|
DIGWYDDIADAU A FFURFIODD DIRWEDD HANESYDDOL DYFRFFORDD
ABERDAUGLEDDAU
Rhaniadau gweinyddol hanesyddol
Cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd roedd system weinyddol gorllewin Cymru
yn seiliedig ar deyrnasoedd bach neu wledydd, a sefydlwyd cyn yr 8fed
ganrif OC. Lleolir yr ardal gofrestr o fewn gwlad Dyfed a ddaeth yn rhan
o deyrnas fwy sylweddol Deheubarth ar ddechrau’r 11eg ganrif. O
fewn pob gwlad roedd unedau gweinyddol llai o faint neu ystadau a elwid
yn faenorau ac mae gennym dystiolaeth bod y maenorau hyn wedi bodoli ers
y 9fed ganrif. Cynhwysai’r rhain nifer o ‘drefgorddau’
neu drefi. Erbyn yr 11eg ganrif cyflwynwyd dwy haen weinyddol ychwanegol
- sef y cantref, grwp o 100 tref, gyda phob un ohonynt wedi’i isrannu’n
nifer o gymydau, gyda’r trefi wedi’u grwpio ynddynt. Daeth
‘saith cantref Dyfed’ - sef Pebidiog, Cemaes, Emlyn, Rhos,
Daugleddau, Gwarthaf a Phenfro - yn undeb a ddathlwyd mewn hanes a chwedloniaeth.
Mae’n debyg, yn Nyfed, nad oedd systemau ffurfiol o dirddaliadaeth
a gweinyddiaeth frodorol wedi’u sefydlu cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd.
Fodd bynnag, bodolai canolfannau statws, yn lleyg ac yn eglwysig, ac o’r
canolfannau eglwysig mae gennym gryn dystiolaeth parthed saith ‘ty
esgob’ Dyfed.
Dechreuodd ymgyrch yr Eingl-Normaniaid i wladychu Sir Benfro ym 1093
pan ymosododd Roger de Montgomery, Iarll Normanaidd Amwythig, ar Ddyfed,
a sefydlu castell ym Mhenfro. O’r ganolfan hon roedd ei fab, Arnulf,
erbyn 1100 wedi gorchfygu’r rhan fwyaf o Gantref Penfro (yn rhan
ddeheuol y sir bresennol), Cantref Rhos (i’r gorllewin o Hwlffordd),
Cantref Daugleddau (yn rhan ganolog y sir bresennol), a ad-drefnwyd yn
sir o dan Harri I – a ddaeth yn ddiweddarach yn un o freniniarllaethau
ieirll Penfro.
Ni fu fawr o newid yn y rhaniadau tiriogaethol a fodolai cyn y goresgyniad
Eingl-Normanaidd. Roedd i arglwyddiaeth Hwlffordd yr un ffiniau fwy neu
lai â Chantref Rhos, ac roedd yr un peth yn wir am Dungleddy a Daugleddau
a Pembroke a Phenfro, er bod Cwmwd Arberth yn cael ei weinyddu fel arglwyddiaeth
ar wahân; sef Arberth. Yn yr un modd dilynai’r cantrefi ôl-ganoloesol
yr un ffiniau ac eithrio yn ne Sir Benfro, lle’r oedd Penfro wedi’i
rannu’n ddau gantref - sef Castellmartin ac Arberth. Fodd bynnag,
ym mhob ffordd arall roedd yr ardal wedi’i Seisnigo. Plannodd Harri
I nifer fawr o ymsefydlwyr, o Orllewin Lloegr a Fflandrys, yn fwriadol,
yn yr ardal, ac ad-drefnwyd y weinyddiaeth frodorol yn llwyr. Er yr ymddengys
i Harri I geisio sefydlu gweinyddiaeth yn seiliedig ar fodelau sifil Seisnig,
canlyniad creu’r arglwyddiaeth balatin ororol oedd system faenoraidd,
wedi’i ffiwdaleiddio, o dirddaliadaeth yn seiliedig ar arglwyddiaethau
demên a ffïoedd marchog. Mae hyn wedi arwain at y prif batrwm
anheddu o fewn yr ardal, sef aneddiadau cnewyllol – pentrefi, pentrefannau
a ffermydd mawr - yn seiliedig ar y treflannau maenoraidd. Parhaodd elfennau
o’r system yn hir ar ôl y Ddeddf Uno. Roedd arglwyddiaeth
Arberth, er enghraifft, yn dal i weithredu ei llysoedd maenoraidd ffiwdal
ymhell i mewn i’r 17eg ganrif.
Safleoedd anheddu a safleoedd angladdol a defodol
cynhanesyddol
Mae safleoedd anheddu o’r oes haearn a safleoedd angladdol a defodol
neolithig ac o’r oes efydd yn gyffredin, ond mae’r ffaith
eu bod wedi’u gwasgaru ar draws yr ardal a’u bod yn gymharol
fach mewn perthynas ag elfennau eraill o’r dirwedd yn golygu nad
ydynt yn rhai o nodweddion amlycaf yr ardal. O’r ddau fath o heneb,
bryngeyrydd o oes yr haearn yn dyddio o’r mileniwm cyntaf CC yw’r
rhai mwyaf amlwg. Yn aml ceir bod canrifoedd o ddefnydd amaethyddol wedi
gwneud bryngeyrydd a leolir ar dir ffermio ym mherfedd gwlad yn fwy lefel
ac nad ydynt mor drawiadol â’u cefndryd a adeiladwyd ar ymyl
clogwyni ar lan y môr, lle y mae ceyrydd megis Great Castle Head
yn Dale a Tower Point yn Sain Ffraid yn rhai o’r elfennau tirwedd
hanesyddol mwyaf anferth ac amlycaf o’r llain arfordirol. Mae safleoedd
angladdol a defodol neolithig ac o’r oes efydd, sy’n dyddio
o’r 2il fileniwm a’r 3ydd mileniwm CC, ac sy’n cynnwys
beddau siambrog, crugiau crynion a meini hirion ymhlith y safleoedd archeolegol
mwyaf cyffredin a phwysicaf yn yr ardal. Mae eu presenoldeb mud yn tystio
i gymuned ffermio sefydlog dros 5000 o flynyddoedd yn ôl. Fodd bynnag,
dim ond yn Rhoscrowdder lle y mae’r hyn y tybir ei fod yn llwybr
hynafol a adwaenir fel ‘The Ridgeway’ yn mynd heibio i sawl
grwp o henebion cynhanesyddol y mae safleoedd angladdol a defodol yn ffurfio
elfen gref o’r dirwedd hanesyddol.
Trefi canoloesol
Trefi yw’r dystiolaeth ffisegol fwyaf parhaol o’r goresgyniad
Eingl-Normanaidd yn Ne Cymru. Strategaeth hanfodol i’r arglwyddi
gorchfygol oedd adeiladu cestyll, y sefydlwyd aneddiadau y tu allan iddynt
ar gyfer mewnfudwyr a fyddai yn y pen draw yn dod i reoli’r ardal
yn economaidd. Mae dwy wladychfa o’r fath o fewn yr ardal gofrestr.
Nid ymddengys i dref Penfro gael ei chynllunio gan sylfaenwyr ei chastell,
a sefydlwyd gan Roger de Montgomery a’i fab Arnulf ym 1093, o bosibl
ar safle llys cynharach. Sefydlwyd y dref o ganlyniad i Harri I atafaelu’r
ardal, ar ôl gwrthryfel Arnulf ym 1100. Roedd Harri yn arbennig
o awyddus i sefydlogi’r rhan hon o dde-orllewin Cymru fel un o ddaliadau’r
goron, ac i’r diben hwnnw cyflwynodd nifer fawr o fewnfudwyr a rhoddodd
siarter i Benfro. Cynigiodd y siarter hon y telerau mwyaf hael i annog
ymsefydlwyr posibl i ddod i Benfro. Sefydlodd hefyd fathdy ym Mhenfro
cyn 1130. Roedd y dref wedi cael ei waliau erbyn y 14eg ganrif ac mae’r
waliau hyn, gyda’r castell, yn dal i ffurfio elfen drawiadol o’r
dirwedd, y peth agosaf sydd gan dde Cymru i ‘gastell-fwrdeistrefi’
Edwardaidd gogledd Cymru. Tua 1100-10 sefydlodd Tancard y Ffleminiad gastell
a thref Hwlffordd ar safle cwbl newydd, a hynny efallai fel uned. Mae’n
debyg ei fod yn gweithredu yn enw’r goron hefyd. Saif y dref a’r
castell ar y man pontio isaf ar Afon Cleddau Wen, yr oedd ei werth strategol
ac economaidd yn ffactorau ar gyfer dewis y safle a’i ddatblygu
ar ôl hynny. Erbyn 1300 roedd y dref yn un sylweddol a chynhwysai
dros 300 o diroedd bwrdais - yn fwy na’r un gastell-fwrdeistref
yng Ngogledd Cymru. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ran o amddiffynfeydd y
dref wedi goroesi.
Cyflenwid y ddwy dref gan gychod ac roeddynt yn ganolfannau masnachu
pwysig o’r cychwyn. Datblygodd y fasnach hon o dan y monopolïau
Eingl-Normanaidd, ac erbyn yr 16eg ganrif roedd Penfro yn dref o fasnachwyr,
a hi hefyd oedd safle tollty’r rhanbarth. Fodd bynnag, cymerodd
Hwlffordd rôl y dref sirol drosodd oddi wrth Benfro yn ystod y ganrif
hon, ac erbyn canol y ganrif gellid ei disgrifio fel ‘y dref a adeiladwyd
orau, y dref fwyaf sifil, a’r dref a anheddwyd gyflymaf yn Ne Cymru’.
