|
ROSEMARKET
CYFEIRNOD GRID: SM 948083
ARDAL MEWN HECTARAU: 117
Cefndir Hanesyddol
Mae hon yn ardal gymeriad fechan sy’n cynnwys pentref a chaeau Rosemarket.
Roedd Maenor ganoloesol Rosemarket, sy’n cyd-ddyddio â’r
plwyf, ar y cychwyn yn aelod o Arglwyddiaeth Haverford. Mae’n amlwg
iddo fod o dan gyd-dirddaliadaeth, pan yn c.1145 fe’i cyflwynwyd,
ynghyd ag eglwys y plwyf, i Ysbytwyr Slebets gan y marchogion William
FitzHait, Robert FitzGodebert a Richard FitzTancard. Parhaodd yr awdurdod
i fod yn nwylo’r Arglwyddiaeth Haverford. Derbyniodd Slebets £24
yn flynyddol gan y faenor yn 1338. Ni ddeellir pwrpas lloc cloddwaith
mawr ym mhen deheuol y pentref yn llawn. Gallai gynrychioli bryngaer o’r
oes haearn, ond awgryma morffoleg y pentref iddo gael ei ailddefnyddio
fel castell yn ystod y cyfnod canoloesol. Fe’i lleolir gerllaw eglwys
y plwyf, ac mae trefniant cynlluniedig o dair stryd gyfochrog yn arwain
i’r gogledd ohoni. Ymddengys na chafodd ei atgyfnerthu mewn carreg
erioed ac, erbyn diwedd y 17eg ganrif o leiaf, roedd wedi cael ei ddisodli
gan blasty. Safai hwn gyferbyn â’r eglwys lle lleolir Cross
Farm heddiw. Yn ystod y diddymiad, disgynnodd y faenor i’r goron
ond tua diwedd yr 16eg ganrif, cipiodd Morys Walter reolaeth dros nifer
o’r rhandiroedd a dros lawer o’r tir ac yn y diwedd, cipiodd
y faenor. Parodd y faenor yn nwylo’r teulu Walter nes yn gynnar
yn y 18fed ganrif. Ymddengys ei fod wedi’i isrannu cyn 1735 pan
osododd y teulu Walter ‘y prif fesiweisiau o’r enw Neuadd
Walter a Neuadd Rosemarket’ ar brydles i William Owen o Landshipping.
Fel y nodir uchod, gorwedda neuadd Walter o dan y Cross Farm presennol.
Saif colomendy, sy’n dyddio, mae’n debyg yn gynnar o’r
17eg ganrif, yn y cae cyfagos. O ffynonellau dogfennol, ymddengys erbyn
diwedd y cyfnod canoloesol, fod Rosemarket yn gymuned amaethyddol fechan
wedi’i chanoli ar y pentref ac wedi’i hamgylchynu gan systemau
caeau agored gyda thir comin tuag at ffiniau’r plwyf. Disgrifia
Howells y modd y llwyddodd Morys Walter i ennill rheolaeth dros nifer
o’r rhandiroedd. Amgaeodd y caeau comin a throdd dir âr yn
borfa, llechfeddiannodd ac amgaeodd dir comin Ei Mawrhydi gan adael i
dai fynd rhwng y cwn â’r brain. Yn ôl arolwg degwm 1843,
ymddengys i’r pentref fod mewn cyflwr llewyrchus. Gallai’r
system o gaeau bach, cymharol rheolaidd sy’n agos at y pentref fod
yn ganlyniad i weithred Walter o gau tiroedd. Fodd bynnag, dengys caeau
hirgul amgaeëdig ar fap y degwm bod y caeau agored wedi’u cau
mewn modd mwy darnog, efallai mor hwyr â’r 18fed ganrif. Erbyn
hyn, mae’r llaingaeau hyn wedi’u huno gan fwyaf yn gaeau hirsgwar,
a’r unig gliw gwirioneddol i’r caeau agored gynt a erys yw
enwau lleoedd megis y fferm o’r enw Westfield. Dengys mapiau o’r
ddeunawfed ganrif fod anheddu yn y pentref yn wasgarog iawn. Roedd anheddau
wedi’u gwasgaru ymhell oddi wrth ei gilydd ar hyd y tair stryd hyn.
