Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Pencaer >

 

GARN FAWR

GARN FAWR

CYFEIRNOD GRID: SM 901391
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 102

Cefndir Hanesyddol

Llain o dir o fewn ffiniau modern Sir Benfro sy’n ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin ar draws yr esgair uchaf o fewn penrhyn Pen Caer. Mae’r ardal gymeriad hon yn cynnwys tystiolaeth bod y tir yn cael ei ddefnyddio yn gynnar iawn ar ffurf aneddiadau amddiffynedig, henebion defodol a systemau caeau. Nodweddir y dirwedd gan gerrig brig hindreuliedig, ynghyd â nifer fawr o feini dyfod rhewlifol, a oedd yn ffynhonnell cerrig hwylus ar gyfer y cryn nifer o feddrodau siambr neolithig. Cynrychiolir yr oes efydd gan feini hirion a chrugiau crwn. Fodd bynnag, tirwedd weddilliol yr oes haearn yw elfen amlycaf yr ardal o hyd. Mae bryngaer amgloddiog fawr Garn Fawr, tua phen gorllewinol yr esgair, wrth graidd nifer o ffiniau ymledol o gerrig sych yr ymddengys, yn rhannol o leiaf, eu bod yn cynrychioli system gaeau gyfoes. Ceir nifer o fryngeyrydd llai o faint yn ymestyn ar hyd yr esgair. Yn ystod y cyfnod canoloesol roedd yr ardal yn rhan o gantref canoloesol Pebidiog, yr oedd iddo’r un ffiniau â chantref diweddarach Dewisland a grëwyd ym 1536. Fe’i delid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a bu’n graidd i’r Esgobaeth ers 1028 pan y’i rhoddwyd gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y Goresgyniad Eingl-Normanaidd, i’r Esgob Sulien. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob Tyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraethu ffiwdal a gweinyddu eglwysig i Bebidiog. Ymestynnai ardal gymeriad Garn Fawr dros Villa Grandi, y cyfeiriwyd ati fel maenor ym 1326 (pan fu Pebidiog yn destun arolwg manwl) ond nid yn yr ystyr Eingl-Normanaidd, ffurfiol efallai. Ar ben hynny ymddengys fod systemau tirddaliadaeth Cymreig wedi parhau er eu bod wedi’u haddasu mewn ffyrdd amrywiol, a bu i nifer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal barhau hyd at ddechrau’r 20fed ganrif. Nid oes fawr ddim tystiolaeth uniongyrchol o aneddiadau canoloesol yn yr ardal gymeriad ei hun, ond mae cyflwr ffiniau Garn Fawr yn awgrymu bod yr ardal wedi’i rhannol ffermio o leiaf am fod y ffiniau wedi’u cadw yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n bosibl bod gweddill yr ardal yn cynnwys tir pori garw, a oedd at ei gilydd yn agored. Dengys map ystad dyddiedig 1837 bod eiddo anghysbell yn dal llein-gae cul yn yr ardal, sy’n awgrymu ei bod yn dir comin ar un adeg a isrannwyd ar ôl hynny ymhlith yr eiddo cyfagos. Cofnodwyd yr eiddo anghysbell dan sylw, sef Tai-bach, ei hun yn yr 17eg ganrif. Mae’r caeau mawr, rheolaidd eu siâp a welir heddiw yn nodweddiadol o weithgarwch amgáu tua diwedd y cyfnod ôl-ganoloesol, er bod y ffiniau wedi’u hadeiladau o gerrig sych yn yr un ffordd. Nid yw’r system gaeau wedi newid fawr ddim ers canol y 19eg ganrif. Tystir i ansawdd y tir sydd at ei gilydd yn ymylol ac yn wael gan enwau dwy fferm - mae’r naill enw, ‘North Pole’, yn awgrymu i’r fferm gael ei sefydlu ar ddiwedd y 19eg ganrif tra ei bod yn amlwg bod y llall, ‘Llys-y-fran’ yn enghraifft ôl-ganoloesol o eironi, er iddi gael ei chofnodi mor gynnar â 1640.

GARN FAWR

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Garn Fawr yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol gymharol fach sy’n ymestyn dros fan uchaf penrhyn Pen Caer. Mae’n cynnwys nifer o bocedi cydgysylltiedig, bach o rostir garw, creigiog, yn gymysg ag ambell gae o dir pori wedi’i wella, ar grib esgair sy’n ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin. Mae man uchaf yr ardal gymeriad sydd dros 210m o uchder yn y pen gorllewinol gerllaw’r môr lle y lleolir bryngeyrydd Garn Fawr, Garn Fechan ac Ysgubor Fawr yn dyddio o’r Oes Haearn (y mae pob un ohonynt yn Heneb Gofrestredig). Mae rhagfuriau enfawr y ceyrydd sydd wedi’u hadeiladu o gerrig llanw a phridd yn nodwedd amlwg yn y dirwedd. Mae waliau isel a chloddiau caregog sy’n ymledu o’r ceyrydd hyn yn rhannu’r rhostir yn gaeau bach ac maent ymhlith yr ychydig olion sydd wedi goroesi o gaeau cynhanesyddol sy’n uniongyrchol gysylltiedig â safleoedd anheddu yn ne-orllewin Cymru. Ar lefelau is yn yr ardal gymeriad dirwedd gyfagos sy’n ffinio â’r rhostir cedwir y ffiniau hynafol hyn yn y system gaeau fodern. Ar y rhostir is i’r dwyrain o’r ceyrydd, mae rhagor o waliau sych a chloddiau o gerrig llanw sy’n dymchwel yn tystio i’r ffaith bod yr ardal hon hefyd wedi’i rhannu’n gaeau, efallai yn y cyfnod hanesyddol, a’i bod yn cael ei ffermio ar raddfa fwy na heddiw. Mae ffensys gwifren bellach yn rhedeg ar hyd yr ardal. Ac eithrio ychydig bach o gaeau o dir pori wedi’i wella, tir garw yw’r cyfan erbyn hyn. Nid oes unrhyw adeiladau cyfannedd yn yr ardal, a’r unig strwythurau sy’n sefyll yw strwythurau sydd yn ôl pob tebyg yn adeiladau brics yn dyddio o’r Ail Ryfel Byd yn y cyfrwy rhwng Garn Fawr a Garn Fechan. Yn ogystal â’r bryngeyrydd, ceir nifer o feddrodau siambr, meini hirion a chrugiau crwn yn yr ardal hon. Mae Carn Fawr yn atyniad ymwelwyr poblogaidd, ac mae nifer o lwybrau yn ymdroelli i fyny at ei chopa.

Mae Garn Fawr yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol ar wahân. Mae’n cyferbynnu â thirwedd is o gaeau a ffermydd o’i hamgylch.

Ffynonellau: Archifdy Sir Benfro D/JP/193; Charles 1992; Hogg 1973; Map degwm plwyf Llanwnda 1845; Rees 1932; Willis-Bund 1902

MAP GARN FAWR

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221