GARNWNDA
![GARNWNDA](images/garnwnda.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SM 932391
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 9
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro sy’n
cynnwys bryncyn creigiog ychydig i’r de o bentrefan Llanwnda, ym
mhlwyf Llanwnda. Yn ystod y cyfnod canoloesol roedd yr ardal yn rhan o
gantref canoloesol Pebidiog, yr oedd iddo’r un ffiniau â chantref
diweddarach Dewsland a grëwyd ym 1536. Fe’i delid yn uniongyrchol
gan esgobion Tyddewi, a bu’n graidd i’r esgobaeth ers 1028
pan y’i rhoddwyd (neu y’i cadarnhawyd) gan Rhys ap Tewdwr,
sef brenin Dyfed cyn y Goresgyniad Eingl-Normanaidd, i’r Esgob Sulien.
O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob Tyddewi, cyflwynwyd systemau
Eingl-Normanaidd o lywodraethu ffiwdal a gweinyddu eglwysig i Bebidiog
ac ymestynnai ardal gymeriad Llanwnda dros Villa Grandi, y cyfeiriwyd
ati fel maenor ym 1326 ond nid yn yr ystyr Eingl-Normanaidd, ffurfiol
efallai. Ar ben hynny ymddengys i systemau tirddaliadaeth Cymreig barhau,
er iddynt gael eu haddasu mewn gwahanol ffyrdd, tra parhaodd llawer o
hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal hyd at ddechrau’r 20fed ganrif.
Mae’n debyg mai ardal/tir?? agored a fu’r ardal gymeriad hon
erioed ac ni wnaed unrhyw ddefnydd dwys o’r tir erioed. Fe’i
dangosir yn ei ffurf bresennol ar fap degwm 1845, ac mae’n bosibl
ei bod wedi’i dal cyn hynny fel tir diffaith anffurfiol neu dir
comin. Fodd bynnag, roedd yn ganolbwynt i weithgarwch defodol ac angladdol
cynhanesyddol, a amlygir gan feddrod siambr neolithig a maen hir yn dyddio
o’r oes efydd, y gellir eu gweld yn glir o henebion tebyg yn ardal
gymeriad Garn Fawr i’r gorllewin.
![GARNWNDA](images/garnwnda2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal gymeriad dirwedd hanesyddol hon, sydd
ond yn cynnwys naw hectar o rostir creigiog yng nghanol tir amaeth, yn
fach iawn ond mae’n nodedig er hynny. Mae Garnwnda yn codi fel brigiad
creigiog o rostir i dros 160m. Er ei bod yn nodedig, prin yw’r elfennau
tirwedd hanesyddol, ac fe’i nodweddir gan ei natur agored. Nid oes
unrhyw adeiladau. Mae safleoedd archeolegol yn cynnwys beddrod siambr
neolithig cofrestredig, maen hir yn dyddio o’r oes efydd a maen
hir posibl.
Mae hon yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol nodedig
ac mae’n cyferbynnu â’r dirwedd o ffermydd a chaeau
o’i hamgylch.
Ffynonellau: Map degwm plwyf Llanwnda 1845
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |