwedd hanesyddol nad ydynt yn cynnwys tystiolaeth ffisegol o weithgarwch cloddio, ac mae llawer yn meddu ar gryn dipyn o olion. Tomenni sbwriel yw’r olion mwyaf cyffredin, ac mewn llawer o achosion y rhai amlycaf a mwyaf dramatig, sy’n gysylltiedig â mwyngloddiau plwm, ond yn aml ceir strwythurau eraill hefyd: tai injan, peiriannau prosesu, tai mathru, pyllau olwynion, lloriau naddu, siafftiau a lefelydd, ac incleins a thramffyrdd. Oherwydd dibyniaeth anarferol y diwydiant ar rym dwr, mae ffrydiau, argaeau a chronfeydd dwr i’w gweld ym mhob man yn nhirwedd ucheldir Ceredigion. Rhoddir adroddiad am yr olion cloddio yn y disgrifiadau o bob un o’r ardaloedd tirwedd hanesyddol perthnasol.

Cafodd llwyddiant neu fethiant y diwydiant cloddio metel effaith uniongyrchol ar lefelau poblogaeth ac effaith gysylltiedig ar y patrwm anheddu, y seilwaith trafnidiaeth a therfynau amaethu ac amgáu tir yn ardal ucheldirol Ceredigion. Nododd Aitchison a Carter (1998, 8) y gellir priodoli cynnydd cyflym yn y boblogaeth mewn tri phlwyf yng ngogledd Ceredigion yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, wedi’i ddilyn gan ostyngiad yr un mor gyflym, i gynnydd ym maint y plwm a oedd yn cael ei gynhyrchu a’r ffaith bod y gwythiennau wedi’u dihysbyddu a bod mwyngloddiau wedi cau ar ôl hynny. Mae graff o gynhyrchiant mwyn plwm o Geredigion yn y 19eg ganrif yn adlewyrchu graff o’r boblogaeth. Gadael bythynnod, tai a rhoi’r gorau i amaethu ardaloedd ymylol yw rhai o effeithiau ffawd newidiol y diwydiant cloddio plwm sydd wedi ymgorffori yn y dirwedd hanesyddol.

Oherwydd lefelau uchel o wenwyndra gwnaed gwaith ar lawer o domenni sbwriel ac olion cysylltiedig at ddibenion gwella’r amgylchedd. Gall cryn dipyn o beirianneg fod yn gysylltiedig â rhaglenni diheintio, diwenwyno ac adfer, sy’n arwain fel arfer at symud neu dirlunio tomenni sbwriel. Effaith hyn yw gwneud olion cloddio yn llai gweladwy yn y dirwedd, er y cymerir gofal i sicrhau na ddifrodir olion archeolegol pwysig. Mae Goginan, Cwmsymlog, Cwmerfyn a Chwmbrwyno yn fwyngloddiau lle y gwnaed gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf i wella’r amgylchedd.

Torri mawn
Darparai mawn ffynhonnell tanwydd bwysig ar gyfer trigolion Ceredigion tan ddechrau’r 20fed ganrif, pan y’i disodlwyd yn y diwedd fel tanwydd domestig gan lo. Mae cyfran fawr o arwynebedd tir y sir wedi’i gorchuddio gan fawn, a’r fawnog fwyaf yw Cors Caron sy’n ymestyn dros tua 1067 ha. Ar draws llawer o ucheldiroedd Ceredigion ac mewn pocedi anghysbell i ffwrdd o’r tir uwch, mae ardaloedd sylweddol o fawn i’w cael o hyd.

Mae mawn ucheldiroedd Ceredigion wedi bod yn ymgasglu ers diwedd y rhewlifiant diwethaf. Gall dadansoddi’r dyddodion mawn hyn ddweud cryn dipyn wrthym am hanes amgylcheddol y rhanbarth dros y 12,000 o flynyddoedd diwethaf. Maent yn hynod o bwysig i’r archeolegydd am eu bod yn cadw sylwedd organig megis paill, olion planhigion a choed, yn ogystal ag olion anifeiliaid ac olion dynol hyd yn oed (darganfuwyd corff dynol wedi’i gladdu mewn mawn, tua 2 droedfedd islaw’r wyneb, yng Ngwnnws ym 1811 ac fe’i claddwyd yn eglwys y plwyf Ystrad Meurig).

Efallai bod cysylltiad agos rhwng y cynnydd yn y defnydd o fawn fel tanwydd domestig a’r ffaith bod stociau coed yn prinhau yn ystod y cyfnod canoloesol. Erbyn yr 17eg ganrif, yn ddiau mawn oedd y brif ffynhonnell tanwydd mewn llawer o ardaloedd ucheldirol, a dengys mapiau ystad yn dyddio o’r 18fed ganrif fod ‘mawnogydd’ (lleiniau lle y torrid mawn ar gyfer tanwydd) yn gyffredin yng Ngheredigion. Yn wir, ystyrid bod yr hawl i dorri mawn yr un mor bwysig i’r bobl gyffredin a’r hawl i bori anifeiliaid ar diroedd comin helaeth Mynyddoedd Cambria (Owen 1990).