Mae gan y ddwy dref nifer o adeiladau diweddarach. Mae’r rhain yn
dyddio, yn arbennig, i’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif pan
adeiladodd boneddigion o ffermwyr, masnachwyr a bwrdeisiaid lleol dai
tref i gymdeithasu y tu mewn iddynt, yn lle mynd i Lundain ar gyfer y
tymor ffasiynol. Fodd bynnag, fel canolfannau masnachol disodlid y ddwy
gan ddwy dref gwbl newydd – sef Aberdaugleddau a Doc Penfro.
Pentrefi canoloesol a diweddarach
Mae pentrefi cnewyllol bach yn elfen nodedig o dde Sir Benfro ac yn arbennig
tirwedd hanesyddol dyfrffordd Aberdaugleddau. Ceir ffermydd gwasgarog,
fel y ceir ar draws y rhan fwyaf o Gymru, ond y pentref sy’n dynodi’r
gwahaniaeth rhwng y patrwm anheddu yn y rhan hon o Sir Benfro ac ardaloedd
eraill yn ne-orllewin Cymru. Mae cydberthynas gref rhwng y math o anheddiad
a gynrychiolir gan y pentref cnewyllol, sydd yn aml wedi’i ganoli
ar eglwys, a’r ardal y gwyddom iddi gael ei gwladychu gan yr Eingl-Normaniaid
yn ne-orllewin Cymru yn y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, a amlygir
heddiw gan enwau lleoedd, iaith a dangosyddion diwylliannol eraill. Mae’n
dra thebygol felly i’r pentrefi gael eu sefydlu yn ystod y cyfnod
hwn ar y cyd â’r elfen bwysig arall honno o dirwedd amaethyddol
iseldir Lloegr, sef y gyfundrefn faes agored. Disgrifir meysydd agored
isod, ond mae’n werth pwysleisio yma y gyfatebiaeth gref rhwng pentrefi
cnewyllol a’r dystiolaeth ar gyfer meysydd agored. Mae hefyd yn
ddiddorol nodi i’r mwyafrif o bentrefi gael eu sefydlu i ffwrdd
o lan Aberdaugleddau er mwyn manteisio cymaint â phosibl ar y tir
ffermio bras a gynigiai’r ardal: bwriadwyd iddynt fod yn gymunedau
amaethyddol yn hytrach na chymunedau glan môr. Mae dogfennaeth hanesyddol
yn aml yn amwys o ran ei chyfeiriadau at y math o batrwm anheddu, ac ni
ellir nodi morffoleg pentrefi yn bendant tan y cyfnod rhwng canol a diwedd
y 18fed ganrif pan aed ati ar raddfa fawr i fapio ystadau ac y gwnaed
yr arolwg o fapiau degwm tua 1840. Yr adeg honno roedd pentrefi megis
Llanismel, Herbrandston, Houghton, Great Honeyborough, Waterstone, Uzmaston
a Cosheston, i enwi dim ond rhai, yn gymunedau amaethyddol, cnewyllol,
bach iawn, a oedd yn dal i gael eu hamgylchynu yn aml gan eu cyfundrefnau
maes agored, neu o leiaf ychydig o leiniau o weddillion meysydd agored.
Mewn rhai achosion, megis Herbrandston, mae lleoliad yr eglwys ym mhen
lawnt y pentref y ceir anheddau o’i hamgylch yn awgrymu pentref
a gynlluniwyd. Mae pentrefi yn dal i gael dylanwad cryf ar batrwm anheddu’r
ardal, er i rai ehangu gryn dipyn ar ddiwedd y 19eg ganrif ac yn ystod
yr 20fed ganrif. Er enghraifft, mae Great Honeyborough bellach wedi’i
ymgorffori yn Neyland ac mae Llangwm wedi tyfu gryn dipyn o’i graidd.
Fodd bynnag nid yw pentrefi eraill megis West Williamston, Trenewydd Caeriw
a Lawrenni wedi newid fawr ddim, ac mae eu morffolegau cynnar a’u
swyddogaethau gwreiddiol i’w gweld yn glir o hyd.
Cestyll canoloesol
Mae cestyll canoloesol yn un o elfennau diffiniol tirwedd yr ardal hon.
Adeiladwyd cryn nifer ohonynt yn Sir Benfro ar ôl y goresgyniad
Eingl-Normanaidd ym 1093, ac yn arbennig yn ystod y blynyddoedd ar ôl
1100 wrth i’r tiriogaethau gael eu hatgyfnerthu o dan Harri I. Sefydlwyd
llawer o’r pentrefi o wladychwyr a’r ddwy dref, yr anheddwyd
y ddwy â phoblogaethau mewnfudol, o amgylch castell o wrthgloddiau.
Nid ailadeiladwyd rhai o’r rhain o gerrig, ond maent wedi gadael
gweddillion gwrthgloddiau yn Llanismel, er enghraifft, ac efallai hefyd
yn Rosemarket a Chastell Gwalchmai lle y mae morffoleg y pentref yn awgrymu
bod yr aneddiadau yn rhai echelinol ar safleoedd gwrthgloddiau sy’n
cynrychioli o bosibl, er nad yw eu dyddiad yn hysbys, glostiroedd yn dyddio
o oes yr haearn a ailddefnyddiwyd. Ymddengys fod caer bentir yn Dale wedi’i
hailddefnyddio yn yr yn modd fel castell o wrthgloddiau, a adleolwyd ar
ddiwedd y cyfnod canoloesol pan sefydlwyd plasty ar y safle presennol.
Gadawyd y mwnt ym Mhictwn o blaid castell o gerrig a adeiladwyd gerllaw.
Yr hyn sy’n gwneud y rhan hon o Sir Benfro yn wahanol i ardaloedd
eraill yn ne-orllewin Cymru yw’r lefel o weithgarwch ailadeiladu
â cherrig a gyflawnwyd ar ddiwedd y cyfnod canoloesol. Ceir nifer
o gestyll pwysig wedi’u hadeiladu o gerrig ac o’r cestyll
hyn y mae Penfro, Hwlffordd a Chaeriw yn dal i ffurfio elfennau gweledol
cryf o’r dirwedd. Roedd Caeriw yn gysylltiedig ag anheddiad canoloesol
a oedd wedi crebachu. Mae cestyll llai o faint a adeiladwyd o gerrig wedi
goroesi ym Mhictwn, Upton a Benton (Burton). Mae’r ddau olaf yn
gestyll â magwyrydd sy’n fach iawn ond a ddatblygwyd yn llawn.
Mewn cyferbyniad ceir y safleoedd hynny y mae’n fwy addas eu disgrifio
fel maenordai caerog, ac unwaith eto maent yn arbennig o niferus yn y
rhan hon o Sir Benfro. Castell Coch (Mynwar), neuadd-dy mawr o gerrig
o fewn clostir ffos â mur o’i amgylch, oedd caput maenor Newhouse.
Mae Angle ac Eastington (Rhoscrowdder) yn neuadd-dai llawr cyntaf tebyg
yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol, tra lleolir maenor Creseli, a
oedd yn ôl pob tebyg yn eiddo i’r priordy Awstinaidd yn Hwlffordd,
o fewn clostir lled-gaerog. Ymddengys fod castell Dale o ddiwedd y cyfnod
canoloesol yn lled-gaerog, tra bod tai caerog o’r un cyfnod yn Rheithordy
Angle a Phriordy Monkton. Ymddengys fod yr amddiffynfeydd preifat yn dyddio
o ddiwedd y cyfnod canoloesol, a all fod mor hwyr â’r 16eg
ganrif yn y ddau achos olaf, yn ymateb i fygythiadau yn dod dros y môr,
efallai y bygythiad y byddai’r Ffrancod yn ymosod neu forladron
o Iwerddon a gwledydd eraill yn ysbeilio ar hyd yr arfordir.
Meysydd Agored a’r broses o’u
hamgáu
Yn ystod y cyfnod canoloesol câi bron yr holl dir ffermio o fewn
yr ardal gofrestr ei amaethu mewn cyfundrefnau maes agored (a elwir hefyd
yn feysydd isranedig neu’n feysydd comin). O dan y system hon delid
tir fel cymuned, ac ar wahân i glostiroedd bach a phadogau yn gysylltiedig
â ffermydd, roedd clostiroedd yn brin, a rhennid y tir yn lleiniau
neu’n gyfrannau o fewn meysydd agored mawr. Gorweddai tir comin
heb ei amaethu a thir diffaith y tu hwnt i’r meysydd agored. Gall
patrwm rhai o’r cyfundrefnau maes agored, o leiaf, fod yn gynnar.
Gall patrwm unionlin ffiniau ym mhenrhyn de Sir Benfro ddyddio o’r
cyfnod cynhanesyddol, a gellir gweld bod o leiaf un fynwent ganoloesol
wedi’i gosod drostynt.
Yn agos at ddyfrffordd Aberdaugleddau, oherwydd dwysedd uchel y boblogaeth,
câi’r rhan fwyaf o’r tir ei amaethu ac felly byddai
tir diffaith a thir comin wedi cynnwys darnau bach o dir. Yn draddodiadol,
ni châi lleiniau o fewn meysydd agored eu rhoi i ffermwyr, ond caent
eu cylchdroi’n flynyddol. Fodd bynnag, erbyn yr 16eg ganrif a’r
17eg ganrif rhoddwyd yr hawl i amaethu rhai lleiniau o fewn y meysydd
agored i ffermwyr unigol. Drwy gyfnewid lleiniau gellid casglu nifer o
leiniau cyffiniol. Proses syml oedd hi wedyn i daflu gwrych o amgylch
y lleiniau a oedd wedi’u casglu at ei gilydd. Drwy’r broses
hon trawsnewidiwyd y meysydd a ddelid fel cymuned yn systemau o feysydd
a ddelid yn breifat, sy’n dal i fodoli.