Mewnlenwyd llawer o’r gofod hwn yn ystod yr 20fed ganrif. Arferai
ardal fechan o dir comin a oroesodd fod yn union i’r gogledd o’r
pentref. Mae llinell rheilffordd GWR Hwlffordd-Neyland a agorwyd ym 1856
ac a gaewyd yn y 1960au yn croesi’r ardal, ond ni wasanaethwyd y
pentref gan orsaf.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Rosemarket yn ei hanfod yn cynnwys
pentref bach ynghyd â’i gaeau cymdogol, a choetir collddail
ar lethrau coediog serth. Gorwedda ar draws dyffryn ag ochrau serth ac
i’r gogledd o’r dyffryn hwnnw. Mae’r tir sydd uwchlaw’r
dyffryn yn fryniog, ond yn wynebu’r de, a gorwedda rhwng 40m a 60m
uwchlaw lefel y môr. Mae gan y pentref forffoleg gynlluniedig, gyda
phrif stryd wedi’i chyfunioni o’r gogledd-de rhwng dwy stryd
gyfochrog, un i’r gorllewin ac un i’r dwyrain. Mae eglwys
ganoloesol Llanismel, a’r castell posibl mewn safle echelinol ar
ben deheuol y brif stryd. Mae’r stryd hon wedi’i lleoli rhwng
dwy stryd arall sy’n ffurfio ‘lonydd cefn’, er efallai,
nid yn yr ystyr ffurfiol. Serch hynny, mae’n bosibl bod crofftydd
a thofftydd wedi’u gosod allan rhwng y strydoedd mewn system a ymdebygai
i blotiau bwrdais trefol. Mae’r mwyafrif o’r tai sy’n
wynebu’r stryd yn dai sengl ac yn amrywio yn ôl eu cymeriad
a’u dyddiad, gydag anheddau o’r 19eg ganrif ag un neu ddau
lawr, wedi’u hadeiladu o garreg, â thoeau llechi sydd at ei
gilydd yn yr arddull frodorol, wedi’u gwasgaru ymhlith tai a byngalos
o ddiwedd yr 20fed ganrif. Ceir hefyd ddatblygiadau tai ar raddfa fechan
o’r 20fed ganrif. Mae sawl adeilad fferm wedi’u hadeiladu
o garreg yn y pentref yn rhoi gwedd amaethyddol i rannau o’r anheddiad.
Mae ty tafarn a chapel yma. Yn gyffredinol, mae’r ffermydd sydd
yn yr ardal hon yn fach. Y colomendy o gerrig sy’n rhestredig â
gradd II* ar gyrion y pentref, gerllaw’r cyn blasty yw’r unig
adeilad rhestredig. Daw’r pentref i ben yn ddirybudd ar yr ochr
ddeheuol yn erbyn dyffryn ag ochrau serth sydd â mantell drom o
goetir collddail. Yn ddiweddar, mae llinell rheilffordd segur sy’n
rhedeg i lawr y dyffryn wedi’i haddasu yn ffordd ar gyfer beiciau.
Mae caeau bach o borfa wedi’u gwella i’r gorllewin, i’r
gogledd ac i’r dwyrain o’r pentref. Mae llawer o’r gwrychoedd
sy’n amgylchynu’r caeau wedi tyfu’n wyllt, ac mae hyn
ynghyd â’r coetir yn rhoi agwedd goediog i’r ardal.
Mae safleoedd archeolegol yn cynnwys bryngaer/safle castell o’r
oes haearn, ym mhen deheuol y pentref, safle sawl melin, gan gynnwys melin
bannu, ffynnon gysegredig a’r hen reilffordd.
Nid yw’n hawdd diffinio ffiniau ardal gymeriad tirwedd hanesyddol
Rosemarket. Yn ei hanfod, mae’r ardal hon yn ffurfio ardal ragod
rhwng ffermydd mawr gyda chaeau mawr rheolaidd i’r de a thirwedd
fwy toredig gyda ffermydd llai, caeau llai a chlystyrau bach o goetir
i’r gogledd.
Ffynonellau: Howells 1955-56; Jones 1996; King 1988; Ludlow 1998; PRO
D/LLW/30956; Rees 1897; map degwm Plwyf Rosemarket 1843; Arolwg Ordnans
6” Argraffiad Cyntaf. Taflen XXXSE, 1869
|