Nid oedd mawnogydd yn lleiniau amgaeëdig o dir, darnau o dir mynyddig oeddynt (fel arfer ar dir comin) lle y caniateid torri mawn ar gyfer tanwydd naill ai trwy draddodiad neu gyda chaniatâd arglwydd y faenor. Mae mawnogydd yn hawdd eu gweld yn y dirwedd ucheldirol heddiw. Y prif arwydd bod mawn wedi’i dorri fel arfer yw craith gilgantaidd ar draws y dirwedd, cymaint â 40-50m ar draws, sy’n creu cam tua 1m o uchder ar draws y darn hwnnw o dir. Gellir gweld llawer o doriadau a phantiau o fewn ardal mawnog, sydd yn aml yn ymestyn dros lain fawr o dir. Roedd y llwybrau y llusgid y llwythi trwm o fawn ar slediau ar eu hyd ar draws y tiroedd comin ac i lawr i’r ffermydd a’r pentrefi yn aml wedi’u hadeiladu’n dda a gellir eu dilyn o hyd mewn llawer o ardaloedd ucheldirol. Mae’r Derw, ger Ponterwyd, yn fawnog ucheldirol amlwg a ddangosir ar fapiau o ystad Nanteos yn dyddio o ganol y 18fed ganrif. Gellir dilyn nifer o lwybrau o ffermydd ar hyd cwm Rheidiol i fyny at y fawnog, yr ymddengys y gwasanaethai drigolion y dyffryn rhwng Ponterwyd a Phontarfynach.

Nid oedd pob mawnog ar diroedd comin yr ucheldir. Torrid lleiniau o fawn ar dir is hefyd ar gyfer tanwydd. Cors Caron, sy’n llenwi cyfran sylweddol o lawr Dyffryn Teifi, yw’r enghraifft fwyaf trawiadol o hyn. Fodd bynnag, roedd y mwyafrif o gorsydd iseldirol yn gymharol fach ac oherwydd gwelliannau mewn dulliau rheoli tir draeniwyd mwy a mwy o’r corsydd hyn a’u troi yn dir ffermio gwerthfawr ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn y 19eg ganrif.

Coetir a Choedwigoedd
Rheoli coetir ac ystadau

Many hills therabout (Strata Florida) hath bene well woddid, as evidently by old rotes apperith, but now in them is amlost no woode. The causses be these; first the wood cut doun was never copisid, and this hath beene a great cause of destruction of wood through Wales. Secondly, after cutting doun of woodys the gottys hath so bytten the young spring that it never grew but lyke shrubbes. Thirddely men for the nonys destroied the great woddis that thei shuld not harborow theves… a hille side Clothmoyne, wher hath bene great digging for leade, the melting wherof hath destroid the woddes that sumtime grew plentifulli therabout

Dyna a ysgrifennodd John Leland yn ei deithlyfr enwog yn dyddio o’r 1530au (Toulmin-Smith 1964, III, 118).

Gellir priodoli coetir a ddangosir ar fapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif ar lethrau serth dyffryn Afon Reidiol, ac ar lethrau is dyffryn Afon Teifi ger Abaty Ystrad Fflur i weithgarwch rheoli ystad. Gorweddai rhannau o Gwm Rheidiol o fewn ystad Trawscoed, y mae dogfennau yn ymwneud â hi yn cofnodi gweithgarwch rheoli ystad o ddechrau’r 18fed ganrif (Edlin 1959, 19), tra daeth tir yn Ystrad Fflur i feddiant y teulu Stedman cyn dod yn rhan o ystad Nanteos ar ôl hynny. Mae llawer o’r coetir hwn i’w weld o hyd heddiw. Thomas Johnes o Hafod oedd yr arloeswr mawr mewn plannu coedwigoedd ar dir uchel. Disgrifiodd Linnard (1970) y dulliau plannu, y ffensys a rhywogaethau’r cannoedd ar filoedd o goed a blannwyd gan Johnes yn ystod degawdau olaf y 18fed ganrif a blynyddoedd cyntaf y 19eg ganrif. Mae olion ei waith plannu i’w gweld o hyd yn Hafod, nid yw ei leiniau mawr o goedwigoedd ucheldirol wedi goroesi. Esgeuluswyd llawer gan berchenogion diweddarach yr ystad, er i gyfran fawr oroesi ar dir uchel i’r gogledd o fferm Gelmast i mewn i’r 20fed ganrif, ond fe’i torrwyd i lawr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac erbyn hyn mae wedi’i hailblannu gan y Comisiwn Coedwigaeth (Edlin 1959, 12).

Coedwigo yn ystod yr 20fed ganrif
Yn yr 20fed ganrif, ni chafodd yr un broses arall effaith mor ddramatig ar dirwedd hanesyddol ucheldir Ceredigion na choedwigaeth. Gorchuddiwyd llethrau serth â choetir a thrawsnewidiwyd lleiniau helaeth o rostir agored yn goedwigoedd ucheldirol. Nodir yr ethos, y dulliau a’r technegau wrth wraidd y broses goedwigo hon yn un o lyfrau’r Comisiwn Coedwigaeth dyddiedig 1959 (Edlin). Canolbwyntiai gwaith coedwigo cynnar cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd ar dir cymharol is a llethrau serth, ac yn aml cynhwysai blannu hen goetiroedd ystadau a llenwi’r bylchau rhwng hen goedwigoedd sefydledig o goed collddail. Mae llethrau serth dyffrynnoedd Afonydd Rheidiol, Brwyno ac Arian, ac Afon Ystwyth yn enghreifftiau o’r cyfryw waith plannu. Gwnaed rhywfaint o waith plannu ar lefelau uwch, megis y gwaith plannu a ddechreuwyd ym 1929 yn Nharenig. Roedd gwaith plannu diweddarach a wnaed yn y 1950au, y 1960au a’r 1970au wedi’i ganolbwyntio ar rostir agored uchel, gan gynnwys: llethrau dyffrynnoedd yn ogystal â thir uchel ystad Hafod a gaffaelwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth ar ddechrau’r 1950au; plannwyd rhagor o goedwigoedd yn Nharenig a phlannwyd coedwigoedd ar leiniau anghysbell yn rhan uchaf Cwm Rheidiol ac yn yr ardal enfawr a elwir yn Fforest Tywi.