Mae dogfennau canoloesol a diweddarach yn cyfeirio yn uniongyrchol ac
yn anuniongyrchol at feysydd agored, ond y mapiau o’r ystadau yn
dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif a’r mapiau degwm
dyddiedig tua 1840 sy’n darparu’r dystiolaeth orau o’u
maint a’u cymeriad. Fel y disgrifiwyd uchod, mae cydberthynas gref
rhwng lleoliad pentrefi a meysydd agored. Ymddengys yn dra thebygol i’r
meysydd gael eu sefydlu pan sefydlwyd y pentrefi yn y 12fed ganrif a’r
13eg ganrif. Ceir amrywio o ran pryd yr amgaewyd y meysydd agored a pha
mor gyflym y gwnaed hynny. Yn Rosemarket, er enghraifft, disgrifiodd Howells
(1955-56) sut yr oedd amgáu meysydd agored ar ddiwedd yr 16eg ganrif
gan landlord barus wedi arwain at droi tir âr yn dir pori ac at
ddiboblogi’r pentref. Erbyn hyn nid oes fawr ddim tystiolaeth yn
y dirwedd bresennol o feysydd mawr, eithaf rheolaidd o amgylch Rosemarket
o’r meysydd agored a fu yno gynt. Mae’n debyg yn ystod yr
un cyfnod i feysydd agored eraill gael eu trawsnewid i greu’r meysydd
mwy o faint a welir heddiw, megis yn Uzmaston, Rhoscrowdder a Lawrenni.
Ymddengys mai yn yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif yr amgaewyd y mwyafrif
o’r meysydd agored hyn, er i ffermio yn seiliedig ar feysydd agored
mewn rhai enghreifftiau prin barhau hyd ddechrau’r 19eg ganrif.
Ceir enghraifft o amgáu meysydd agored yn hwyr yn Great Honeyborough
lle y dangosir tirwedd amaethyddol o feysydd agored llawn weithredol ar
fapiau o’r ystad. Mae’r broses o amgáu rhai meysydd
agored wedi gadael ei hôl yn glir ar y dirwedd fodern a cheir, er
enghraifft, barseli o lain-gaeau cul yn Llanismel, Waterstone, Houghton,
West Williamstone, Trenewydd Caeriw a Cosheston.
Caeau a ffiniau caeau
Pennir siâp a maint caeau gan ffactorau cymdeithasol, economaidd
a diwylliannol cymhleth. Fel y nodwyd uchod, llain-gaeau cul yw canlyniad
y broses o amgáu cyfundrefnau maes agored, proses a gyflawnwyd
bob yn dipyn o’r 17eg ganrif i’r 19eg ganrif. Gall caeau rheolaidd
mawr fod wedi deillio o amrywiaeth o brosesau gwahanol anghysylltiedig.
Er enghraifft, gall caeau ystadau bach, preifat a sefydlwyd yn yr 16eg
ganrif neu’r 17eg ganrif ar dir a oedd wedi bod yn gaeau agored
ymddangos yn debyg i systemau caeau ffermydd a gerfiwyd allan o dir comin
ar ddiwedd y cyfnod canoloesol. Mae’n debyg i’r caeau afreolaidd
bach â phocedi o goetir a geir yn Martletwy, Landshipping, Cei Cresswell,
ac i ryw raddau Hook, ddatblygu yn ystod y 18fed ganrif ac ar ddechrau’r
19eg ganrif pan adeiladwyd bythynnod ac y cerfiwyd allan dyddynnod ar
dir comin neu dir amaethyddol cymharol wael y maes glo gan bobl a ddenwyd
i’r ardal gan y diwydiant glo a oedd yn datblygu. Er bod amrywiaeth
hynod o ran siâp a maint caeau, mae’r mathau o ffiniau yn
hynod o gyson ar draws tirwedd dyfrffordd Aberdaugleddau i gyd. Amgaeir
bron yr holl gaeau gan gloddiau pridd neu gloddiau o bridd a cherrig â
gwrychoedd ar eu pennau. Ceir eithriadau, ond maent yn brin. Er enghraifft,
ceir waliau â morter arnynt yn Lawrenni (sy’n gysylltiedig
ag ystad Lawrenni), yn West Williamston, a phen gorllewinol pellaf Penrhyn
Castellmartin. Ceir rhai waliau sych hefyd, yn West Williamston, er enghraifft.
Ffermydd ac ystadau ôl-ganoloesol
Dechreuodd ffermydd lle y delid y tir o dan ddeiliadaeth unigol, h.y.heb
fod yn rhan o gaeau agored na thir comin, mewn un o nifer o ffyrdd gwahanol.
Tua diwedd y cyfnod canoloesol ac ar ddechrau’r cyfnod modern newydd
sefydlwyd ffermydd i ffwrdd o greiddiau pentrefi ar dir a oedd wedi’i
lwyrfeddiannu ac wedi’i amgáu o lain-gaeau agored. Neu, wrth
i gysyniad perchenogaeth breifat o dir ymledu sefydlwyd ffermydd newydd
ar yr hyn a fu gynt yn dir comin ar gyrion tir âr. Mae’n debyg
mai’r ddau ddull hwn sy’n gyfrifol am y mwyafrif o’r
ffermydd gwasgarog, llai o faint. Mae hefyd yn bosibl i un fferm mewn
pentref neu drefgordd dyfu cymaint fel mai hi oedd y prif ddaliad ac yn
y pen draw yr unig ddaliad. Digwyddodd y broses hon dros lawer o ganrifoedd
ac mae’n debyg mai’r dyma’r ffordd y dechreuodd llawer
o’r ystadau bach a’r ffermydd mawr, megis Liddeston, Jordanston
a Robeston Hall.
Yn achos y ddau ddull cyntaf mae’r dirwedd a grëir yn un o
ffermydd gwasgarog, cymharol fach wedi’u gosod mewn patrwm o gaeau
rheolaidd o faint canolig. Mae ystadau bach a ffermydd mawr yn tueddu
i fod wedi’u lleoli ar y tir ffermio bras tua’r gorllewin
o’r ddyfrffordd ac fe’u cysylltir yn aml â chaeau mawr,
rheolaidd. Mae’r adeiladau (a ddisgrifir isod) sy’n perthyn
i’r ystadau hyn yn aml yn edrych yn hen iawn, a chanddynt weithiau
elfennau canoloesol neu o’r 16eg ganrif a’r 17eg ganrif, neu
maent yn strwythurau Sioraidd a/neu Fictoraidd. Yn ogystal â’r
adeiladau sydd wedi goroesi, mae parodrwydd perchenogion yr ystadau bach
i gomisiynu arolygon drud ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r
19eg ganrif yn dangos pa mor gyfoethog oeddynt. Dengys y mapiau a ddeilliodd
o’r arolygon hyn, megis y rhai o St Botolph’s a Robeston Hall
fod gan eu heiddo erddi â waliau o’u hamgylch, gerddi blodau
a pherllannoedd. Mae’r ffermydd bach, y ffermydd mwy o faint a’r
ystadau bach gwasgarog hyn yn ffurfio elfen bwysig yn nhirwedd hanesyddol
dyfrffordd Aberdaugleddau.
Parciau a gerddi
Yn ymestyn dros yr ardal gyfan bron ym mhen Aberdaugleddau, rhwng afon
Cleddau Ddu ac afon Cleddau Wen, ceir parciau ac ystadau ôl-ganoloesol,
gan gynnwys Parciau Pictwn a Slebets sy’n ymestyn dros dir sy’n
graddol ddisgyn i lawr i flaen traeth Aberdaugleddau. Ceir parciau a gerddi
llai o faint o fewn yr ardal gofrestr ond yn yr un modd maent wedi’u
cyfyngu i safleoedd mwy cysgodol o fewn y rhan ddwyreiniol hon o’r
ardal. Nid yw dwy o’r gerddi llai o faint hyn, yng Nghoedcanlas
a Landshipping, i’w gweld bellach, ond fe’u nodwyd trwy ffotograffau
a dynnwyd o’r awyr. Sefydlwyd y ddwy yn yr 17eg ganrif a gerddi
yn arddull y Dadeni oeddynt yn debyg o ran eu maint i enghreifftiau mwy
enwog yn Lloegr, ac roedd ganddynt gyrtiau a therasau ffurfiol nodweddiadol.
Yn debyg i Bictwn a Slebets maent yn ymestyn ar draws tir sy’n graddol
ddisgyn i lawr i flaen traeth Aberdaugleddau.
Crëwyd parc ffurfiol yng Nghastell Pictwn ar ddiwedd yr 17eg ganrif.
Roedd y parc hwn hefyd yn arddull y Dadeni, ond cafodd ei ailfodelu ar
raddfa fawr yn y traddodiad Rhamantaidd yn y 18fed ganrif a’r 19eg
ganrif, pan sefydlwyd belfedir ar yr hen fwnt. Er bod gan y gerddi elfennau
yn dyddio o’r 18fed ganrif, cyflawnwyd llawer o’r gwaith plannu
yn yr arddull pictiwrésg tua 1800 ac fe’u haddaswyd gan waith
plannu mwy diweddar. Mae tirwedd y gerddi, y parcdir, y coetir a ffermydd
yr ystad yn dal i fodoli ar y cyfan gerllaw ym Mharc Slebets, a osodwyd
tua’r un pryd. Mae llawer o’i elfennau yn dal i fodoli hefyd,
ac mae ganddo erddi ffurfiol gan gynnwys terasau yn edrych dros ddyfrffordd
Aberdaugleddau. Mae strwythurau eraill sy’n gysylltiedig â
Phictwn a Slebets, megis blociau stablau, porthdai a gerddi â waliau
o’u hamgylch yn nodweddion amlwg a nodedig yn y dirwedd, tra bod
dwy fferm y plas a phentref y Rhos yn rhoi i’r ardal hon nodweddion
pensaernïol cadarn ystad.
Mae parciau llai o faint yn cynnwys Upton Castle, a leolir yn yr un modd
ar dir sy’n graddol ddisgyn i lawr i flaen traeth Aberdaugleddau.
Mae’n cynnwys gardd a pherllan â wal o’u hamgylch, gardd
goed, terasau ffurfiol a chapel canoloesol. Fe’i rheolir bellach
gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac mae ar agor i’r cyhoedd.
Lleolir Plasty Boulston a fferm y plasty o fewn gweddillion tirwedd parcdir
tebyg, mewn lleoliad tebyg ar flaen traeth ac mae’n cynnwys pysgodlynnoedd,
planhigfeydd, porthdy, a chapel canoloesol adfeiliedig. Lleolir parciau
llai o faint, yn ymestyn dros safleoedd tebyg, o amgylch yr hen blasty
yng Nghastell Lawrenni, sydd bellach yn ardal bicnic, a Neuadd Cosheston.
Y ddyfrffordd, llongau a masnach ar hyd yr
arfordir
Cydnabuwyd ers amser maith yr angorfa ddwr dwfn ardderchog a ddarperir
gan ddyfrffordd Aberdaugleddau. Fe’i defnyddiwyd fel man byddino
gan yr Eingl-Normaniaid i oresgyn Iwerddon, fel glanfa gan Owain Glyndwr
a Harri Tudur i ymosod ar Gymru, ac fel angorfa gysgodol ar gyfer Llynges
Prydain yn y 18fed ganrif. Lleolir dwy o brif drefi/dau o brif borthladdoedd
Cymru yn ystod yr oesoedd canol ac yn fwy diweddar, sef Hwlffordd a Phenfro,
ar y rhannau uchaf o’r ddyfrffordd. Roedd y tollty rhanbarthol wedi’i
leoli ym Mhenfro ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Fodd
bynnag, sicrhaodd lleoliad anghysbell y ddyfrffordd a phoblogaeth fach
yr ardal na wireddwyd ei photensial fel porthladd tan y chwyldro diwydiannol
ar ddiwedd yr 17eg ganrif ac yn ystod y 18fed ganrif. Lleolir llawer o
bentrefi yn dyddio o’r cyfnod canoloesol ar hyd y ddyfrffordd, ond
mae’n ddadlennol nodi bod y mwyafrif o’r rhain wedi’u
lleoli o fewn caeau i ffwrdd o’r lan, sy’n dangos mai amaethyddiaeth
nid gweithgarwch glan môr oedd prif ffynhonnell eu hincwm. Byddai
gweithgarwch pysgota, masnachu ar hyd yr arfordir ac adeiladu cychod ar
raddfa fach wedi’i gyflawni o’r nifer fawr o gilfachau bach,
ond ymhlith y pentrefi mae’n debyg mai dim ond Dale ac Angle, y
lleolir y ddau ymhell i’r gorllewin, oedd ag economi glan môr
cryf. Erbyn 1700, glo o byllau yn Landshipping, Cresswell, Hook a Llangwm
oedd y prif allforyn o ddyfrffordd Aberdaugleddau. Datblygodd llawer o
geiau bach i wasanaethu’r diwydiant hwn. Mae’r nifer fawr
o odynau calch a geir ar hyd y lan yn dystiolaeth bod masnachu ar hyd
yr arfordir yn dod yn fwyfwy pwysig. Yn wir, prin yw’r gilfach nad
oes ganddi odyn galch. Erbyn diwedd y 18fed ganrif arweiniodd yr angen
am dref yn agos at angorfeydd dwr dwfn i wasanaethu llongau mawr a darparu
porthladd ar gyfer llongau post o Iwerddon at sefydlu tref Aberdaugleddau.
Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach sefydlwyd iardiau llongau’r
Llynges a thref Doc Penfro. Disgrifir y trefi hyn, ynghyd â Neyland,
isod. O ganlyniad i ddyfodiad y rheilffyrdd yng nghanol y 19eg ganrif
bu lleihad yn lefel y gweithgarwch masnachu ar hyd yr arfordir, ond parhaodd
llongau bach i alw yn Hwlffordd, Penfro a cheiau eraill i mewn i’r
20fed ganrif, a datblygodd Aberdaugleddau a Neyland yn borthladdoedd pysgota
pwysig. Ar wahân i danceri olew sy’n gwasanaethu tair purfa
olew a adeiladwyd ar ddiwedd yr 20fed ganrif, cychod pysgota yn Aberdaugleddau
a’r fferi i Iwerddon sy’n rhedeg o’r hen ddociau yn
Noc Penfro, nid oes fawr ddim traffig masnachol ar y ddyfrffordd. Agorwyd
dau farina, yn Aberdaugleddau a Neyland, a defnyddir llawer o’r
glanfeydd a’r ceiau diwydiannol bellach gan gychod hamdden.
Cysylltiadau
Yn hanesyddol y ddyfrffordd a fu’r wythïen gysylltiadau bwysicaf
bob amser o fewn yr ardal hon. Fodd bynnag, roedd llwybrau cynnar dros
y tir. Y pwysicaf o’r rhain oedd y ‘Ridgeway’, llwybr
ar draws esgair penrhyn de Sir Benfro, a redai ar hyd crib yr esgair o
galchfaen rhwng Angle yn y gorllewin a Dinbych-y-Pysgod yn y dwyrain.
Mae’r crynhoad o safleoedd cofebol cynhanesyddol ar hyd y llwybr
hwn yn awgrymu ei fod yn dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol, o’r
cyfnod neolithig o bosibl, ac mae’r system o gaeau unionlin sy’n
nodwedd mor gadarn yn yr ardal hon yn echelinol ar ei linell. Prin y Rhufeiniwyd
y rhan hon o Sir Benfro, a gorweddai’r brif ffordd Rufeinig o’r
dwyrain i’r gorllewin gryn bellter i’r gogledd o’r ardal
hon. Ymddengys fod ffordd bresennol yr A40 yn dilyn llwybr canoloesol
o bwys, ac mae Pont Canaston sy’n cario’r ffordd dros ben
afon Cleddau Ddu yn dyddio o’r cyfnod canoloesol. Gellir olrhain
rhai llwybrau cynnar eraill o fewn y dirwedd. Er enghraifft, lleolir Hwlffordd
– a oedd yn un o’r trefi mwyaf yng Nghymru erbyn diwedd y
cyfnod canoloesol – lle y mae 12 ffordd a lôn yn croestorri,
y mae’n debyg bod y mwyafrif ohonynt yn dyddio o’r cyfnod
canoloesol, tra gall llwybr, nas defnyddir bellach, yn arwain trwy blwyf
Mynwar i fferi Slebets ddyddio o’r cyfnod canoloesol hefyd.
Ailosodwyd y llwybr canoloesol o dan yr A40 yn rhannol, fe’i sythwyd,
ac fe’i trowyd yn ffordd dyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif, a gwnaed
yr un peth i’r A4075 rhwng Pont Canaston a Chaeriw. Fodd bynnag,
pan ddatblygwyd yr ardal yn ddiwydiannol yn y 19eg ganrif ac y sefydlwyd
porthladdoedd masnachol Aberdaugleddau a Doc Penfro dyna’r adeg
y gosodwyd y pwysau mwyaf ar ei chysylltiadau. Gwnaed cryn dipyn o waith,
yn y 1830au, i wella’r ffordd rhwng Caerfyrddin a Doc Penfro, yn
dilyn arolygon a wnaed gan Thomas Telford. Ar ben hynny cynlluniwyd rheilffordd
ym 1845, sy’n ddyddiad cymharol gynnar. Fodd bynnag, o ganlyniad
i oedi nid adeiladwyd llinell i Aberdaugleddau tan 1863, fel cangen o
linell Neyland a adeiladwyd ym 1856, ac ni chafodd Aberdaugleddau wasanaeth
rheilffordd tan 1864. Mae’r ddwy linell hon yn dal yn weithredol.
Adeiladwyd nifer o linellau cangen, i’w defnyddio gan berchenogion
preifat, ar ôl hynny i gysylltu’r harbwrs, y dociau a’r
purfeydd â’r rhwydwaith rheilffyrdd. Mae rhai o’r rhain
yn dal i gael eu defnyddio.
Coedwigoedd a choetir
Roedd hanner dwyreiniol yr ardal gofrestr, yn y rhannau uchaf o ddyfrffordd
Aberdaugleddau, wedi’i orchuddio â choed toreithiog yn ystod
y cyfnod hanesyddol, ac mae llawer ohono yn dal i fod heddiw. Mae’r
coetir hwn bob amser wedi’i reoli’n drylwyr. Gallai coetir
a reolid yn gywir ddarparu pren ar gyfer adeiladu adeiladau a llongau,
rhisgl ar gyfer cyffeithio crwyn a lliwio, a phrysgwydd ar gyfer tanwydd
a golosg. Lleolir rhai o’r lleiniau coediog hyn – fel heddiw
– ar lethrau serth dyffrynnoedd nad oedd iddynt fawr ddim gwerth
economaidd arall. Roedd coedwigoedd eraill yn lleiniau helaeth ar dir
agored. Cofnodwyd Coedwig Ganoloesol Arberth, er enghraifft, ar ddechrau’r
12eg ganrif, pan oedd o dan reolaeth y brenin a rhoddwyd ei choed i unrhyw
un a fwriadai ymsefydlu ym Mhenfro i wneud ei annedd bren ohonynt. Rhoddwyd
Coedwigoedd Mynwar i Farchogion Sant Ioan yn Slebets mewn grant o’r
13eg ganrif. Mae George Owen yn cofnodi bod llawer o’r coetir, erbyn
1594, wedi’i dorri i lawr trwy ‘asartio’ a bod tir ffermio
wedi’i sefydlu dros leiniau o dir a fu gynt yn goediog. Ymddengys
i faenor Newhouse, er enghraifft, gael ei chreu yn hwyr ac iddi gael ei
sefydlu fel asart o Goedwig Arberth, gan arglwyddi Mortimer o Arberth
ar ddiwedd y 13eg ganrif. Rhestrodd Owen ‘ y coedwigoedd gorau heb
eu torri’ a oedd ar ôl bryd hynny, y mae llawer ohonynt yn
dal i fod yn goediog heddiw. Cynhwysai’r coedwigoedd hyn, ar yr
ochr orllewinol i ddyfrffordd Aberdaugleddau, goedwigoedd Benton, Llangwm,
Hook a Little Milford, ar yr ochr ogleddol goedwigoedd Boulston, Pictwn,
Pickle a Toch, ac ar yr ochr ddwyreiniol, Goedwig Arberth (a oedd yn dal
i gael ei gweinyddu ymhell i mewn i’r 17eg ganrif), Canaston, Mynwar,
Coedcenlas, Creseli, Nash ac Upton. Roedd rhai o’r rhain yn bocedi
bach o goetir, a ddisgrifir fel ‘coedwigoedd yn perthyn i wahanol
fonheddwyr a oedd yn ddigonol i ddarparu tanwydd ar gyfer eu tai a rhai
coed ar gyfer adeiladau’.
O dan y cyfryw ‘fonheddwyr’ yr ymgorfforwyd rhannau o’r
coetir hwn, fel nodwedd economaidd ac addurniadol, yn y parciau a’r
ystadau a leolid ar hyd y ddyfrffordd yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol,
er enghraifft ym Mharc Pictwn, Parc Slebets a Pharc Upton Castle. Mewn
cyferbyniad llwyr, symbylodd y coetir trwchus ym Mynwar a Canaston bobl
i sefydlu diwydiannau yn gynnar o fewn yr ardal. Cododd George Mynne,
y rhoddwyd iddo yr hawl i gymryd coed o’r coedwigoedd, ffwrnais
chwyth yn llosgi golosg yn Canaston ym 1635. Sefydlwyd gefail haearn yn
Blackpool erbyn 1760, pan gadarnhaodd ei phrydles fod gan y perchennog
‘yr hawl i dorri coed yng Nghoedwig Canaston o fewn pedair milltir
i’r efail’. Roedd y diwydiannau wedi dirywio erbyn dechrau’r
19eg ganrif, yn bennaf oherwydd bod y coed wedi’u dihysbyddu. Ym
1794 nododd Hassell fod y rhan fwyaf o’r coetir yn goed derw, a’i
fod yn cael ei reoli at ddibenion cynhyrchu golosg a rhisgl ar gyfer cyffeithio
crwyn, ond bod coed da ar gyfer cynhyrchu golosg yn mynd yn brinnach.
Ym 1811 cofnododd Fenton fod coed wedi’u torri i lawr ar raddfa
fawr. Yn wir, dengys mapiau o’r ystad y darnau hynny o goetir a
oedd wedi’u torri i lawr, wedi’u teneuo ac wedi’u prysgoedio’n
ddiweddar. Yn ystod yr 20fed ganrif plannwyd coed coniffer mewn lleiniau
mawr o’r hyn a fu gynt yn goetir collddail. Mae llawer o’r
coetir hwn bellach yn perthyn i’r Comisiwn Coedwigaeth, ac fe’i
rheolir fel Coedwigoedd Canaston a Mynwar.
Trefi yn dyddio o’r ddeunawfed ganrif
a’r bedwaredd ganrif ar ddeg
Ni fu cynnydd yn y cyflenwadau a ddeuai ar dir i gyd-fynd â’r
cynnydd yng ngweithgarwch llongau ac mewn gweithgarwch economaidd arall.
Yn arbennig, roedd y ffaith nad oedd anheddiad mawr yn agos at angorfeydd
dwr dwfn, nac unrhyw bierau na glanfeydd i wasanaethu llongau mawr, yn
broblemau mawr. Mor gynnar â 1764, cydnabu William Hamilton fod
problem, ond bu’n rhaid aros tan 1790 nes y pasiwyd Deddf Seneddol
yn rhoi caniatâd i: ‘wneud a darparu Ceiau, Dociau, Pierau
ac adeiladau eraill a sefydlu Marchnad â Ffyrdd a Rhodfeydd priodol’.
Dyma ddechrau tref Aberdaugleddau a osodwyd yn ei phatrwm grid nodedig.
Pan adleolwyd iardiau llongau’r llynges o Aberdaugleddau i safle
newydd ar lan y ddyfrffordd gyferbyn sefydlwyd tref newydd. Doc Penfro
oedd y dref newydd hon ac, yn debyg i Aberdaugleddau, fe’i gosodwyd
yn yr un ffordd mewn patrwm grid. Mae’r strydoedd llydan, a’r
tai deulawr teras a adeiladwyd ar gyfer gweithwyr a’r bythynnod
unllawr, yn rhoi cymeriad nodedig i’r dref. Erbyn canol y 19eg ganrif
arweiniodd y lefel gynyddol o weithgarwch economaidd a phoblogaeth a oedd
yn tyfu at ddatblygu Neyland. Sbardunwyd datblygiad y dref pan agorwyd
terminws rheilffordd ym 1856. Yn wahanol i Aberdaugleddau a Doc Penfro,
tyfodd Neyland yn organig ac ymledodd y tai i fyny o’r ddyfrffordd
a’r rheilffordd. Bu’n rhaid i bob un o’r tri anheddiad
‘ail?greu’ eu hunain er mwyn addasu i amgylchiadau a oedd
yn newid. Cafodd y penderfyniad i gau’r iardiau llongau yn Noc Penfro
ym 1926 a’r broses raddol o gau safleoedd milwrol ers yr Ail Ryfel
Byd effaith fawr ar y dref, ac fe’u dilynwyd gan gyfnodau o farweidd-dra.
Mae’r dirywiad yn y diwydiant pysgota ers canol yr 20fed ganrif
wedi cael effaith debyg ar Aberdaugleddau a Neyland. Erbyn hyn mae gan
y tair tref ‘economi gymysg’, yr adlewyrchir eu llwyddiant
yn y datblygiadau tai a seilwaith yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif
a welir yn yr aneddiadau ac ar eu cyrion.
Amddiffynfeydd arfordirol yn dyddio o’r
bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif
Ar wahân i ddau flocdy yn dyddio o’r 16eg ganrif, mae amddiffynfeydd
Aberdaugleddau yn dyddio o gyfnod pwysig o adeiladu o tua 1850-1875 drwodd
hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Cyn hynny, roedd tirfesurwyr milwrol
a lleygwyr wedi tynnu sylw sawl gwaith at ba mor ddiamddiffyn y byddai
dyfrffordd Aberdaugleddau pe ymosodid arni o’r môr. Comisiynwyd
adroddiadau a chymeradwywyd cynlluniau ar gyfer amddiffynfeydd, ond oherwydd
newidiadau yn yr hinsawdd wleidyddol neu economaidd, nis gweithredwyd
erioed, neu fe’u stopiwyd yn fuan ar ôl i’r gwaith adeiladu
ddechrau. Bu’n rhaid i hyd yn oed y rhaglen enfawr o adeiladu amddiffynfeydd
a weithredwyd rhwng 1850-75 gael ei haddasu sawl gwaith tra bod y gwaith
adeiladu yn mynd yn ei flaen oherwydd datblygiadau technolegol. Erbyn
diwedd y 19eg ganrif i bob diben nid oedd angen y system hon.
Rhoddwyd cryn ystyriaeth i’r mater o amddiffyn dyfrffordd Aberdaugleddau
ar ôl i ddociau’r llynges gael eu hadleoli o Aberdaugleddau
i Ddoc Penfro ar ddechrau’r 19eg ganrif. Cynigiwyd cadwyn newydd
o geyrydd ar hyd ymylon y ddyfrffordd, ond ni wnaed fawr ddim ar wahân
i atgyfnerthu Pater Fort yn yr iardiau llongau newydd yn Noc Penfro, ac
adeiladu barics amddiffynadwy y tu allan i’r dref, a dau dwr gynnau
o bob tu i’r iardiau llongau. Roedd aber y ddyfrffordd wedi’i
hamddiffyn bryd hynny ac adeiladwyd pedair caer yn ystod y 1850au: West
Blockhouse, Dale Point, Thorn Island a Stack Rock. Adeiladwyd ceyrydd
yn South Hook, Hubberston, Popton a Chapel Bay ar ôl i adroddiad
gael ei gyflwyno i’r Senedd ym 1858. Mae pob un o’r safleoedd
hyn wedi goroesi, ac mae’r mwyafrif ohonynt mewn cyflwr da. Ychwanegwyd
dwy fagnelfa enfawr wrth aber y ddyfrffordd ym 1901-04.
Parhaodd y fyddin i ddefnyddio’r mwyafrif o’i safleoedd a
adeiladwyd yng nghanol y 19eg ganrif hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf ac ar
ôl hynny, a defnyddiwyd y magnelfeydd mawr a adeiladwyd ar ddechrau’r
20fed ganrif tan ar ôl i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben. O’r
Rhyfel Byd Cyntaf ymlaen adeiladwyd safleoedd newydd, yn aml ar raddfa
enfawr: sefydliad at ddibenion gosod ffrwydron ar longau tanfor gerllaw
Chapel Bay Fort, safle arbrofol ar gyfer gosod ffrwydron ar longau tanfor,
barics a sefydliad profi torpidos ym Mhennar, magnelfeydd a setiau o chwiloleuadau
yn Soldier’s Rock, magnelfa yn Kilroom, storfa olew yn Llanreath,
depo ffrwydron yn Blackbridge a lleolwyd nifer o setiau o chwiloleuadau,
magnelfeydd gwrthawyrennol, gosodiadau gynnau peiriant, yn ogystal â
gwylfeydd a safleoedd ar gyfer gwylwyr ffrwydron ar hyd yr arfordir. Yn
Noc Penfro, yn yr hen ddociau, sefydlwyd gwersyll ar gyfer awyrennau môr
ym 1930. Chwaraeodd awyrennau yn gweithredu allan o’r gwersyll hwn
rôl allweddol wrth amddiffyn Prydain rhag ymosodiadau o’r
gorllewin yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Caeoedd y gwersyll ym 1956. Mae dwy
sied awyrennau môr wedi goroesi, yn ogystal â llawer o’r
safleoedd milwrol yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif.
Y diwydiant glo
Mae Edward (1950 a 1963) a Connop Price (1994-95) wedi astudio diwydiant
glo Sir Benfro. Y prif ardaloedd glofaol yn Sir Benfro oedd Freystrop,
Hook, Pictwn a Landshipping, ac roedd porthladdoedd yng Nghei Black Hill,
Cei Little Milford, Cei Hook, Cei Lower Hook, Cei Sprinkle, Pwll Llangwm,
Fferi Landshipping, Cei Landshipping, Cei Lawrenni a Chei Cresswell. Tan
tua 1600, bu diwydiant glo Sir Benfro yn gweithredu ar raddfa fach iawn.
Parhaodd i ddatblygu ond yn araf, ac mae’n debyg i’r mwyafrif
o’r pyllau gael eu gweithio yn dymhorol gan ffermwyr a gweithwyr
fferm. Er hynny, erbyn 1700 glo oedd y prif lwyth a gludid ar longau o
Sir Benfro. Ym 1800, cododd Syr Hugh Owen y peiriant ager cyntaf yn y
maes glo yn Landshipping. Datblygwyd technoleg newydd a’i gwnaeth
yn bosibl i gloddio’n ddyfnach am lo a chanlyniad hynny oedd llai
o byllau mwy o faint. Erbyn 1934, roedd Sir Benfro yn cynhyrchu 42,000
o dunelli o lo, a chyflogai un pwll, sef Hook, dros 130 o ddynion ym 1938.
Ym 1947, gwladolwyd diwydiant glo Prydain a datganwyd bod maes glo Sir
Benfro yn aneconomaidd a chaeodd pob un o’r pyllau. Heddiw ar wahân
i geiau yn Fferi Landshipping, Cei Cresswell a Lawrenni prin yw olion
ffisegol y diwydiant glo. Fodd bynnag, gwelir dylanwad parhaol amlycaf
y diwydiant glo ar Sir Benfro yn y patrymau anheddu pendant a nodweddir
gan fythynnod a thai mewn clystyrau llac a bythynnod a thai gwasgaredig
ar draws y maes glo. Mae llawer o’r anheddau gwreiddiol wedi diflannu,
ond mae’r patrwm anheddu yn elfen gref o’r dirwedd hanesyddol
yn Hook, Freystrop, Landshipping a lleoliadau eraill sy’n gysylltiedig
â’r diwydiant glo.
Y diwydiant olew
Mae Ken McKay yn Pembrokeshire County History Vol IV yn rhoi disgrifiad
da o’r diwydiant olew. Oherwydd y galw am gynhyrchion olew a oedd
yn prysur gynyddu yn ail hanner yr 20fed ganrif adeiladodd nifer o gwmnïau
olew mawr burfeydd ar lannau dyfrffordd Aberdaugleddau. Roedd gan Aberdaugleddau
ddwy fantais dros leoliadau eraill: angorfa ddwr dwfn ar gyfer llongau’r
dydd a oedd yn mynd yn fwy ac yn fwy o faint; a llawer iawn o dir ffermio
i adeiladu arno. Esso oedd y cwmni cyntaf i adeiladu ym 1957 ac fe’i
dilynwyd gan derfynfa BP ym 1961, Texaco ym 1963, Gulf ym 1966 ac Amoco
ym 1970, ac ar ddechrau’r 1960au comisiynwyd Gorsaf Bwer Penfro
a losgai olew. Mae purfa Esso, terfynfa BP a’r orsaf bwer wedi cau
bellach. Cafodd y gweithfeydd enfawr hyn effaith fawr iawn ar y dirwedd
hanesyddol. Rhoddwyd i bob un ei ardal gymeriad ei hun, am fod y gwaith
o’u hadeiladu wedi dileu, i bob pwrpas, yr holl elfennau blaenorol
o’r dirwedd, ac maent yn dra gwahanol i’r ardaloedd cymeriad
tirwedd hanesyddol amaethyddol gerllaw. Cafwyd effaith fawr ar forlun
dyfrffordd Aberdaugleddau hefyd, a cheir glanfeydd hir yn ymwthio i’r
hyn a fu gynt yn ddwr agored. Effeithiwyd ar ardaloedd cymeriad eraill
hefyd, ac nid yn unig gan yr effaith weledol y mae’r purfeydd yn
ei chael ar eu tirweddau. Er enghraifft, arweiniodd gofynion o ran seilwaith
at adeiladu Pont Cleddau yn uchel dros y ddyfrffordd, ac adeiladwyd tai
ar gyrion pentrefi a threfi i ddarparu ar gyfer poblogaeth a oedd yn prysur
dyfu.
Twristiaeth a hamdden
Bu rhannau o Sir Benfro yn gyrchfannau poblogaidd i dwristiaid ers dros
ddau gan mlynedd, ond nid ardal dyfrffordd Aberdaugleddau, am nad oes
unrhyw gyfleusterau na thraethau tywodlyd hawdd eu cyrraedd yn yr ardal.
Mae’r sefyllfa wedi gwella ers yr Ail Ryfel Byd, ac yn arbennig
ers dynodi Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym 1952, er bod nifer yr
ymwelwyr yn isel o gymharu â’r niferoedd mawr sy’n heidio
i’r traethau tywodlyd ar hyd arfordir de Sir Benfro. Mae hwylio
a chwaraeon dwr eraill yn weithgareddau hamdden poblogaidd a darperir
ar eu cyfer gan farinâu yn Neyland ac Aberdaugleddau, cyfleusterau
yn Dale a Lawrenni a nifer fawr o lithrfeydd a cheiau y gellir lansio
cychod ohonynt. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro, sy’n denu llawer
o bobl i’r ardal, yn rhedeg ar hyd pennau clogwyni a glan rhan orllewinol
y ddyfrffordd. Ymhlith atyniadau eraill y mae Castell Penfro, Castell
Caeriw, Plasty Pictwn a’i gerddi, a phlastai a gerddi hanesyddol
eraill. Yn aml mae ymwelwyr yn aros y tu allan i’r ardal mewn lleoedd
megis Dinbych-y-Pysgod, Saundersfoot, yr Aber Bach ac Aberllydan, ond
ceir tai yn cynnig gwely a brecwast a bythynnod gwyliau ar hyd y ddyfrffordd.
Mae’n debyg y bydd y galw cynyddol am lety o safon yn arwain at
addasu adeiladau sy’n bodoli eisoes, megis hen adeiladau fferm,
yn gartrefi gwyliau. Ceir safleoedd gwersylla a charafannau hefyd yn Dale,
Angle a Llangwm. Mae’r diwydiant ymwelwyr yn dal i fod ar raddfa
fach ac, ar wahân i safleoedd megis y marinâu, nid yw’n
rhan fawr o’r dirwedd hanesyddol.
Adeiladau Deunyddiau
Mae bron yr holl dai a strwythurau a godwyd cyn 1900 wedi’u hadeiladu
o gerrig ac mae ganddynt doeau llechi. Calchfaen carbonifferaidd a ddefnyddiwyd
gan mwyaf, ac adeiladwyd rhai strwythurau o hen dywodfaen coch. Daeth
y calchfaen a’r tywodfaen hyn o chwareli lleol. Llechi wedi’u
mewnforio a ddefnyddiwyd i doi’r strwythurau hyn, er bod gan rai
adeiladau fferm deils cerrig lleol. At ei gilydd mae tai a bythynnod gweithwyr
a ffermdai llai o faint wedi’u rendro â sment tra bod ffermdai
mwy o faint, tai boneddigion, eglwysi a chapeli heb eu rendro. Dim ond
cerrig mandyllog o ansawdd gwael, y mae angen eu rendro, a oedd ar gael
i adeiladu tai ar waelod yr ysgol gymdeithasol. Wrth gwrs mae eithriadau
i hyn. Mae tai allan ffermydd bron yn ddieithriad wedi’u hadeiladu
o gerrig moel. Nid oes yr un enghraifft o’r bythynnod wedi’u
hadeiladu o bridd ac wedi’u toi â gwellt a ddisgrifir gan
ysgrifenwyr yng nghanol y 19eg ganrif wedi goroesi. Yn wir, mynychter
tai wedi’u hadeiladu â cherrig yw agwedd ddiffiniol y dreftadaeth
adeiledig o fewn y rhan hon o Sir Benfro, a thynnwyd sylw at hyn mor gynnar
â’r 16eg ganrif. Ar ôl 1900, defnyddir amrywiaeth ehangach
o ddeunyddiau. Mae brics yn disodli cerrig fel y prif ddeunydd adeiladu,
ac yn ddiweddarach yn yr 20fed ganrif dechreuwyd defnyddio concrid, dur
ac asbestos.
Pensaernïaeth frodorol ddomestig wledig
Mae’r prif fath o dy neu ffermdy gwledig a adeiladwyd cyn 1900 yn
dyddio o ddau neu dri degawd ar y naill ochr neu’r llall i’r
flwyddyn 1850 a gellir eu disgrifio’n fras fel adeiladau yn yr arddull
brodorol Sioraidd. Maent yn adeiladau deulawr a chanddynt dair ffenestr
grom a drysau ffrynt wedi’u gosod yn y canol, ffenestri mawr wedi’u
gosod yn gymesur a simneiau o faint cyfartal yn y talcen. Ceir enghreifftiau
o dai yn y traddodiad mwy brodorol sydd â chynllun a drychiad anghymesur,
ffenestri bach, un simnai fawr ac un simnai fach, ac sydd ag un llawr
a hanner yn ogystal â dau lawr, ond nid ydynt yn gyffredin. Ymddengys
fod y tai brodorol yn perthyn yn fras i’r un ystod o ddyddiadau
â’r rhai yn y traddodiad Sioraidd. Mae’n werth pwysleisio
bod y gwahaniaethau rhwng y ddau fath hyn o dai yn rhai main iawn a’u
bod wedi’u gosod ar fath cyffredin sylfaenol o dy. Mae’r math
sylfaenol hwn o dy yn gyffredin i bob dosbarth cymdeithasol ac economaidd,
ac mae graddoliadau o ran maint yn ogystal â manylion pensaernïol
yr adeiladau yn darparu cliwiau pwysig o ran dosbarth economaidd-gymdeithasol
y deiliad. Gellir cyffelybu’r ddau fath o dy a thai mewn rhannau
eraill o Gymru, er bod tai yn y traddodiad brodorol yn fwy cyffredin na’r
rhai yn yr arddull Sioraidd mwy boneddigaidd mewn mannau eraill.
Mae tai unllawr a adeiladwyd ar gyfer gweithwyr hefyd yn amlygu’r
agwedd gymdeithasol ar bensaernïaeth. Fe’u ceir mewn mannau
eraill yn ne-orllewin Cymru, ond nid ydynt mor niferus ag ydynt o amgylch
glannau dyfrffordd Aberdaugleddau. Yma fe’u ceir mewn cyd-destunau
trefol (gweler isod) a gwledig, ac fe’u hadeiladwyd ar gyfer gweithwyr
trefol, gweithwyr mewn diwydiannau gwledig a gweithwyr amaethyddol. Ceir
ychydig o enghreifftiau yng nghyd-destun aneddiadau anffurfiol, sgatwyr
ar dir comin efallai, sy’n gysylltiedig â’r diwydiant
glo. Mae gan y tai unllawr hyn dair ffenestr grom a drws ffrynt sydd wedi’u
gosod yn y canol. Ceir enghreifftiau o dai ar wahân, tai pâr
a thai teras. Mae enghreifftiau trefol yn y traddodiad mwy boneddigaidd
tra bod eu cefndryd gwledig yn y traddodiad brodorol. Fel y nodwyd, adeiladwyd
rhai ar gyfer gweithwyr fferm, ond lleolir y mwyafrif yn hen ardal lofaol
Cresswell, Martletwy a Landshipping ac mae’n debyg iddynt gael eu
hadeiladu naill ai gan y perchen-ddeiliad neu ar gyfer gweithwyr yn y
diwydiant glo. Mae’n debyg eu bod yn dyddio o’r cyfnod rhwng
canol a diwedd y 19eg ganrif.
Ers canol yr 20fed ganrif hyd at ei diwedd mae’r broses o foderneiddio
llawer o adeiladau hyn ac adeiladu llawer o anheddau newydd mewn amrywiaeth
o ddeunyddiau wedi trawsnewid treftadaeth bensaernïol y dirwedd wledig.
Mae hyn yn arbennig o amlwg yng nghanolfannau trefol agos Hwlffordd, Aberdaugleddau,
Penfro a Doc Penfro lle y mae pentrefi megis Hook, Llangwm a Llanismel
yn aneddiadau a adeiladwyd yn ystod yr 20fed ganrif yn bennaf a chanddynt
graidd hanesyddol bach.
Tai ystadau, tai mwy o faint a phensaernïaeth
fonheddig
Yn wahanol i bensaernïaeth frodorol ddomestig sydd wedi’i chyfyngu’n
bennaf i’r 19eg ganrif ac i gyfnodau diweddarach, mae’r stoc
o dai ystadau, tai mwy o faint a phensaernïaeth fonheddig o fewn
yr ardal hon yn ymestyn yn ôl dros nifer o ganrifoedd, a cheir enghreifftiau
o’r cyfnod canoloesol drwodd i’r 19eg ganrif. Lleolir tai
caerog canoloesol, nad oes unrhyw un yn byw ynddynt bellach, megis Castell
Coch (Mynwar) ac Eastington (Rhoscrowdder) o fewn yr ardal hon, yn ogystal
â dau o dy mawr de-orllewin Cymru; sef Castell Pictwn a Phlasty
Slebets. Mae’r cyntaf, castell canoloesol sydd wedi’i addasu
gryn dipyn, a’r ail, plasty ‘yn arddull castell’ sy’n
dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif, yn sefyll mewn parcdir helaeth yng nghanol
ystadau enfawr. Fodd bynnag, mae llawer o’r tai ystad a’r
tai mwy o faint yn llawer llai mawreddog. Dechreuodd rhai megis Coedcanlas,
gerllaw Lawrenni, sydd ag elfennau lled-ganoloesol, fel capwt maenor ganoloesol,
tra bod eraill, megis Sandy Haven gerllaw Llanismel, strwythur trawiadol
a chanddo elfennau yn dyddio efallai o’r 17eg ganrif neu o gyfnodau
cynharach, wedi dechrau o bosibl gyda phroses o gaffael tir ac adeiladu
ystadau ar ddechrau’r cyfnod modern. Yn wir, y broses hon o adeiladu
ystadau o’r 16eg ganrif ymlaen a arweiniodd at adeiladu llawer o’r
tai mwy o faint. Cadwyd rhai tai, megis yn Sandy Haven a Choedcanlas,
ond ailadeiladwyd llawer ar ddiwedd y 18fed ganrif ac ar ddechrau’r
19eg ganrif yn yr arddull Sioraidd bonheddig, megis plasty Butterholl
gerllaw Llanismel, sydd bellach yn lled-adfeiliedig, a’r ty trillawr
trawiadol yn Nhrefwrdan. Parhaodd y patrwm hwn o adeiladu ystadau i mewn
i’r 19eg ganrif pan oedd tai mawr yn yr arddull Sioraidd, megis
yn Nhrewaren gerllaw Llanismel, yn dal i gael eu hadeiladu a gerddi yn
dal i gael eu gosod.
Lleolir y mwyafrif o’r tai ystad a’r tai mwy o faint hyn
ar dir ffermio bras ar y naill ochr a’r llall i ddyfrffordd Aberdaugleddau
ac fe’u cysylltir â systemau o gaeau rheolaidd mawr.
Adeiladau fferm
Mae’r mwyafrif llethol o’r adeiladau fferm a adeiladwyd cyn
1900 wedi’u hadeiladu o gerrig ac maent yn dyddio yn ôl pob
tebyg i ddegawdau canol y 19eg ganrif. Mae adeiladau fferm cynharach sydd
wedi goroesi yn gysylltiedig fel arfer ag ystad, megis y rhesi ardderchog
o adeiladau sydd wedi’u gosod o amgylch buarth Fferm Plasty Pictwn.
Am fod ffermydd ystad yn meddu ar fwy o erwau roedd angen adeiladau fferm
mwy o faint arnynt, a chaniataodd y cyfoeth a grëwyd adeiladu adeiladau
gwell. Gallai’r ystadau mwy cyfoethog fforddio ffermydd plas â
rhesi helaeth o adeiladau allan mewn trefniant ffurfiol yn aml o amgylch
buarth fel ym Mhictwn. Ar ystadau llai o faint mae adeiladau fferm o ansawdd
da yn aml wedi’u trefnu o amgylch cowrt iard neu mewn trefniant
lled-ffurfiol â’r prif dy, er enghraifft, y rhes ardderchog
o adeiladau yn Neuadd Herbrandston. Mae’r mwyafrif o ffermydd yn
fwy syml, ond fel arfer mae ganddynt un neu ddwy res o adeiladau fferm,
weithiau mewn trefniant lled-ffurfiol â’r ty. Prin yw’r
enghreifftiau o resi bach unigol o adeiladau wedi’u cysylltu â
thai, ac mae hynny’n cadarnhau’r ddamcaniaeth bod cyfoeth
amaethyddol yr ardal hon yn gymharol uchel. Am fod adeiladau allan ar
y mwyafrif o ffermydd yn cynnwys ysguboriau i storio grawn ac adeiladau
anifeiliaid, fe’u hadeiladwyd pan arferid economi yn seiliedig ar
bori anifeiliaid a ffermio tir âr. Fodd bynnag, mae ysguboriau ar
ffermydd gweddol fach yn llai o faint yn gymesur â maint cyffredinol
eu hadeiladau fferm na’r rhai ar ffermydd mwy o faint, sy’n
awgrymu bod ffermio tir âr yn elfen lai pwysig yn economi’r
fferm. Dengys ysguboriau mawr iawn mewn ardaloedd pori yn bennaf bellach,
megis yr ysgubor adfeiliedig anferth yn Sisters’ House, Mynwar,
fod ffermio tir âr ar un adeg yn elfen bwysig o’r economi
ffermio.
Ers tua 1900, cyflwynwyd amrywiaeth fawr o ddeunyddiau adeiladu, gan
gynnwys brics a haearn rhychog. Mae’n debyg bod adeiladau fferm
o haearn gwrymiog yn dyddio o ganol y 19eg ganrif ar un adeg yn nodwedd
gyffredin yn y dirwedd amaethyddol, yn arbennig siediau gwair pengrwn,
ond erbyn hyn dim ond ar ffermydd llai o faint y maent wedi goroesi. Erbyn
hyn mae gan y mwyafrif o ffermydd sy’n gweithio gasgliadau mawr
o adeiladau fferm o ddur, concrid ac asbestos sy’n dyddio o ddiwedd
yr 20fed ganrif.
Mae cyflwr yr adeiladau fferm hyn a adeiladwyd o gerrig yn amrywio’n
fawr. Mae’r mwyafrif mewn cyflwr da, ond mae nifer sylweddol yn
dirywio, yn arbennig lle nad yw’r ffermydd yn cael eu gweithio bellach;
addaswyd nifer llai yn anheddau.
Adeiladau domestig trefol
Mae’r ddau fath gwahanol o drefi, a gynrychiolir gan drefi canoloesol
Penfro a Hwlffordd, a threfi Doc Penfro ac Aberdaugleddau yn dyddio o’r
19eg ganrif, yn cynnwys mathau cyferbyniol o adeiladau domestig. Nid oes
odid ddim pensaernïaeth ddomestig drefol yn hyn na 1700 wedi goroesi,
ond ym Mhenfro a Hwlffordd mae tai Sioraidd deulawr, trillawr a phedwar
llawr yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn tystio
i gyfoeth y dref yn ystod y cyfnod hwn. Arweiniodd ‘economi gymysg’
y ddwy dref hyn at amrywiaeth fwy eang o ffurfiau pensaernïol: tai
teras o’r 19eg ganrif, eiddo masnachol/domestig yr ardal siopa yn
dyddio o’r 19eg ganrif a thai ac adeiladau eraill a godwyd drwy
gydol yr 20fed ganrif. Mae gan dref Aberdaugleddau rai tai Sioraidd cain
yn ogystal â llawer o adeiladau diweddarach, ond Doc Penfro sydd
â’r nodwedd bensaernïol fwyaf nodedig o unrhyw dref yn
ne-orllewin Cymru. Yma ceir terasau o dai gweithwyr (unllawr a deulawr)
o bob tu i strydoedd llydan wedi’u gosod mewn patrwm grid sy’n
dyddio o ddechrau a chanol y 19eg ganrif. Mae’r terasau o dai deulawr
yn y traddodiad Sioraidd, a cheir mwy o fanylion ar y tai ‘fforman’
mwy o faint ym mhen y strydoedd. Fodd bynnag, graddoliadau mewn maint
ac nid mewn manylion sy’n dynodi’r gwahaniaethau yn y tirlun
cymdeithasol. Wrth groesffordd tua chanol y dref mae adeiladau pen y terasau
yn codi i dri llawr. I’r de o’r brif dref ym Mhennar, ceir
terasau o dai neu fythynnod gweithwyr unllawr o bob tu i strydoedd llydan.
Ceir y math hwn o dy teras yn dyddio o’r 19eg ganrif mewn trefi
eraill megis Penfro ac mewn cyd-destunau gwledig yn agos at ddyfrffordd
Aberdaugleddau, ond ni cheir niferoedd mor fawr unrhyw le arall yn ne-orllewin
Cymru. Y trefi agosaf yn ddaearyddol sy’n cyfateb iddynt o ran nifer
y math hwn o dy teras a geir ynddynt yw rhai o drefi de Iwerddon.
Eglwysi a chapeli
Mae eglwysi canoloesol yn rhoi cymeriad nodedig iawn i dirwedd hanesyddol
dyfrffordd Aberdaugleddau. Mae gan y mwyafrif ohonynt dyrau uchel o gerrig
y gellir eu gweld o bellter mawr, ac yn aml gellir gweld tri neu ragor
o unrhyw fan ffafriol ar hyd y ddyfrffordd. Arweiniodd dwysedd y boblogaeth
ganoloesol, a ffurfioldeb ei system faenoraidd, at batrwm o blwyfi bach,
pob un ag eglwys fawr ac ambell waith hefyd un neu ragor o gapeli anwes
fel y bodolai gynt yn Angle, Caeriw, Dale, eglwysi’r Santes Fair
a Sant Mihangel ym Mhenfro, Slebets a Steynton. Dechreuodd rhai eglwysi
plwyf presennol fel capeli anwes. Mae gan yr eglwysi yr un forffoleg nodedig.
Arweiniodd argaeledd Calchfaen Carbonifferaidd a gloddiwyd yn lleol at
dechneg adeiladu ar raddfa enfawr, yn defnyddio cerrig o ansawdd, lle’r
oedd llawer o’r lle y tu mewn i’r eglwys yn gromennog, sy’n
dyddio fel arfer o’r 14eg ganrif hyd at yr 16eg ganrif. Mae eglwysi
i’r de o ddyfrffordd Aberdaugleddau fel arfer yn gromennog a chanddynt
un neu ragor o gelloedd, ac fel arfer mae ganddynt dwr gorllewinol ac
aleau croes â ‘coridorau sgiw’ yn arwain i mewn i’r
gangell. Fel arfer lleolir cynteddau ar yr ochr ddeheuol ac maent yn gromennog,
ac yn aml maent yn cynnwys tystiolaeth bod siambrau pyrth eglwysi annatod
ar y llawr cyntaf yno gynt. Mae cytiau clychau gorllewinol sgwâr
mawr, yn ffurfio tyredau bach, yn nodwedd anarferol sydd wedi’u
cyfyngu i bob pwrpas i’r rhanbarth (gweler Mynwar a Cosheston).
Mae eglwysi i’r gogledd o’r ddyfrffordd yn debyg, ond maent
yn symlach fel arfer, ac yn aml nid oes ganddynt y cromenni, yr aleau
croes na’r twr. Fodd bynnag, ceir cilfachau côr ymwthiol ar
y naill ochr a’r llall i fae dwyreiniol y gangell a bedyddfeydd
ymwthiol yng nghorff yr eglwys ym aml yn yr eglwysi hyn. Mae’r nodweddion
diffiniol hyn wedi’u cyfyngu bron yn gyfan gwbl i’r rhanbarth
hwn (gweler y ddwy nodwedd hyn yn Herbrandston, Hubberston a Johnston).
Ceir tair eglwys dref aleog fawr yn Hwlffordd ac un ohonynt, sef eglwys
y Santes Fair, yw’r eglwys blwyf fwyaf yn y sir a’r eglwys
anfynachaidd orau o ran ansawdd yng ngorllewin Cymru. Mewn cyferbyniad,
mae’r ddwy eglwys dref ym Mhenfro yn gymharol fach. Mae gan eglwys
Caeriw dwr yn arddull de-orllewin Lloegr yn dyddio o tua 1500. Mae gweddill
yr eglwysi yn yr ardal hon at ei gilydd yn rhai gwledig, ac yn fwy ‘nodweddiadol’.
Mae’r mynwentydd yn Angle a Chaeriw yn cynnwys capeli angladdol
anarferol o ddiwedd y cyfnod canoloesol. Ceir nifer o eglwysi caeëdig,
gwag neu adfeiliedig, er enghraifft Boulston, Hasguard, Newton North,
Pwllcrochan, Paterchurch (Doc Penfro), Slebets (yn dyddio o’r 19eg
ganrif) ac Upton.
Roedd pum ty mynachaidd pwysig yn yr ardal hon cyn y goresgyniad. Mae
Priordy Pill, un o ddibyniaethau’r abaty Tironaidd yn Llandudoch,
y Priordy Awstinaidd yn Hwlffordd, ac eglwys Marchogion Sant Ioan yn Slebets
wedi goroesi i raddau amrywiol, er nad oes unrhyw dystiolaeth o’r
adeiladau confensiynol ar y safle diweddarach wedi goroesi. Mae’r
Priordy Benedictaidd yn Monkton, Penfro, wedi goroesi fel eglwys blwyf
(fel y gwnaeth Slebets am gyfnod byr), ond nid oes unrhyw dystiolaeth
ar wyneb y ddaear o’r freiardy Dominicaidd yn Hwlffordd.
Mae llawer o aneddiadau cnewyllol canoloesol o fewn yr ardal wedi’u
clystyru o amgylch eu heglwysi, er enghraifft yn Angle, Herbrandston,
Llangwm, Rosemarket a Chastell Gwalchmai, ond ceir aneddiadau eraill,
megis Caeriw a Llanismel, a leolir gryn bellter o’r eglwys, sy’n
awgrymu bod yr eglwysi yn sefyll ar safleoedd cynharach. Ar ben hynny,
mae’n amlwg bod rhai safleoedd eglwysig yn dyddio’n wreiddiol
o ddechrau’r cyfnod canoloesol. Rhoscrowdder oedd safle un o saith
‘ty esgob’ Dyfed cyn y goresgyniad ac mae’n cynnwys
yr hyn a all fod yn gapel-y-bedd dros fedd sant. Mae safleoedd capeli
o ddechrau’r cyfnod canoloesol yn cynnwys o bosibl y capel ar ben
y clogwyn yn Angle a’r capel rhydd yng Nghoedcanlas, tra bod nifer
o Henebion Cristnogol Cynnar yn y rhanbarth, gan gynnwys y rhai yn eglwysi
Llanismel a Steynton (a Johnston efallai). Lleolir cistfynwentydd yn agos
at yr eglwysi yn Sain Ffraid a Llanismel.
Mae’r gwaith a wnaed yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i adeiladu
ac adnewyddu eglwysi wedi cael effaith gymharol fach. Ailadeiladwyd ac
adleolwyd eglwys Slebets ym 1840, ond mae’r eglwys newydd bellach
yn wag. Adeiladwyd eglwysi newydd, ar gyfer plwyfi newydd, yn Aberdaugleddau
a Hundleton, tra ailadeiladwyd eglwys Sant Mihangel ym Mhenfro. Fodd bynnag
gwasanaethid trefi newydd Aberdaugleddau a Doc Penfro gan nifer o gapeli
anghydffurfiol.
|