LLAIN ARFORDIROL WDIG I ABER BACH
![LLAIN ARFORDIROL WDIG I ABER BACH](images/goodwickaberbach.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SM 891382
ARDAL MEWN HECTARAU: 292
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad o fewn ffiniau modern Sir Benfro sy’n
cynnwys llain arfordirol gul ac sy’n rhan o gantref canoloesol Pebidiog
neu ‘Dewisland’. Delid Pebidiog yn uniongyrchol gan Esgobion
Tyddewi, a bu’n graidd i’r Esgobaeth ers 1028 pan y’i
rhoddwyd (neu y’i cadarnhawyd) gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed
cyn y Goresgyniad Eingl-Normanaidd, i’r Esgob Sulien. Gorwedda o
fewn plwyfi Llanwnda a Sain Nicolas. Yn hanesyddol tir ymylol fu’r
llain arfordirol hon erioed, ac mae’n cynnwys ardal helaethach o
dir comin ffurfiol, Comin Gwaun Ciliau (gyda Chomin Waun Morfa a Chomin
Garn Nelu). Amgaewyd ardal fechan o dir comin ym Mhwynt Crincoed ym 1815.
Fodd bynnag, mae ardal helaethach o dir agored i’r gorllewin yn
Ogof-y-drwg, yn gorwedd uwchben system gaeau nas dyddiwyd ond a allai
ddyddio o’r cyfnod cynhanesyddol - ymhlith y cyn-safleoedd anheddu
yn yr ardal hon ceir dwy gaer bentir arfordirol sy’n dyddio o’r
Oes Haearn. Honnwyd bod cloddwaith mawr hirsgwar ar Ynys Meicel yn safle
eglwysig sy’n dyddio o ddechrau’r Oesoedd Canol, ond mae’n
debyg ei fod yn dyddio o gyfnod diweddarach a bod iddo darddiad seciwlar.
Efallai mai Ciliau yw’r ‘Kelle’ a gofnodwyd mewn arolwg
ym 1326, pan oedd yn cynnwys 1 gweddgyfair o dir âr. Er hynny, tir
pori garw yw’r defnydd a wnaed yn bennaf o’r tir yn yr ardal
hon yn y gorffennol. Prin yw’r mannau addas i lanio cychod bach
ar hyd yr arfordir hwn o glogwyni uchel, ond glaniodd llu o oresgynwyr
Ffrengig ar draeth Carregwastad yn ystod y cyrch (aflwyddiannus) olaf
i oresgyn Prydain ym 1797. Prif swyddogaeth yr ardal bellach yw fel coridor
i Lwybr Arfordir Sir Benfro, rhwng y tir ffermio amgaeedig ac ymylon y
clogwyni arfordirol. Fodd bynnag, mae sawl nodwedd adeiledig sy’n
dyddio o’r cyfnod diweddar yn amlwg iawn yn y dirwedd. Cynigiwyd
goleudy Pen Strwmbwl ar Ynys Meicel gyntaf gan Trinity House ym 1825 ond
nis adeiladwyd tan 1908-9. Mae’n bosibl iddo ddisodli goleudy llai
o faint a adeiladwyd gerllaw ar y tir mawr.
![LLAIN ARFORDIROL WDIG I ABER BACH](images/goodwickaberbach2.jpg)
Disgrifiadau ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal gymeriad dirwedd hanesyddol hon yn
cynnwys tua 13 cilomedr o glogwyni arfordirol uchel, agored a saif yn
nannedd y gwynt, a phen clogwyn yn ymestyn o borthladd Wdig yn y dwyrain
i Aber Bach yn y gorllewin. Mewn mannau mae’r clogwyni’n codi
i dros 100m o uchder. Arfordir digroeso ydyw heb yr un lanfa ddiogel.
Ceir strimyn o dir garw wedi’i wasgu rhwng y clogwyn a’r tir
fferm. Mae’r llain hon o dir yn gul ar y cyfan, ac mae’n amrywio
rhwng ychydig fetrau yn unig a 50m o led ond mewn ambell leoliad, fel
Ogof-y-drwg, mae’r llain yn ymestyn i ychydig o gannoedd o fetrau
o led. Mae tir garw a phrysgwydd Gwaun Ciliau wedi’u cynnwys yn
yr ardal hon. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn ymestyn ar hyd y strimyn
hwn o dir. Ni cheir unrhyw adeiladau y mae pobl yn byw ynddynt yn barhaol
yn yr ardal hon. Bellach mae goleudy Pen Strwmbwl wedi’i awtomeiddio
ac mae ei olau i’w weld am 29 milltir. Saif y goleudy ynghyd â
chyn-fwthyn y ceidwad mewn clostir â wal o’i amgylch; mae’r
cyfadail carreg gwyngalchog hwn yn elfen nodedig yn y dirwedd. Ceir hefyd
fastiau radio gerllaw ym Mhen Caer. Ymhlith yr adeiladau eraill ceir sawl
safle yn dyddio o’r Ail Ryfel Byd. Adeiladwaith brics yw’r
amlycaf o’r rhain, a leolir gerllaw goleudy Pen Strwmbwl, sydd bellach
wedi’i addasu’n guddfan adar. Mae hefyd nifer o adeiladau
gorsaf radar gerllaw Fferm Pant-y-Beudy. Mae amrywiaeth o safleoedd archeolegol
ac maent yn cynnwys: mannau darganfod fflint sy’n dyddio o’r
cyfnod mesolithig neu’r oes efydd; crug crwn yn dyddio o’r
oes efydd; dwy gaer bentir yn dyddio o’r oes haearn (gan gynnwys
safle cofrestredig Dinas Mawr); system gaeau nas dyddiwyd; y safle ar
Ynys Meicel a chwningar bosibl.
Mae’r llain arfordirol yn ardal gymeriad hanesyddol
ag iddi ffiniau pendant. Mae ei helfennau hanesyddol yn gwbl wahanol i’r
elfennau hynny a welir yn y dirwedd gyfagos o ffermydd a chaeau.
Ffynonellau: Hague 1994; map degwm Plwyf Llanwnda
1845; Ludlow 2002; Llyfrgell Genedlaethol Cymru 14229/6; Western Telegraph
15/08/2001
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |